Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Simon GibbsApeliadau Trwyddedu o dan y Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd: Burghfield a Colnbrook  

Bu amodau trwyddedu ar gyfer y 2 safle tirlenwi hyn (Cyfeirnodau Apêl: APP/PPC/04/09 ac APP/PPC/04/12) yn destun penderfyniad apêl a gyhoeddwyd gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar ddiwedd mis Ionawr 2006.

Mae Burghfield (Reading) a Colnbrook (ger Slough) yn safleoedd tirlenwi hirsefydlog ac nid oedd unrhyw ddadl ynghylch yr egwyddor o barhau i ddefnyddio’r safleoedd at ddibenion tirlenwi yn y naill achos na’r llall – pwnc y ddadl oedd ymagwedd Asiantaeth yr Amgylchedd at osod amodau ar y Trwyddedau Gwastraff a gyflwynwyd gan Reoliadau Tirlenwi (Cymru a Lloegr) 2002 a Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) 2000.

Roedd Gwasanaethau Gwastraff Biffa yn ceisio herio llawer o agweddau ar ymagwedd Asiantaeth yr Amgylchedd at drwyddedu safleoedd tirlenwi o dan y system Trwyddedu Gwastraff newydd.

      Materion cyfreithiol a oedd yn cael eu hystyried

  1. y rhyngwyneb rhwng y gyfundrefn Atal a Rheoli Llygredd a’r gyfundrefn dirlenwi; [Yn arbennig dadl ynghylch mater BAT – y Dechnoleg Orau sydd Ar Gael – a’i pherthnasedd i safleoedd tirlenwi]
  2. y dehongliad cywir o’r gofynion a nodir yn Atodiad I y Gyfarwyddeb Dirlenwi (mae rhan helaeth o Atodiad 1 yn ymwneud â gweithfeydd peirianyddol safleoedd ar waelod y safle tirlenwi); 
  3. egwyddorion cyffredinol y dylid eu cymhwyso i weithgarwch trwyddedu.
  4. “Y rhyngwyneb rhwng y gyfundrefn Atal a Rheoli Llygredd a’r gyfundrefn dirlenwi yw’r prif fater cyfreithiol rhwng y partïon yn yr apeliadau hyn.  Mae’n nodi’r ymagwedd gywir y dylai’r Asiantaeth ei mabwysiadu at reoleiddio safleoedd tirlenwi o dan y cyfundrefnau deddfwriaethol newydd.  Felly mae o’r pwys pennaf, nid yn unig i safleoedd tirlenwi Colnbrook a Burghfield, ond hefyd i weithgarwch rheoleiddio cyffredinol yr Asiantaeth o ran safleoedd tirlenwi yng Nghymru a Lloegr.  Caiff penderfynu’r mater cyfreithiol hwn effaith yn genedlaethol a hefyd, am fod y broses o benderfynu arno yn cynnwys dehongli Cyfarwyddebau Ewropeaidd, ar lefel y CE ac o bosibl mewn Aelod-wladwriaethau eraill.”  (Argymhellion Cyfreithiol Amlinellol yr Asiantaeth, 7 Gorffennaf 2005 gan Kassie Smith, Bargyfreithiwr Asiantaeth yr Amgylchedd).

Ffactor pwysig arall a effeithiodd ar yr apêl hon yw bod y cyfnod rhwng cyhoeddi’r Drwydded a gwrando ar yr apêl wedi gweld datblygiadau yn yr ymagwedd gyffredinol y mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi ceisio ei chymhwyso wrth lunio amodau trwyddedau.  Pennir y cefndir i hyn gan adroddiadau a noddwyd gan y Llywodraeth megis Regulation - Less is More gan y Tasglu Gwell Rheoleiddio, Mawrth 2005. Nodir bwriadau cyfredol yr Asiantaeth o ran trwyddedu yn Delivering for the Environment – a 21st Century Approach to Regulation (DG3.3). Mae’r ymagwedd hon yn canolbwyntio ar ganlyniadau ac mae’n seiliedig ar risg.

O ran y rhyngwyneb rhwng y gyfundrefn Atal a Rheoli Llygredd a’r gyfundrefn dirlenwi a pherthnasedd BAT, astudiais ymadrodd o fewn Croniclad 18 y Gyfarwyddeb Dirlenwi.  Mae’r ymadrodd hwn yn cyfeirio at “nodweddion arbennig y dull tirlenwi o waredu gwastraff” ond nid yw’n manylu ar y nodweddion hyn.

ymchwiliad

 

Ar ôl croesholi’r tystion ynghylch beth yn eu barn hwy y dylai’r “nodweddion penodol” hyn fod, euthum ymlaen i ddweud fy mod o’r farn mai’r canlynol, yn y cyd-destun presennol, oedd “nodweddion arbennig” y dull tirlenwi o waredu gwastraff:

1:      fel dull rheoli gwastraff, mae ar waelod yr hierarchaeth wastraff.

