Cyflwyniad
1. Argymhellodd yr adolygiad Pen-i-Ben o’r Arolygiaeth Gynllunio, a gyhoeddwyd yn 2004, y dylai’r Arolygiaeth Gynllunio drefnu a chynnal cyfarfod blynyddol gyda rhanddeiliaid. Cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf o’r fath ym mis Ebrill 2004 a gwrandawodd Arolygwyr ar gyflwyniadau gan Randdeiliaid. Roedd llawer o’r farn bod y digwyddiad yn llwyddiant, ond roedd yn fforwm yn rhy fawr ar gyfer creu deialog effeithiol. Felly penderfynwyd cynnal cyfarfodydd rhanddeiliaid mwy penodol gyda grwpiau cwsmeriaid pendant.
2. Diffiniwyd y grwpiau hyn fel:-
a. cwsmeriaid llywodraeth ganolog;
b. panel y cwsmeriaid;
c. y gymuned ddatblygu;
ch. cyrff gyda rôl oruchwylio;
d. cyrff cyfreithiol;
dd. cyrff cyhoeddus;
e. cyrff proffesiynol;
f. grwpiau â diddordeb;
ff. cyrff rhanbarthol.
3. Mae’r papur hwn yn nodi’r materion a godwyd yn y cyfarfodydd a gynhaliwyd yn ystod 2005. Anfonwyd copi at bawb a wahoddwyd i’r cyfarfodydd – gweler y rhestr yn Atodiad 1
4. Ystyriai pob cyfarfod agenda generig, ymarferol, ond cynhwysent hefyd eitemau a oedd yn destun pryder arbennig i sefydliadau unigol. Symbylwyd deialog go iawn, a gynyddodd gyd-ddealltwriaeth ac a nododd feysydd ymarferol ar gyfer gwella gwasanaethau ar gyfer cwsmeriaid.
5. Cytunwyd yn gyffredinol gyda chyfranogwyr, yn hytrach na disgwyl i’r Arolygiaeth lunio cofnodion manwl ar gyfer pob cyfarfod, y câi adroddiad ei lunio, yn nodi’r materion a godwyd ac ymateb yr Arolygiaeth. Mae’r papur hwn yn nodi’r set gyntaf o ganlyniadau o dan y penawdau canlynol:
a. cyd-ymchwiliadau mewn ardaloedd lle y mae angen tai;
b. deall y broses cynlluniau datblygu newydd;
c. polisi ac arfer o ran dychwelyd datganiadau hwyr
a’r
ch. ceisiadau am gostau sy’n deillio;
d. gwaith achos yn ymwneud â hawliau tramwy.
6. Cafwyd y drafodaeth hon yn ystod cyfnod parhaus pan fu’r galw yn fwy nag adnoddau’r Arolygiaeth. Er bod yr Arolygiaeth yn gallu dangos sut yr oedd yr ôl-groniad o apeliadau trwy gynrychioliadau ysgrifenedig wedi’i ddileu a bod mentrau ar waith i gynyddu nifer y gwrandawiadau anffurfiol a oedd yn cael eu cynnal, roedd ymchwiliadau cyhoeddus yn cael eu trefnu hyd at flwyddyn o flaen llaw. Roedd yr Arolygiaeth wedi gwneud hynny er mwyn rhoi sicrwydd i ddatblygwyr, ac roedd yn ymchwilio bellach i’r posibilrwydd o ddwyn cymaint o ymchwiliadau cyhoeddus ymlaen â phosibl.
