Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru
Neges gan y Prif Weithredwr
Gobeithio bod rhifyn cyntaf Cylchlythyr yr Arolygiaeth Gynllunio o ddiddordeb i chi. Mae’r adborth cadarnhaol a dderbyniwyd yn awgrymu ei fod.
Mae’r rhifyn hwn yn ymdrin ag amrywiaeth o destunau. Mae erthygl Ben Linscott yn awgrymu ffyrdd y gall partïon helpu i gyflymu’r broses apelio trwy leihau nifer yr ymchwiliadau a genslir ac a ohirir. Mae Simon Gibbs yn rhannu ei brofiad o ymchwiliad yn cynnwys safleoedd tirlenwi a’r prif fater oedd ymagwedd Asiantaeth yr Amgylchedd at drwyddedau gwastraff. Mae Keith Durrant yn esbonio sut y mae’r Arolygiaeth yn helpu Arolygwyr i gael gwybod yn gyson am ddogfennau cyfarwyddyd ar ddylunio a chynllunio gofodol. Gobeithio y bydd yr erthygl am y System Cynlluniau Datblygu Lleol newydd yng Nghymru o ddiddordeb i ddarllenwyr sy’n gweithio yng Nghymru.
Unwaith eto, os oes gennych unrhyw sylwadau ar yr erthyglau yn y rhifyn hwn, neu awgrymiadau ar gyfer erthyglau yn y dyfodol, anfonwch neges e-bost ataf yn KatrineSporle.news@pins.gsi.gov.uk.
Katrine Sporle
Prif Weithredwraig
Ymchwiliadau a genslir ac a ohirir
Mae ymchwiliadau lle y caiff dyddiadau eu trefnu a’u canslo neu eu gohirio wedyn yn ffynhonnell cryn rwystredigaeth ac oedi ar gyfer pob parti. Mae Ben Linscott, un o Reolwyr Arolygwyr yr Arolygiaeth, yn ymchwilio i’r materion ac yn awgrymu ffyrdd o leihau nifer yr ymchwiliadau a genslir ac a ohirir. Darllenwch yr erthygl.
Darllenwch yr erthygl "Ymchwiliadau wedi'u Canslo a'u Gohirio" >>
Trwyddedau gwastraff
Mae Simon Gibbs, Arolygydd Cynllunio, yn trafod apeliadau mewn dau safle tirlenwi yn Burghfield a Colnbrook lle nad y defnydd parhaol o’r safleoedd at ddibenion tirlenwi oedd y broblem, ond ymagwedd Asiantaeth yr Amgylchedd at roi trwyddedau o dan Reoliadau Tirlenwi (Cymru a Lloegr) 2002 a Rheoliadau Atal a Rheoli Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2000. Darllenwch yr erthygl
Materion dylunio
Mae Keith Durrant, Arolygydd Cynllunio, yn esbonio sut y mae’r Arolygiaeth yn helpu i sicrhau bod penderfyniadau neu argymhellion Arolygwyr yn cymhwyso yn gyson egwyddorion dylunio a chynllunio gofodol da a nodir yn y gwahanol ddogfennau cyfarwyddyd ar bolisi cenedlaethol a lleol a gyhoeddwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Darllenwch yr erthygl.
Cynlluniau Datblygu Lleol yng Nghymru
Creodd Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 system newydd o Gynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) yng Nghymru i ddisodli’r Cynlluniau Datblygu Unedol cyfredol. Yn wahanol i Loegr, mae’r system yng Nghymru yn dal i fod yn seiliedig ar gynllun datblygu defnydd tir unigol. Serch hynny mae’r system CDLl newydd yn wahanol i’r Cynlluniau Datblygu Unedol presennol mewn llawer o ffyrdd pwysig, fel y mae’r erthygl gan Dîm Datblygu’r Arolygiaeth Gynllunio yng Nghymru yn esbonio.
