Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Datganiad Tir Cyffredin: Cyfle a gollwyd?

Un o'r ffactorau allweddol er mwyn llwyddo fel tyst arbenigol mewn ymchwiliad cynllunio yw paratoi'n dda. Ni all yr hen ddihareb filwrol methu paratoi, paratoi i fethu fod yn fwy gwir. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer tystion arbenigol wrth iddynt baratoi eu profion tystiolaeth. Er hynny, yn fy mhrofiad i anwybyddir y datganiad tir cyffredin gan y partïon tan y funud olaf, gan felly tanseilio ei ddiben a'i werth.

Diffinnir datganiad tir cyffredin fel "datganiad ysgrifenedig a baratowyd ar y cyd gan yr awdurdod cynllunio lleol a'r apelydd, ac sy'n cynnwys y wybodaeth ffeithiol gytunedig am y cynnig sy'n destun yr apêl". Fel y mae Atodiad 3(ii) i Gylchlythyr 05/00 yn egluro, dylai cynnwys deunydd cytunedig yn y datganiad tir cyffredin arwain at brofion tystiolaeth byrrach ac ymchwiliadau byrrach gan y dylai hwyluso'r broses o gyfyngu'r materion sy'n destun anghydfod. Mae'n dilyn, yn ddamcaniaethol o leiaf, y dylai cwmpas a chynnwys datganiad fod wedi'i gytuno ymhell cyn i'r tystion ddechrau paratoi eu profion tystiolaeth, ac yna gall y tystion gynhyrchu profion sy'n canolbwyntio ar gymhwyso'r ffeithiau hynny i'r ystyriaethau polisi a chynllunio eraill sy'n berthnasol i'r ymchwiliad. Dyma paham fod yr arfer o baratoi datganiadau tir cyffredin yn hwyr yn peri dryswch.

Un rheswm a roddir weithiau am beidio â chytuno ar y datganiad yw bod yn ochr yn amau'r llall o geisio gorfodi "consesiynau" drws cefn yn rhith ffeithiau cytunedig. Mae hyn yn arbennig o wir wrth gytuno pa bolisïau cynllunio sy'n berthnasol i'r cynnig. Yn fy marn i mae hon yn ymagwedd ofalus ddiangen oherwydd nid yw perthnasedd canfyddedig yn effeithio ar y pwys y dylid ei roi ar y polisi, os o gwbl. Fel y mae paragraff 4 o Atodiad 3(ii) yn egluro dylai datganiadau fod yn ffeithiol a ni ddylent gynnwys barn a sylwadau. Nid oes rheswm hefyd pam na ddylai datganiad gofnodi'r meysydd hynny lle nad yw cytundeb yn bosibl.

Wrth gwrs ni all arolygydd fod yn gyfyngedig gan ddatganiad, ond gall fod angen i'r arolygydd ddarparu cyfle i'r prif bartïon wneud sylwadau os yw ef neu hi yn debygol o gymryd safbwynt gwahanol (weithiau mae'r llysoedd yn cyfeirio at hyn fel yr egwyddor "o gael cyfle teg" - gwelir Fairmount Investments Ltd v Yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd[1976] 1 WLR 1253).

Mae'n drueni bod y cyfleoedd a ddarperir gan y datganiadau hyn yn cael eu colli. Gallai diwygio'r rheolau er mwyn i'r datganiad gael ei baratoi a'i gytuno o fewn, dywedir, pedair wythnos ar ôl cyfnewid y datganiadau achos fod yn un ateb. Byddai wedyn yn galluogi'r tystion i gynhyrchu profion mwy cryno. Gall gael y fantais ychwanegol o annog deialog rhwng y partïon a gallai, mewn rhai achosion, hwyluso setliad a negodwyd heb yr angen am ymchwiliad.

Martin Edwards
39 Essex Street

>> Nôl i'r Cylchlythyr