Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Keith DurrantHyfforddiant ar sut i Wneud Penderfyniadau Dylunio

Mae sicrhau gwaith dylunio o safon yn yr amgylchedd trefol a gwledig yn allweddol i greu cymunedau deniadol a chynhwysol.  Hyrwyddwyd cyflawni’r amcan hwnnw o sicrhau cynllunio gofodol da yn ystod y blynyddoedd diwethaf trwy fabwysiadu a chyhoeddi llu o ddogfennau polisi ac arweiniad cenedlaethol a lleol.  Mae’r Arolygiaeth yn effro i’r her o sicrhau bod ei phenderfyniadau neu ei hargymhellion yn cymhwyso’n gyson yr egwyddorion dylunio da a gynhwysir yn y dogfennau hynny.

Felly, fel rhan o ddatblygiad proffesiynol parhaus pob Arolygydd, lansiwyd ymagwedd fesul cam at ddiweddaru eu sgiliau ym mis Rhagfyr 2005.  Mae’n seiliedig ar y rhagosodiad pan fydd dylunio yn ystyriaeth berthnasol, y bydd Arolygwyr yn gwybod, wedi darllen neu’n gallu darllen:

ac y gellir cymryd yn ganiataol bod yr Arolygwyr yn deall y wybodaeth honno.

Fodd bynnag, o gofio mai sgil arbennig Arolygydd yw gwneud penderfyniad trwy gymhwyso gwybodaeth i’r ffeithiau a’r teimladau ym mhob achos, mae hyfforddiant diweddar wedi mynd ymlaen i awgrymu y gellir dilyn proses resymu resymegol.  Gall y broses honno alluogi dangos rhywfaint o wrthrychedd ac mae’n ynysu’r goddrychedd sydd ynghlwm wrth wneud penderfyniadau dylunio, trwy:

ac wedyn (ar ôl ystyried ystyriaethau perthnasol eraill a all fod yn berthnasol, gan gynnwys cyflawni agenda dylunio trefol ehangach ac unrhyw waith liniaru y gellir ei gyflawni)

Cydnabyddir bod Arolygwyr yn dwyn amrywiaeth o sgiliau a phrofiadau proffesiynol i’w gwaith achos, gan gynnwys y rhai â chymwysterau dylunio pensaernïol neu drefol.  Pennir mwy o waith achos i’r olaf pan fydd dylunio yn fater pwysig.  Fodd bynnag, ein hamcan yw sicrhau y bydd ein hymagwedd at wneud penderfyniadau yn helpu pob Arolygydd i chwarae ei ran wrth sicrhau dylunio da.  Er mwyn gwneud hynny, ymgymerwyd ag ail gam o hyfforddiant gwerthfawrogi dylunio yng ngwanwyn 2006, a oedd yn cynnwys arbenigedd o’r tu allan.  

Keith Durrant MA BArch RIBA ARIAS MRTPI FRSA
Arolygydd Cynllunio

>> Nôl i'r Cylchlythyr