Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Arolwg Boddhad Cwsmeriaid Yr Arolygiaeth Gynllunio 2005/06

Mae'r Arolygiaeth Gynllunio wedi comisiynu arolwg boddhad cwsmeriaid blynyddol sy'n trafod pob maes gwasanaeth ers 2002.  Roedd arolwg eleni (2005/06) yn cynnwys sampl ar hap o 4000 o gwsmeriaid, a dychwelwyd 1535 holiadur, sef cyfradd ymateb o 38%. Dengys canlyniadau'r arolwg fod y mwyafrif o ymatebwyr (67%) yn fodlon neu'n fodlon iawn â'r Arolygiaeth Gynllunio.
(50% yn fodlon, 17% yn fodlon iawn). Mae boddhad cyffredinol â'r Arolygiaeth Gynllunio wedi cynyddu o 64% yn 2004 i 67% yn 2005.   

Mae staff yr Arolygiaeth Gynllunio wedi sgorio'n uchel am gwrteisi (roedd 87% o ymatebwyr yn fodlon neu'n fodlon iawn â chwrteisi staff) a chymwynasgarwch (roedd 79% o ymatebwyr yn fodlon neu'n fodlon iawn â chymwynasgarwch staff) dros ganlyniadau’r pedair blynedd diwethaf. Derbyniwyd sgoriau uchel hefyd ar gyfer rhinweddau eraill (eglurder gohebiaeth, cyflymder ymdrin â holiadau a galwadau ffôn).

Graddiwyd perfformiad Arolygwyr mewn ymchwiliadau yn uchel hefyd. Teimlwyd bod yr Arolygwyr wedi amlinellu'r camau yn glir (94%), a'u bod yn gwrtais (93%).  Roedd dros 80% o ymatebwyr yn cytuno â'r holl agweddau a nodwyd, yn cynnwys rheoli'r ymchwiliad yn effeithiol (89%) tra'n sicrhau nad oedd y camau yn dychryn pobl (82%)

 Ceir adroddiad llawn yr arolwg ar wefan yr Arolygiaeth Gynllunio yn :  http://www.planning-inspectorate.gov.uk/pins/reports/customer_report_2005.pdf

David Halstead
Uned Bolisi yr Arolygiaeth Gynllunio

>> Nôl i'r Cylchlythyr


Sut i edrych ar ddogfennau PDF

Gallwch edrych ar dogfennau PDF gan ddefnyddio Acrobat Reader gan Adobe. Gallwxh lawrlwytho Acrobat Reader am ddim drwy gwefan Adobe. Edrychwch ar Access Adobe a am wybodaeth ar sut y gall bobl a anableddau gweledol gael y gorau or meddalwedd hon.

Llawrlwytho Acrobat Reader