2:      mae’n ddull cymharol syml ag effeithiau hirdymor o bosibl

3:      mae hanes hir o sgîl-effeithiau annisgwyl/annerbyniol o weithgarwch tirlenwi - ee nwy tirlenwi yn mudo a dyfroedd daear ac arwyneb yn cael eu llygru

4:      mae safleoedd ar gyfer tirlenwi fel arfer yn ymgynnig o ganlyniad i weithgarwch echdynnu mwynau – ni ddewisir y cyfryw safleoedd am eu nodweddion cynhenid eu hunain a disgwylir y bydd angen gwneud y gwagle yn “addas i’r diben” trwy waith peirianyddol ar waelod y safle

5:      dim ond un cyfle a geir i wneud gwaith peirianyddol ar waelod y safle.  Mae’n annhebygol iawn y caiff camau a gymerir eu gwrthdroi ac ni ellir eu cywiro yn hawdd unwaith y bydd gweithgarwch gollwng gwastraff yn dechrau.

Strwythur y penderfyniad

  1. Mae a wnelo’r rhan gyntaf ag ystod o ystyriaethau cyfreithiol a fu’n destun cynrychioliadau’r partïon ar dri diwrnod cyntaf y Gwrandawiad. Cyflwynwyd argymhellion ysgrifenedig ar yr ystyriaethau cyfreithiol i mi ar ddechrau ail wythnos yr ymchwiliad ac atodais hwy yn llawn fel Atodiadau i’r penderfyniad.
  2. Ymdriniodd yr ail ag amodau generig yr oedd dadl yn eu cylch.  Mae’r amodau generig hyn yn gyffredin i’r ddwy drwydded yr apeliwyd yn eu herbyn ac maent yn rhan o’r ymagwedd a fabwysiadwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd wrth geisio cymhwyso templed o amodau i bob trwydded ar gyfer tirlenwi gwastraff.
  3. Ymdriniodd y drydedd ag amodau nad ydynt ond yn codi yng nghyd-destun apêl Colnbrook. Mae’r apelydd yn gofyn am i amodau a fyddai’n effeithio ar weithgarwch peirianneg celloedd a rheoli trwytholch gael eu hadolygu.  Mae ystyriaethau cyfreithiol yn codi (yn arbennig o ran cymhwyso gofynion technegol a geir yn Atodiad 1 y Gyfarwyddeb). Ar ben hynny edrychir ar ba mor addas a derbyniol yw’r cynllun hwn gan roi sylw i gyd-destun daearegol a hydrolegol arbennig safle Colnbrook.

Daeareg
Lleolir y safle o fewn Clai Llundain, sy’n gorwedd ar Welyau Reading ac yn y pen draw ar ddyfnder, ar y Sialc. Yn wreiddiol yn gorwedd dros Glai Llundain roedd dyddodion Gro Ceulan ond fe’u symudwyd erbyn hyn o’r safle trwy weithgarwch echdynnu mwynau.  Mae’r dyddodion hyn yn dal i fod yn eu lle wrth ffin y safle.
Hydroddaeareg:
Ceir dŵr daear o fewn y Dyddodion Gro Ceulan gerllaw (a ddosberthir yn ddyfrhaen o bwys) ac o fewn terfynliniau dyfrddwyn (strata tywodlyd/siltiog) yng Ngwelyau Reading (a ddosberthir fel arfer yn ffurfiant ‘nad yw’n ddyfrhaen’ ond y gellid ei ddosbarthu yn ‘fân ddyfrhaen lle y mae’n dwyn dŵr).
Hyd yma, ni nodwyd unrhyw ddŵr daear o fewn Clai Llundain ar y safle, a dosberthir y ffurfiant hwn yn un ‘nad yw’n ddyfrhaen’ gan Asiantaeth yr Amgylchedd.
Mae lleoliad hydrolegol yr ardal yn canolbwyntio ar bresenoldeb Nant  Horton sy’n rhedeg ar hyd ffin ddwyreiniol y safle ac yn croesi cornel dde-ddwyreiniol y safle.  Mae Nant Horton yn llifo i mewn i ardal o weithfeydd mwynau sydd dan ddŵr ger Wraysbury, sy’n ymarllwys yn y diwedd i Afon Tafwys.

Detholiad o daflen ffeithiau Colnbrook ar wefan cwmni Biffa www.biffa.co.uk/content.php?name=services/ landfill/profiles/colnbrook.html

Ymdriniodd pedwaredd ran fy mhenderfyniad â materion yn codi yng nghyd-destun ystyriaethau safle-benodol yn Burghfield. Disgrifir y safle ar wefan Biffa.

www.biffa.co.uk/content.php?name=services/ landfill/profiles/burghfield.html

Simon Gibbs BA MSocSc MA MRTPI
Arolygydd Cynllunio

>> Nôl i'r Cylchlythyr