Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Gwella ansawdd data ystadegol

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn darparu data ystadegol am apeliadau cynllunio a ddefnyddir gan ystod eang o gwsmeriaid gan gynnwys; ein noddwr, Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog, Adrannau Llywodraeth eraill, awdurdodau cynllunio lleol (ACLl), y proffesiwn cynllunio, myfyrwyr cynllunio ac aelodau o’r cyhoedd.  Rydym yn ymwybodol bod angen i’r wybodaeth hon fod yn fanwl gywir ac yn amserol. 

Yn ystod 2005 rhoddwyd cyfres o fesurau ar waith i wella ansawdd data.  Fodd bynnag, mae’r niferoedd enfawr (ee derbyniwyd mwy na 23,000 o apeliadau cynllunio o dan A78 yn 2004-2005) yn golygu na allwn ddiystyru camgymeriadau dynol wrth gofnodi data.  Felly, ym mis Ionawr 2006 lansiwyd menter i sicrhau ein bod yn barod am y cylchoedd nesaf o Werth Gorau a’r Grant Gweithredu Cynllunio.  Y diben yw cyhoeddi yn chwarterol ganlyniad apeliadau o dan A78 yn Lloegr a gwahodd Awdurdodau Cynllunio Lleol i’w gwirio yn erbyn eu canlyniadau eu hunain.

Y manteision i Awdurdodau Cynllunio Lleol:

Cyhoeddwyd y gyfran gyntaf o ddata ar ein gwefan ym mis Ionawr 2006. Anfonwyd e-bost i Awdurdodau Cynllunio Lleol i’w hysbysu o flaen llaw o’r fenter a chadarnhau’r man cysylltu cywir.  Anfonwyd ail e-bost unwaith roedd y data apeliadau ar gael i wahodd Awdurdodau Cyllunio Lleol i roi gwybod i ni am unrhyw gamgymeriadau.  Fel eithriad, cwmpasodd y cysylltiadau cyntaf hyn 2 chwarter, o fis Gorffennaf i fis Rhagfyr 2005.   Yn y dyfodol, cyhoeddir y data bob chwarter a chyhoeddir y data ar gyfer blwyddyn gyfan ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

Cysylltodd 87 o Awdurdodau Cynllunio Lleol â ni ar ôl astudio’r ffigurau cyhoeddedig.  Roeddem yn fodlon iawn ar eu hymatebion cadarnhaol a’u parodrwydd i weithio gyda ni i gywiro camgymeriadau.  Mewn rhai achosion deilliodd yr anghysondebau o wahanol ddehongliadau.  Mewn achosion eraill roedd cofnodion yr Awdurdodau Cynllunio Lleol ar fai, fel y cadarnhawyd gan y llythyr penderfyniad, sef y ddogfen ddiffiniol ym mhob achos.  Fodd bynnag, mae’n rhaid i ni godi ein dwylo a chyfaddef bod achosion lle’r oedd ein cofnodion yn anghywir er gwaethaf ein holl wiriadau. 

Cyhoeddir data diwedd y flwyddyn ar ein gwefan ar ddiwedd mis Ebrill.  Rhoddir gwybod i Awdurdodau Cynllunio Lleol trwy e-bost fel cynt.  Gobeithio y bydd mwy o Awdurdodau Cynllunio Lleol yn achub ar y cyfle i’w wirio yn erbyn eu cofnodion a rhoi gwybod i ni am unrhyw wahaniaethau.  Rydym o’r farn bod y cynnig cyntaf hwn ar ymagwedd gydweithrediadol yn llwyddiannus iawn ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda hyd yn oed fwy o Awdurdodau Cynllunio Lleol y tro nesaf..

Gweler gwefan yr Arolygiaeth Gynllunio: www.planning-inspectorate.gov.uk

Mannau cysylltu ar gyfer ymholiadau:

Nick. Hall
Central Intelligence Unit
The Planning Inspectorate
5/03, Temple Quay House
2 The Square, Temple Quay, Bristol
BS1 6PN
Ebost:Nick.Hall@pins.gsi.gov.uk
Ffôn: 0117 372 6104

Rosemary Cook
Pennaeth yr Uned Wybodaeth Ganolog

>> Nôl i'r Cylchlythyr