Ar 24 Chwefror 2006 cynhaliodd yr Arolygiaeth yr hyn y gobeithir y bydd yr ymagwedd safonol tuag at ddiweddaru hyfforddiant ar gyfer Arolygwyr fel rhan o'i ymrwymiad tuag at ddidwylledd trwy ddarparu cyfarwyddyd a chyfleoedd i drafod polisïau diwygiedig Yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol a DEFRA ym mhresenoldeb cynrychiolwyr pob parti a allai fod yn ymwneud a gwaith achosion cynllunio gwastraff.
Yr amcan oedd cyflawni dealltwriaeth a rennir o gymhwyso PPS10 (a PPS23 cyhyd y bo'n berthnasol); y Strategaeth Rheoli Gwastraff ddiwygiedig 2006; canllawiau cyfatebol ar gyfer Cymru a chyngor arfer gorau ar faterion a allai ddod gerbron yr Arolygiaeth Gynllunio, yn cynnwys Cyfarwyddebau sylfaenol y UE ac arwyddocâd technolegau sy'n ymddangos.
Mynychodd 73 cynrychiolydd, yn cynnwys 15 o Swyddfeydd y Llywodraeth, y Diwydiant Gwastraff ac Awdurdodau Cynllunio Gwastraff. Roedd nifer y cynrychiolwyr allanol ychydig yn is na'r hyn y gobeithiwyd gan nad oedd rhai o'r rheini a wahoddwyd yn gallu mynychu. Yn anffodus nid oedd Cymorth Cynllunio, y bwriadwyd i gynrychioli'r cyhoedd, yn gallu mynychu. Er hynny, yn y bore roedd yn bosibl i ni gael cyflwyniadau gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol a DEFRA a Llywodraeth y Cynulliad; gan Gyngor Sir Hampshire a Chyngor Caerffili yn rhoi safbwynt Awdurdodau Gwastraff a chan y Gymdeithas Gwasanaethau Amgylcheddol yn rhoi safbwynt y diwydiant. Yn y prynhawn roedd yn bosibl cynrychioli pob ochr mewn tair sesiwn gweithdy paralel lle roedd yn bosibl trafod y materion yn fwy manwl.
Mae'n amlwg o siarad â chynrychiolwyr yr Arolygiaeth Gynllunio a chynrychiolwyr allanol y croesawyd y cynrychioliadau a bu'r sesiynau trafod yn ddefnyddiol o ran annog dealltwriaeth o safbwyntiau gwahanol. Ar sail adborth gan 57 cynrychiolydd, roedd 96% o gynrychiolwyr yn graddio'r seminar fel da iawn/da/boddhaol, ac roedd 91% yn teimlo ei fod wedi cyflawni ei amcanion. Er rydym yn cydnabod y bu problemau cychwynnol megis elfen o orlwytho gwybodaeth yn y bore trwy geisio ymdrin â'r dimensiwn Cymreig yn ogystal â dau gyflwyniad gan Adrannau Seisnig a byddai mwy o strwythur i rai o'r sesiynau gweithdy wedi cynorthwyo'r trafodaethau, mae'n amlwg roedd cynnydd yn y gyd-ddealltwriaeth o'r heriau rydym yn eu hwynebu. Er enghraifft, nododd John Bolden o Cory Environmental ar ran y Gymdeithas Gwasanaethau Amgylcheddol y byddai'n pwysleisio i'w aelodau yr angen am eu hymglymiad cynnar wrth baratoi Adrannau Cynllunio a Datblygu gwastraff, gan mai dim ond trwy flaen-lwytho o'r fath y byddem yn sicrhau'r cyfleusterau cywir yn y mannau cywir ar yr amser cywir. Rwy'n meddwl bod llwyddiant Hampshire wedi gwneud argraff fawr arnom o ran sicrhau gweithredu llosgi a phrosiectau dadleuol eraill gyda chyn lleied o wrthwynebiad o ganlyniad i ymglymiad cymunedol ystyrlon ar y cychwyn.
Rydym yn awyddus i adeiladu ar sail y llwyddiant hwn, ac mae'r adborth yn ein helpu i ystyried gwelliannau i amseriad a strwythur seminarau'r dyfodol, ond disgwylir y cynhelir mwy o ddigwyddiadau tebyg dros y misoedd i ddod o fis Medi ymlaen mewn lleoliadau rhanbarthol amrywiol.
Peter Robottom MA DipTP MRTPI MCMI
Rheolwr Arolygydd, Gwaith Achosion Mawr ac Arbenigol