Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru
Neges gan y Prif Weithredwr
Bwriadwyd y Cylchlythyr hwn i apelio at gynulleidfa eang, felly rwy'n arbennig o falch bod ein herthygl gyntaf gan rywun o'r tu allan i'r sefydliad. Ysgrifennodd Martin Edwards, bargyfreithiwr, am Ddatganiadau Tir Cyffredin.
Mae'r rhifyn hwn hefyd yn cynnwys erthygl ynglŷn â seminar hyfforddiant gwastraff i amlinellu'r hyn y gobeithir y bydd ymagwedd newydd yr Arolygiaeth tuag at hyfforddi Arolygwyr. Ar nodyn ysgafnach, mae Arolygydd a recriwtiwyd yn ddiweddar yn rhannu rhai argraffiadau a phrofiadau o'i ffordd newydd o fyw.
Rwy'n falch iawn bod gwaith caled a chyflawniadau dau o'n Swyddogion Cynllunio, Alan Nettey a Judith Montford wedi'u cydnabod gan sefydliadau allanol. Ceir manylion llawn yn yr adran Newyddion Arall.
Mae croeso i chi anfon unrhyw sylwadau ar y rhifyn hwn, neu awgrymiadau ar gyfer erthyglau'r dyfodol ataf, sef KatrineSporle.news@pins.gsi.gov.uk.
Katrine Sporle
Prif Weithredwraig
Datganiad Tir Cyffredin: cyfle a gollwyd?
Dylai Datganiadau Tir Cyffredin leihau'r materion sy'n achos anghydfod mewn ymchwiliad. O ganlyniad, dylai profion tystiolaeth ac ymchwiliadau'r ddau dyst fod yn fyrrach. Mae'r Bargyfreithiwr Martin Edwards yn ystyried yr hyn sy'n digwydd yn rhy aml yn ymarferol.
Darllenwch yr erthygl "Datganiad Tir Cyffredin: cyfle a gollwyd" >>
Ymagweddau Newydd tuag at Hyfforddi Arolygwyr
Ar 24 Chwefror 2006, cynhaliodd yr Arolygiaeth seminar diweddaru hyfforddiant gwastraff - sef y digwyddiad cyntaf o'r hyn y gobeithir y daw i fod yr ymagwedd safonol tuag at ddiweddaru hyfforddiant Arolygwyr. Mynychwyd y sesiwn hyfforddi, a oedd yn rhan o ymrwymiad yr Arolygiaeth tuag at ddidwylledd drwy ddarparu cyfarwyddyd a chyfle i drafod polisi diwygiedig yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol a Defra, gan gynrychiolwyr pob parti sy'n ymwneud â rheoli gwastraff. Ceir adroddiad ynglŷn â'r digwyddiad gan Peter Robottom, y Rheolwyr Arolygydd ar gyfer Gwaith Achosion Mawr ac Arbenigol.
Darllenwch yr erthygl "Ymagweddau Newydd tuag at Hyfforddi Arolygwyr" >>
Arolwg Boddhad Cwsmeriaid 2005/06
Mae'r Arolygiaeth Gynllunio wedi comisiynu arolwg boddhad cwsmeriaid blynyddol sy'n trafod pob maes gwasanaeth ers 2002. Roedd arolwg eleni (2005/06) yn cynnwys sampl o 4000 o gwsmeriaid a ddewiswyd ar hap. Ceir adroddiad gan David Halstead o Uned Polisi yr Arolygiaeth ar rai o'r canlyniadau.
Darllenwch yr erthygl "Arolwg Boddhad Cwsmeriaid 2005/06" >>
Sampl o Amodau ar gyfer Safleoedd Carafannau Sipsiwn a Theithwyr
Yn ddiweddar cyhoeddodd yr Arolygiaeth Gynllunio nifer o amodau sampl y mae'n argymell bod Arolygwyr yn eu defnyddio, lle bo'n briodol, i roi caniatâd cynllunio ar gyfer safleoedd carafannau sipsiwn a theithwyr. Byddai'r amodau hefyd yn addas i'w defnyddio gan awdurdodau cynllunio lleol wrth roi caniatâd o'r fath.
Diwrnod ym Mywyd Arolygydd Newydd
Mae Tim Woods - aelod cymharol newydd o staff - yn rhannu rhai o'i brofiadau o'i fywyd fel Arolygydd Cynllunio
Golwg Plentyn ar Wrandawiad
Mewn Gwrandawiad diweddar a gynhaliwyd yn ystod wythnos hanner tymor, nid oedd yr apelydd yn gallu trefnu gofal ar gyfer ei phlant, felly daeth hi â nhw gyda hi i'r gwrandawiad gyda chyflenwad o bapur a phennau blaen ffelt. Er mwyn difyrru'r plant, awgrymodd yr Arolygydd eu bod yn llunio darlun o'r achos. Gwnaeth y cynrychioliad o gynllun gwrandawiad nodweddiadol gymaint o argraff ar yr Arolygydd meddyliodd ei fod yn haeddu cylchrediad ehangach!

