Creodd Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 system newydd o Gynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) yng Nghymru i ddisodli’r Cynlluniau Datblygu Unedol cyfredol (CDU). Yn wahanol i Loegr, mae’r system yng Nghymru yn dal i fod yn seiliedig ar gynllun datblygu defnydd tir unigol. Ond serch hynny mae’r system CDLl newydd yn wahanol i’r Cynlluniau Datblygu Unedol presennol mewn llawer o ffyrdd pwysig, fel yr esbonnir yn yr erthygl hon.
Mae Cynlluniau Datblygu Lleol i fod yn gryno, yn strategol ac yn glir eu canolbwynt. Ar ben hynny dylai gymryd llai o amser i’w paratoi, sef cyfanswm o 4 blynedd sy’n cynnwys cyfnod o 12 mis o’r dyddiad y cyflwynir y cynllun datblygu lleol i’r dyddiad y cyflwynir adroddiad yr Arolygydd. Bydd angen i’r Cynllun fod yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn, gan gynnwys asesu opsiynau trwy brosesau’r Arfarniad Cynaliadwyedd a’r Asesiad Amgylcheddol Strategol, a fydd yn sicrhau bod y Cynllun yn cyflawni datblygu cynaliadwy. Ar ben hynny yn dilyn penderfyniad Llys Cyfiawnder Ewrop ar 20 Hydref 2005, os yw awdurdod cynllunio lleol o’r farn ei bod yn debyg y byddai ei Gynllun Datblygu Lleol yn cael effaith sylweddol ar safle a ddiogelir dan gyfraith Ewrop mae’n rhaid i’r awdurdod wneud Asesiad Priodol o dan Erthygl 6 y Gyfarwyddeb Cynefinoedd. Byddai’r asesiad hwn yn asesu effeithiau’r CDLl yn erbyn amcanion cadwraeth y safle Ewropeaidd a, phan gâi effeithiau negyddol sylweddol eu nodi, byddai’n edrych ar opsiynau eraill i osgoi unrhyw effeithiau niweidiol posibl.
Bydd angen i Awdurdodau Cynllunio Lleol (ACLl) greu mwy o gonsensws ynghylch cynnwys eu Cynlluniau trwy gynnwys y gymuned a rhanddeiliaid yn gynnar ac yn barhaol yn y broses o lunio’r Cynllun. Bydd angen iddynt lunio Cynllun Cynnwys y Gymuned (CCG) sy’n nodi mewnbwn y gymuned a rhanddeiliaid trwy gydol y broses. Mae’n rhaid i’r CCG gael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cynulliad Cymru fel rhan o’r Cytundeb Cyflawni, sydd hefyd yn cynnwys amserlen ar gyfer cyflawni’r CDLl.
Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gynnal archwiliad annibynnol o Gynllun Datblygu Lleol i sicrhau ei fod yn ‘gadarn’. Yr Arolygydd fydd yn gyfrifol am gyflawni’r archwiliad hwn. Bydd yr Arolygydd yn asesu’r cynrychioliadau a’r dystiolaeth a gyflwynwyd adeg archwilio’r cynllun, a bydd yn seilio unrhyw newidiadau i’r Cynllun ar y wybodaeth honno. Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yng Nghymru wrthi’n gweithio ar ddogfen a fydd yn nodi union ystyr ‘cadarn’ o ran Cynlluniau Datblygu Lleol, a sut y caiff ei asesu. Gwneir yr asesiad gan ddefnyddio deg prawf a fydd yn edrych ar agweddau gweithdrefnol, cysondeb, a chydlyniad ac effeithiolrwydd y Cynllun.
Caiff pobl sy’n gwneud cynrychioliadau eu hannog i ganolbwyntio eu sylwadau ar y profion cadernid. Ymdrinnir â’r mwyafrif trwy gyfnewid sylwadau ysgrifenedig fel sy’n digwydd ar hyn o bryd. Cynhelir yr archwiliad gan ddefnyddio yn bennaf weithdrefnau anffurfiol megis sesiynau bord gron a gwrandawiadau, yn hytrach na gweithdrefn ymchwiliad ffurfiol, i gyd-fynd â’r ymdrech gyffredinol i gyflymu’r broses ac yn unol â’r ymagwedd creu consensws.
Un o’r gwahaniaethau mwyaf rhwng systemau’r CDU a’r CDLl yw’r ffaith y bydd adroddiadau Arolygwyr yn gyfrwymol. Cyn hyn, gwnaeth Arolygwyr argymhellion nad oedd yn rhaid i Awdurdodau Cynllunio Lleol eu dilyn. Yn achos adroddiadau ar Gynlluniau Datblygu Lleol, bydd y Cyngor yn gaeth i gasgliadau’r Arolygydd. Mae hyn yn gosod baich trwm ar Arolygwyr, y bydd angen tystiolaeth gadarn arnynt i seilio eu casgliadau arni, yn arbennig o ran cynaliadwyedd cynigion eraill.
Mae angen i awdurdodau gyflwyno Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB) ar eu CDLl i Lywodraeth y Cynulliad. Dylai’r AMB nodi newidiadau sydd eu hangen i gyflawni polisïau’r Cynllun. Bydd hyn yn fodd i sicrhau bod y Cynllun yn gadarn ac yn ymarferol yn yr hirdymor. Meddu ar systemau cywir ar gyfer gweithredu system fonitro yw un o’r profion a ddefnyddir i nodi a yw Cynllun yn gadarn.
At ei gilydd mae’r system Cynlluniau Datblygu Lleol yn ymwneud â chreu cynlluniau cadarn, ymarferol sy’n sicrhau datblygu cynaliadwy yng Nghymru, gan esgor ar ganlyniadau o ansawdd gwell trwy gynnwys y gymuned tra’n parhau i lywio datblygiad.
Tîm Cynlluniau Datblygu, yr Arolygiaeth Gynllunio yng Nghymru