Ymunais â'r Arolygiaeth Gynllunio ar ôl 19 o flynyddoedd o fewn Llywodraeth Leol. Roeddwn yn gweithio mewn adran rheoli datblygiadau prysur mewn awdurdod yng Ngogledd Llundain. Yn ystod fy amser o fewn Llywodraeth Leol roeddwn wedi dod yn gyfarwydd ag agweddau penodol ar waith Arolygwyr Cynllunio. Bu i gyfrifoldeb a heriau'r swydd apelio ataf. Mae cael y gair olaf yn wahanol iawn i weithio i Awdurdod Lleol!
Treuliais y pythefnos cyntaf yn cael fy hyfforddi ym Mryste. Roedd yn deimlad ysgogol a braf cael bod mewn amgylchedd dysgu unwaith eto. Mae hyfforddiant yn cynnig trosolwg newydd ar rai testunau cyfarwydd ac weithiau mae angen elfen o ddad-ddysgu. Mabwysiedir dull trylwyr, proffesiynol a realistig o hyfforddi. Mae hyfforddiant hefyd yn creu cysylltiadau â'r Uwch Hyfforddwyr Arolygwyr sef y pwynt cyswllt cyntaf fel arfer ar ôl hyfforddiant. Ar lefel fwy personol, bu i'r hyfforddiant hefyd arwain at wneud ffrindiau gyda'm cyd-recriwtiaid sy'n ffynhonnell arbennig o gyngor anffurfiol pellach a hiwmor.
Mae'r mis cyntaf o waith achos wedi darparu amrywiaeth o achosion. Ceir cryn dipyn o hyblygrwydd i drefnu’r diwrnod gwaith neu'r wythnos waith i fodloni eich gofynion eich hun (o fewn rheswm!). Mae'r cymorth o safbwynt proffesiynol a thechnegol ar gael yn hawdd ac mae bob amser yn ddefnyddiol. Mae'r gwaith yn feddyliol heriol, ond rhydd lefel uchel o foddhad a'r ymdeimlad o wneud gwaith gwerth chweil. Yn yr ychydig fisoedd nesaf byddaf yn edrych ymlaen at amrywiaeth o achosion, gyda hyfforddiant ar gyfer Gwrandawiadau ym mis Gorffennaf ac ar ôl hynny Ymchwiliadau Cyhoeddus ym mis Rhagfyr.
Mae'r diwrnodau a dreulir gartref yn ysgrifennu penderfyniadau yn dawel diolch byth ac yn fy ngalluogi i ganolbwyntio, ar wahân i ymweliadau rheolaidd y gyrrwr dosbarthu yr wyf yn ei alw wrth ei enw cyntaf bellach.
Cynhelir ymweliadau â safle bob pythefnos fel arfer. Ar y cyfan, gallwch eu trefnu i fodloni eich hun o ran amser y dydd, trefn a pha ddiwrnod. Ar ôl ychydig wythnosau dewch i'r arfer ag amcangyfrif amserau teithio ac amser ar gyfer yr ymweliad ei hun. Fodd bynnag, ni all unrhyw beth ragweld y sefyllfa ar yr M25.
Mae'n hanfodol cyrraedd ar amser ac fel arfer bydd cyrraedd yr ardal yn gynnar yn eich galluogi i roi sicrwydd i bartïon eich bod eisoes wedi cael cyfle i edrych ar gymeriad yr ardal. Os bydd unrhyw un o'r prif bartïon eraill yn cyrraedd yn hwyr gall effeithio ar eich ymweliadau dilynol, a bydd angen i chi osod 'cordon sanitaire' o'ch amgylch.
Dechreuais ar gychwyn yr hyn a gofnodwyd fel y mis Mawrth oeraf ers dau ddegawd. Mae eira, gwynt a glaw yn dywydd sydd wedi amharu ar y cynlluniau gorau.
Felly yr unig bethau y byddwn yn eu newid hyd yma fyddai: dechrau gweithio yn yr Haf (nid yw'n gwneud unrhyw wahaniaeth yn y wlad hon fwy na thebyg) ac yn ail, gofyn am 'Sat-Nav' fel anrheg Nadolig.
Tim Wood