Newyddion arall
Cyfarfod blynyddol Cymorth Cynllunio
Roedd yn anrhydedd i Gyfarwyddwr Polisi'r Arolygiaeth, Leonora Rozee, OBE, dderbyn gwahoddiad i fod y prif siaradwr yng Nghyfarfod Blynyddol diweddar Gwasanaeth Cymorth Cynllunio Gorllewin Canolbarth Lloegr a gynhaliwyd yn Siambrau St Philips, Birmingham, ddydd Mercher 14 Mehefin.
Mynychwyd y digwyddiad gan tua 50 o bobl yn cynrychioli ystod o sefydliadau, yn cynnwys cynllunwyr awdurdodau lleol ac aelodau'r cyngor, gwirfoddolwyr Cymorth Cynllunio, Swyddfa'r Llywodraeth ar gyfer Gorllewin Canolbarth Lloegr, cyfreithwyr lleol, a chymdeithas trigolion lleol. Siaradodd Clive Harridge, Llywydd y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol, am fenter Pencampwyr Cymunedol Cymorth Cynllunio a lansiwyd gan y Farwnes Andrews yn gynharach eleni.
Llun o Leonora gyda llywydd y Sefydliad Cynllunio trefol Brenhinol Clive Harridge a John Randall, Cwnsler y Frenhines, Pennaeth Grŵp Cyfraith Cyhoeddus
Rhoddodd Leonora anerchiad ar y pwnc "Rôl yr Arolygiaeth Gynllunio a'r System Cynllun Datblygu newydd". Bu adborth o'r digwyddiad yn gadarnhaol iawn. Mae'r Arolygiaeth gynllunio yn falch iawn i gefnogi Cymorth Cynllunio a'r gwaith gwerthfawr a gyflawnir ganddynt. Mae eu gwaith yn dod yn fwyfwy pwysig i helpu'r sawl nad ydynt yn gyfarwydd â'r broses i ymdopi â'r system Cynllun Datblygu drwy "flaen-lwytho" newydd oherwydd gallant weithredu fel cyfrwng cyfathrebu rhwng cynllunwyr awdurdodau lleol a'u cymunedau lleol.
Gwobrau i Staff yr Arolygiaeth Gynllunio
Cydnabuwyd gwaith caled ac ymroddiad dau o Swyddogion Cynllunio'r Arolygiaeth gan wobrau yn ddiweddar.
Cyflwynwyd Gwobr Partneriaeth Walter Tull i Alan Nettey am Ragoriaeth a Pherfformiad Eithriadol mewn seremoni ym Mryste ar 6 Mai. Enwebwyd Alan am y wobr gan Tony Hewitt, Rheolwr Cydberthnasau yn y Ganolfan Cyflogaeth a Datblygu Menter (CEED) am ei ymdrechion a'i gyflawniadau yn ystod y tair blynedd ddiwethaf wrth ddatblygu gyrfa mewn cynllunio, gyda chymorth gan yr Arolygiaeth Gynllunio.
Cyflwynwyd y wobr, yn y categori datblygu gyrfaol ac academaidd, i Alan gan Carl Saunders (cyn bêl-droediwr gyda chlwb Bristol Rovers). Roedd y bobl adnabyddus eraill a fynychodd y digwyddiad yn cynnwys Tony Bullimore (hwyliwr ac entrepreneur), arwr bachgendod Alan, sef John Barnes (cyn bêl-droediwr Lerpwl a Lloegr), Paul Stephenson (ymgyrchydd dros hawliau cyfartal ac addysg ar gyfer grwpiau sydd dan anfantais) a Grant Marshall (o'r grŵp cerddorol Massive Attack).
Llun o Alan gyda John Barnes ar ôl derbyn y wobr

Mae gwobrau Walter Tull, sy'n dathlu cyflawniadau pobl ifanc o gefndir difreintiedig, yn datblygu i fod yn ddigwyddiad rhanbarthol blynyddol sefydlog.
Yn seremoni Wobrwyo Genedlaethol PATH (Llwybr Hyfforddi Gweithredu Cadarnhaol) ar 4 Gorffennaf, derbyniodd Judith Montford wobr Cynlluniwr Hyfforddeion y Flwyddyn Path 2006. Roedd ei henwebiad yn nodi ei chymhelliant diderfyn, ei brwdfrydedd a'i gwaith caled parhaus.
Llun o Judith gyda'i gwobr
Noddwyd y wobr gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol, ac fe'i cyflwynwyd gan Martin Willey, Cadeirydd Rhwydwaith Adfywio'r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol. Yn ogystal enwebwyd yr Arolygiaeth ar gyfer gwobr Darparwr Lleoliadau'r Flwyddyn 2006. Enwebwyd Susannah guest, un o Uwch Swyddogion Cynllunio'r Arolygiaeth, am y wobr Arolygwr Lleoliadau'r Flwyddyn 2006.