Darllenwch yr erthygl "Cynlluniau Datblygu Lleol yng Nghymru" >>
Cyfarfodydd gyda rhanddeiliaid
Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn cynnal cyfarfodydd gyda rhanddeiliaid. Nod y cyfarfodydd yw gwella cyfathrebu rhwng yr Arolygiaeth Gynllunio a chynrychiolwyr ei rhanddeiliaid. Maent hefyd yn ceisio symbylu ymgysylltu ac atebolrwydd dwyffordd. Darllenwch yr adroddiad ar gyfarfodydd 2005.
Gwella ansawdd data ystadegol
Mae'r Arolygiaeth Gynllunio yn rhoi data ystadegol ar apeliadau cynllunio a ddefnyddir gan ystod eang o gwsmeriaid. Mae Rosemary Cook, Pennaeth Uned Hysbysrwydd Canolog yr Arolygiaeth, yn egluro'r camau a ddefnyddir er mwyn sicrhau bod y data yn fanwl gywir ac yn amserol.
Newyddion Eraill
Rhoi hysbysiad o benderfyniadau Arolygwyr
Yn y dyfodol, mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn bwriadu anfon llythyrau penderfyniad Arolygwyr trwy’r post ac e-bost at bob parti perthnasol yr un pryd, yn ogystal â’u cyhoeddi ar y Porth Cynllunio.
Ar hyn o bryd, anfonir llythyrau penderfyniad at y prif bartïon (awdurdod cynllunio lleol (ACLl) ac asiant/apelydd) trwy’r post dosbarth cyntaf (Recorded Delivery yn achos Apeliadau Gorfodi) ac at bartïon eraill (ACLl nad yw’n ymateb/trydydd partïon â diddordeb) trwy’r post ail ddosbarth.
Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn cyfrannu at newid diwylliant
Rhoddodd Leonora Rozee OBE, Cyfarwyddwraig Polisi’r Arolygiaeth, y prif anerchiad i’r Gynhadledd Cyfraith ac Arfer Cynllunio a gynhaliwyd ar 21 Chwefror 2006. Gellir gweld y cyflwyniad, Sustainable Communities: Change and Challenge, ar wefan yr Arolygiaeth.
Cymerodd Rheolwyr Arolygwyr yr Arolygiaeth Gynllunio yn Lloegr (Keith Holland, Tony Wharton, Wendy Burden, Ben Linscott a Peter Robottom) ran allweddol mewn 9 seminar rhanbarthol a drefnwyd gan y Gwasanaeth Cynghori Cynllunio yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth. Nod y seminarau oedd helpu Awdurdodau Cynllunio Lleol (ACLl) i ddatblygu eu Fframweithiau Datblygu Lleol. Hysbysodd y Rheolwyr Arolygwyr awdurdodau cynllunio lleol o brofiad yr Arolygiaeth Gynllunio hyd yma o’r dogfennau a gyflwynwyd o dan y system newydd a rhoddwyd cyngor yn seiliedig ar y canllawiau ar gyfer asesu pa mor gadarn yw Dogfennau Cynlluniau Datblygu (DCD) a gyhoeddwyd gan yr Arolygiaeth Gynllunio ym mis Rhagfyr.
Mae John Davies, Rheolwr Arolygydd yng Nghymru, yn ymwneud yn agos â datblygu’r system Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) yng Nghymru.
Gall Arolygwyr ddychwelyd i’r un safle
Wrth gwrs, mae o’r pwys pennaf i ddilysrwydd y broses apelio bod Arolygwyr yn gweithredu’n deg, yn agored ac yn ddiduedd. Ymdrinnir â phob apêl yn ôl ei theilyngdod ac ar ôl ystyried yn ofalus nid ydym o’r farn y byddai unrhyw berson teg yn meddwl bod gwir bosibilrwydd y byddai Arolygydd yn dangos gogwydd barn tuag at gynnig apêl am ei fod ef neu am ei bod hi rywbryd yn y gorffennol wedi ymdrin â chynnig arall ar gyfer datblygiad ar yr un safle. Felly penderfynwyd nad oes unrhyw resymau da dros wahardd Arolygwyr rhag ymdrin ag apeliadau ar safleoedd lle y maent wedi ymdrin ag apêl yn flaenorol.