7. Roedd y datblygwyr a oedd yn bresennol yn pryderu ynghylch goblygiadau ymarferol dod ag ymchwiliadau ymlaen, neu gynnal achosion apêl diweddarach cyn y rhai a oedd wedi’u trefnu eisoes. Eu hawgrym oedd, mewn ardaloedd lle’r oedd angen tai yn arbennig, y dylid trefnu cyd-ymchwiliadau. Argymhellwyd hefyd y:-
a. dylid gofyn i awdurdodau cynllunio lleol a datblygwyr gysylltu â’i gilydd o flaen llaw a chynnig dyddiad sy’n dderbyniol i bob un ohonynt i’r Arolygiaeth;
b. dylid paratoi cyngor ar arfer gorau i ddadlau o blaid gwneud defnydd llawn o ddatganiadau materion (h.y. nid dim ond tir cyffredin);
c. dylid geirio rhesymau dros alw achosion i mewn yn fanwl gywir;
ch. dylid gwneud defnydd helaethach o waith cyn ymchwiliad (naill ai mewn cyfarfodydd neu trwy lythyr) yn nodi:-
8. O fis Tachwedd 2005 ymlaen, gall yr Arolygiaeth Gynllunio nodi bod y sefyllfa o ran yr holl waith achos pwysig yn gwella, lle y mae’r amserlen ar gyfer ymchwiliadau cyhoeddus ar gyfer achosion a alwyd i mewn ac achosion a adferwyd wedi’i lleihau o 52 wythnos i 32 wythnos, sef gwelliant o 40% yn ystod y flwyddyn. Erbyn hyn mae gwaith yn mynd rhagddo i ddwyn pob ymchwiliad cyhoeddus ymlaen yn ystod 2006, gan ddechrau trwy flaenoriaethu apeliadau tai. Lle bynnag y bo modd bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn amserlennu ymchwiliadau sydd heb eu cynnal eto cyn mis Mehefin 2006, ac ymchwiliadau newydd o fewn y cyfnod a nodir yn y rheoliadau (20 wythnos ar gyfer achosion a drosglwyddwyd, 22 wythnos ar gyfer achosion a alwyd i mewn ac achosion a adferwyd).
[Nodyn yr Ysgrifennydd: fel rhan o ymateb y Llywodraeth i adroddiad Barker, mae’r Arolygiaeth bellach yn ceisio amserlennu pob ymchwiliad/gwrandawiad sy’n ystyried 10 neu ragor o dai o fewn 20/22 wythnos i’r dyddiad derbyn a chyhoeddi 80% o benderfyniadau’r Arolygwyr o fewn 30 wythnos i’r dyddiad derbyn a phob adroddiad i’r Prif Ysgrifennydd Gwladol yn unol ag amserlenni statudol. (Chwefror 2006)]
9. Ymwnâi llawer o’r pryder a leisiwyd gan ddatblygwyr yn arbennig â chyfnodau paratoi’r cynlluniau gofodol newydd. Yn y bôn, roedd pryderon go iawn:-
a. na fyddai awdurdodau cynllunio lleol yn cyflwyno sail dystiolaeth gadarn;
b. mai dim ond ar eu safleoedd ffafriedig y byddai awdurdodau cynllunio lleol yn gwneud asesiadau strategol amgylcheddol (SEA)/arfarniadau cynaliadwyedd (SA), gyda’r canlyniad y byddai gwrthwynebwyr yn gyfrifol am ddarparu’r sail dystiolaeth hon ar gyfer safleoedd eraill;
c. na fyddai Arolygwyr yn gwneud digon i astudio synergeddau/materion gorgyffyrddol â chynlluniau gofodol cyfagos ac na fyddent yn darparu esboniadau ar gyfer eu casgliadau;
ch. na châi datblygwyr eu cynnwys yn effeithiol yn y cam paratoi;
d. na rennid gwybodaeth/profiad o arfer gorau ac y byddai ymagweddau myopig yn ennill y dydd;
dd. na allai’r prawf cadernid gymryd lle synnwyr cyffredin da a byddai gorddibynnu arno yn dieithrio’r cyhoedd.
