Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru Cyhoeddiad 4

Katrine Sporle

Neges gan y Prif Weithredwr

Croeso i'n 4ydd Cylchlythyr, a fydd, gobeithio, yn ddiddorol ac yn optimistaidd i chi -  yn ddiddorol o ran yr amrywiaeth o bynciau ac yn optimistaidd gan y teimlaf, er gwaethaf heriau niferus, fod cynnydd yn cael ei wneud. Mae'r Arolygiaeth Gynllunio wrthi'n rhoi ei chynllun adfer ar waith sydd â'r nod o ddileu pob ôl-groniad erbyn mis Chwefror y flwyddyn nesaf ac rydym bellach yn gweld y Dogfennau Datblygu Cynlluniau cyntaf yn dod drwy'r system, sydd yn ein galluogi i gyd i ddysgu, symud ymlaen a gwneud cynnydd cadarnhaol.

Gobeithio y byddwch yn cymryd yr amser i rannu eich sylwadau a'ch profiadau eich hun gyda ni.  A byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi ychydig funudau o'ch amser i gwblhau'r ffurflen adborth fel y gallwn wella ein cylchlythyr nesaf yn unol â'r hyn yr ydych am ei weld.

Mae croeso i chi anfon unrhyw sylwadau ar y rhifyn hwn, neu awgrymiadau ar gyfer erthyglau'r dyfodol ataf, sef KatrineSporle.news@pins.gsi.gov.uk.

Katrine Sporle
Prif Weithredwraig

 

Penderfyniadau'r Comisiynydd Gwybodaeth ar ryddhau adroddiadau'r Arolygydd yn gynnar

Logo Rhyddid GwybodaethEr nas ystyrir yn awdurdod cyhoeddus ei hun, mae'r Arolygiaeth Gynllunio yn ddarostyngedig i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a Rheoliadau Amgylcheddol fel un o Asiantaethau'r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (DCLG). 

Mae'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cadarnhau dau benderfyniad ar wahân yn ddiweddar gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol i wrthod cais am fynediad at adroddiad Arolygydd ar adeg pan oedd yr Ysgrifennydd Gwladol heb benderfynu ar y cais dan sylw.  

Yn y ddau achos, cydnabu'r Comisiynydd arwyddocâd penderfyniadau cynllunio i gymunedau lleol ac i'r gymdeithas yn gyffredinol, ond derbyniodd ar ryw adeg, y byddai'n addas dod ag ymgynghoriad cyhoeddus i ben er mwyn caniatáu i benderfyniad gael ei wneud.

Gan fod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cyhoeddi penderfyniadau ar y ceisiadau a alwyd i mewn, mae adroddiadau'r Arolygydd a'r penderfyniadau hyn bellach ar gael i'r cyhoedd eu gweld.

Gweler Penderfyniadau'r Comisiynydd

Canllaw ar Archwilio Cynlluniau Datblygu Lleol yng Nghymru

Chris Sweet

Cyflwynwyd newidiadau mawr i'r ffordd y caiff cynlluniau datblygu eu cynhyrchu yn Neddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004.  Creodd systemau cynllunio datblygu gwahanol yng Nghymru a Lloegr hefyd.

Eglura Chris Sweet, Swyddog Achos Cynlluniau Datblygu a Chefn Gwlad, yr Arolygiaeth Gynllunio yng Nghymru, y cefndir i'r Canllaw ar Archwilio Cynlluniau Datblygu Lleol, a gyhoeddwyd yn Hydref 2006.

Darllenwch yr erthygl "Canllaw ar Archwilio Cynlluniau Datblygu Lleol yng Nghymru" >>

Newyddion Randdeiliaid

Sheila Rice

Cyfarfodydd gyda Rhanddeiliaid 2006

Mae Sheila Rice, Cynorthwy-ydd Personol y Prif Weithredwr yn darparu manylion am gyfarfodydd gyda rhanddeiliaid yr Arolygiaeth yn ystod 2006.

Darllenwch yr erthygl "Cyfarfodydd gyda Rhanddeiliaid 2006" >>

Newyddion arall

Yr Arolygiaeth yn ennill gwobr am brosiect Tomorrow's Planners

Enillodd yr Arolygiaeth Gynllunio'r Wobr Bartneriaeth am brosiect Tomorrow's Planners yng Ngwobrau cyntaf erioed y Gwasanaeth Sifil am Amrywiaeth a Chydraddoldeb a gynhaliwyd ar 26fed Hydref 2006 yn Lancaster House, Llundain.
 
Cydnabu'r gwobrau lwyddiannau rhagorol gweision sifil ar bob lefel ym maes amrywiaeth a rhagoriaeth mewn cydraddoldeb.  Cyflwynwyd y noson gan Rageh Ommar, a bu Syr Gus O'Donnell, Ysgrifennydd y Cabinet a Phennaeth y Gwasanaeth Sifil Cartref yn cyflwyno'r gwobrau.

Cafwyd dros 170 o enwau o bob rhanbarth, adran, ac asiantaeth ac o ystod eang o feysydd amrywiaeth a chydraddoldeb.

Llun o Baljeet Bennett, Swyddog Amrywioldeb yr Arolygiaeth, gyda Ola Omishaka,  Swyddog Recriwtio Gwladol PATH

Mae manylion pellach am y prosiect a'r wobr ar gael yn

Cysgodi gwaith

Treuliodd Simon Barnes, cyfreithiwr gyda chefndir mewn trwyddedu a chyfraith trosedd ddiwrnod yn yr Arolygiaeth Gynllunio yn ddiweddar er mwyn dysgu mwy am gyfraith cynllunio a sut y cymhwysir y system gynllunio. Mae wedi ysgrifennu am y profiad.

Arolygwyr ar gefn eu beiciau

Llun o Graham Dudley ar ei feicMae'r Arolygiaeth yn annog staff i ddefnyddio trafnidiaeth gynaliadwy lle bynnag y bo modd.  Anogir staff i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus os yw'n bosibl pan fyddant yn teithio wrth wneud busnes swyddogol.  Menter arall yw cefnogi staff sy'n defnyddio beic wrth deithio i'r gwaith ac wrth wneud busnes swyddogol.  Mae'r Arolygwyr Graham Dudley, Helen Slade a Neil Pope (a welir yn y lluniau), ymhlith yr Arolygwyr sy'n seiclo wrth iddynt ymweld â safleoedd, gwrandawiadau neu ymchwiliadau.  Mae Graham a Helen yn rhannu rhai o'u profiadiadau.  

Cynhadledd Cyfraith Cynllunio ar y Cyd Rhydychen

Leonora Rozee

Rhoddodd Leonora Rozee, OBE, Dirprwy Brif Weithredwr yr Arolygiaeth a Chyfarwyddwr Polisi bapur pwysig i'r Gynhadledd Cyfraith Cynllunio ar y Cyd Rhydychen dros benwythnos y 16/17 Medi. Derbyniwyd ei phapur Meeting the Challenges of the New Local Development Framework System, yn wresog iawn.

Ysgol Haf RTPI

Roedd nifer o staff yr Arolygiaeth ymhlith y rhai a fynychodd Ysgol Haf RTPI yng Nghaergaint.  Dyma hwy yn rhannu eu hargraff o'r digwyddiad.

Alan Langton

Alan LangtonYm mis Gorffennaf gwnaethom ffarwelio ag Alan Langton, a ymddeolodd o'i swydd fel: Cyfarwyddwr Cymru a Gwaith Achos Mawr ac Arbenigol.  Wel nid ffarwelio'n hollol a wnaethom oherwydd ar ôl iddo gael seibiant am ychydig fisoedd, mae Alan bellach yn ei ôl fel Arolygydd.   Nid yw ein Hystafell Siartio wedi gwastraffu amser yn rhoi rhaglen lawn o waith iddo. 

 

 

Ymatebion Darllenwyr

A byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi ychydig funudau o'ch amser i gwblhau'r ffurflen adborth fel y gallwn wella ein cylchlythyr nesaf yn unol â'r hyn yr ydych am ei weld.