a. bydd yr Arolygiaeth yn darparu cyngor ar arfer gorau o ran llunio Dogfennau Cynlluniau Datblygu gan gynnwys sicrhau bod sail dystiolaeth dda i gynigion;
b. o ran asesiadau strategol amgylcheddol, mae’n debygol y bydd awdurdodau cynllunio lleol yn canolbwyntio ar safleoedd ffafriedig ond byddai angen i unrhyw arfarniad gynnwys ystyried safleoedd eraill;
c. Hyfforddir Arolygwyr i wneud asesiad cytbwys priodol o strategaethau cynlluniau, gan gynnwys darparu rhesymu priodol. Mae hyn yn cynnwys ystyried synergeddau a sicrhau yr ymdrinnir â gorgyffyrddiadau yn gywir;
ch. cyfrifoldeb datblygwyr fydd cymryd rhan yng ngham paratoi’r cynllun, bydd angen i awdurdodau lleol ddangos bod rhanddeiliaid wedi’u cynnwys yn briodol fel y nodir yn eu Datganiadau Cynnwys y Gymuned;
d. bydd yr Arolygiaeth yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Cynghori Cynllunio, Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog, POS a phartneriaid priodol eraill i sicrhau y rhennir arfer gorau a phrofiad. Byddwn hefyd yn defnyddio’r we/gwefan i "gyhoeddi" enghreifftiau ac ymateb i Gwestiynau a Ofynnir yn Aml (COA).
11. Cytunwyd y byddai angen cyfathrebu ardderchog i rannu profiad a dysgu ohono yn y sector drwyddo draw. Yn arbennig, mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn bwriadu lansio cylchlythyr o fis Ionawr 2006 i hyrwyddo dysgu a chyfathrebu.
12. Lleisiodd datblygwyr eu pryderon ynghylch arferion yr Arolygiaeth. Câi datganiadau a dderbyniwyd mewn pryd eu hanfon i’r parti arall. Câi datganiadau hwyr eu dychwelyd i’r parti cychwynnol. Arweiniai hyn yn aml at yr awdurdod cynllunio lleol yn derbyn datganiad y datblygwr, a’r Arolygydd yn penderfynu ar ddiwrnod cyntaf ymchwiliad cyhoeddus p’un a ddylid derbyn y datganiadau hwyr ai peidio. Mewn achos cymhleth gallai hynny arwain at yr ymchwiliad yn cael ei ohirio.
13. Gofynnodd y datblygwyr hefyd am gyngor ar wneud cais am gostau. Mae Arolygwyr (a’r Arolygiaeth) yn parhau i gael ei lywio gan Gylchlythyr 8/93, y mae eu nodau yn rhai adferol a disgyblaethol, nid cosbol. Mae’n rhaid bodloni tri gofyniad er mwyn cael dyfarniad, fel yr ailddatgenir yng Nghylchlythyr 05/2000:
a. mae’n rhaid gwneud cais (ni all yr Arolygydd gychwyn dyfarniadau costau);
b. mae’n rhaid profi ymddygiad afresymol o ran y parti ‘amddiffynnol’;
c. mae’n rhaid bod yr ymddygiad afresymol wedi achosi i’r ceisydd wastraffu arian neu fynd i gost yn ddiangen.
14. Yn unol â’r arweiniad cyhoeddedig, mae’n debyg bod cyflwyno cynrychioliadau yn yr ymchwiliad neu’r gwrandawiad a oedd wedi’u dychwelyd cyn hynny gan yr Arolygiaeth fel rhai a oedd yn rhy hwyr (neu yn wir nas cyflwynwyd erioed cyn hynny) yn gyfystyr ar yr olwg gyntaf ag ymddygiad afresymol ac mae’n debyg bod unrhyw benderfyniad wedyn i ohirio’r ymchwiliad neu’r gwrandawiad (hyd yn oed am gyfnod byr) er mwyn i’r partïon ddarllen y cyfryw ddeunydd yn dystiolaeth ar yr olwg gyntaf o gostau a wastraffwyd neu gostau diangen. Mae’n rhaid penderfynu ar bob cais yn ôl ei deilyngdod a mater i’r Arolygydd penodedig yw penderfynu; mae gweithgarwch monitro mewnol yn cadarnhau bod Arolygwyr fel arfer yn dyfarnu costau o dan y cyfryw amgylchiadau.
15. Roedd problemau wedi bod yn codi mewn gwaith achos ac apeliadau cynllunio yn ymwneud â hawliau tramwy am nad oedd ceiswyr yn cynnwys trydydd partïon mewn trafodaethau. Efallai y byddai angen deddfwriaeth i fynnu bod y cyfrwy drafodaethau yn cael eu cynnal. Câi cynrychiolydd o Glwb Teithio’r Beicwyr ei wahodd i gyfarfod â staff yr Arolygiaeth sy’n ymdrin â gwaith achos yn ymwneud â hawliau tramwy.
16. Byddai’r Arolygiaeth yn gwahodd cyfranogwyr i‘r cylch nesaf o gyfarfodydd blynyddol yn 2006; nodir dyddiadau dros dro yn Atodiad 1.
Ionawr 2006
Atodiad 1
GRŴP RHANDDEILIAID A DYDDIAD Y CYFARFOD |
SEFYDLIAD |
Y Gymuned Ddatblygu |
Ffederasiwn yr Adeiladwyr Cartrefi |
Grwpiau â Diddordeb |
Ymgyrch Diogelu Lloegr Wledig |
Cyrff Cyhoeddus |
Asiantaeth yr Amgylchedd |
Cyrff Proffesiynol |
Y Sefydliad Cynllunio Tref Brenhinol |
Cyrff Cyfreithiol |
Cymdeithas y Bar Cynllunio ac Amgylcheddol |
1. Gwella cyfathrebu dwyffordd rhwng yr Arolygiaeth Gynllunio a chynrychiolwyr cymuned y rhanddeiliaid.
2. Symbylu ymgysylltu ac atebolrwydd dwyffordd rhwng yr Arolygiaeth Gynllunio a chymuned y rhanddeiliaid.
3. Nodi meysydd y mae angen gwella arnynt a chamau gweithredu ar gyfer y dyfodol.
Andrew Whittaker, Ffederasiwn yr Adeiladwyr Tai
Paul Garber, Ffederasiwn yr Adeiladwyr Tai
Faraz Baber, Ffederasiwn Eiddo Prydain
Henry Robinson, Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad
Brian Kingsley-Smith, Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad
Fenella Collins, Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad
Rachel Burns, Consortiwn Manwerthu Prydain
Corinne Swain, Panel Cynghori ar Safonau
Daniel Pullan, Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar
Barry Davies, Sefydliad Ymgynghorwyr Amaethyddol Prydain
Henry Oliver, Ymgyrch Diogelu Lloegr Wledig
Gordon Felway, Clwb Teithio’r Beicwyr
Colin Eastman, Asiantaeth yr Amgylchedd
Esther Kurland, Y Comisiwn Pensaernïaeth a’r Amgylchedd Adeiledig
Jo Russell, Asiantaeth Cefn Gwlad
Charles Wagner, English Heritage
Jane Burgess, English Heritage
Dr Andrew Brown, English Heritage
Kelvin, McDonald, Y Sefydliad Cynllunio Tref Brenhinol
Colin Goodrun, Y Sefydliad Tirlunio
Rachel Fisher, Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig
Hugh Jones, Cymdeithas y Syrfewyr Sir
Lee Searles, Cymdeithas Llywodraeth Leol
PEBA - Robin Purchas
Peter Goatley
Richard Harwood
Harriet Townsend
Cymdeithas y Cyfreithwyr Pat Thomas, S J Berwin
Julia Farthing, Asiantaeth yr Amgylchedd
Moira Fraser,Thomas Eggar
Iain Gilbey, Shoosmiths
Brian Greenwood, Norton Rose
Stephen Taylor, CB Swindon
Steven Durno, Ysgrifennydd
I’w trefnu – yn ôl pob tebyg fe’u cynhelir ar adegau tebyg i gyfarfodydd 2005.
Sheila Rice
Cynorthwy-ydd Personol/Prif Weithredwr
Sheila.Rice@pins.gsi.gov.uk
Ffôn: 0117 372 8965
Alan Payne
Pennaeth Uned Cynorthwyo’r Prif Weithredwr
Alan.Payne@pins.gsi.gov.uk
Ffôn: 0117 372 8371