
Rydych chi wedi archebu'r tacsi, wedi trefnu i gael eich casglu y tu allan i'r gwesty mewn da bryd, wedi rhoi'r holl waith papur o'r neilltu... rydych chi'n aros pum munud, deg, pymtheg, yna rydych chi'n ffonio eto i weld beth yw'r broblem. Yr ateb: mae'n ddrwg gen i syr, dyw'r tacsis ddim yn rhedeg pan mae'n bwrw eira. Dyna a ddigwyddodd i mi mewn ymchwiliad mewn ardal wledig yn Swydd Stafford, ond, yn ffodus, roedd gen i ateb wrth law: fy meic. Hysbysais y partïon yn gyflym i ddweud y byddwn ychydig yn hwyr, neidiais ar gefn fy meic ac ychydig filltiroedd yn ddiweddarach, cyrhaeddais y lleoliad. Oni bai am fy meic, ni fyddwn erioed wedi cyrraedd, heblaw am ddwyn tractor a oedd yn pasio.
Mae'n siŵr bod y syniad o feicio i ymchwiliad yn creu llun ohonof yn cyrraedd allan o wynt, wedi'm gorchuddio â mwd, gyda stribedi fflwroleuol yn hongian ym mhob man. Wel, nid dyna fel y mae hi, a gyda'r Arolygiaeth yn ein hannog i feicio yn hytrach na gyrru (un cymhelliant yw cynnig benthyciad i brynu beic a chynllun prynu di-dreth i ddilyn maes o law), hoffwn rannu fy mhrofiadau fy hun o gyfuno beicio â gweithio.
Rwy'n teithio i wrandawiadau ac ymchwiliadau yn y car neu ar drên, ac rwy'n mynd â'm beic gyda fi a'i ddefnyddio ar ôl cyrraedd er mwyn dod o hyd i safle'r apêl a swyddfeydd y cyngor. Mewn dinasoedd, gall hyn fod yn gynt na theithio mewn car yn aml, yn enwedig gan eu bod yn dod yn fwy ystyriol o feiciau, gyda lonydd beiciau a chyfleusterau parcio diogel. P’un a fyddwch mewn ardal drefol neu wledig, mae beicio yn ffordd ddelfrydol o deimlo naws yr ardal gyfan, gan stopio a dechrau yn ôl eich pwysau, a all fod yn anodd neu'n beryglus pan fyddwch yn gyrru car.
O ran yr apêl neu'r ymchwiliad ei hun, os yw'r lleoliad yn bell o'r gwesty, rwy'n teithio mewn car neu dacsi, ond os mai dwy neu dair milltir i lawr y ffordd ydyw, gallaf ddefnyddio'r beic heb boeni am gyrraedd yn edrych yn anniben. Gallaf osgoi traffig anrhagweladwy oriau brig sy'n arwain at siwrnai llawn straen, yn enwedig mewn dinasoedd, gallaf fod yn eithaf sicr o'm hamseru ac nid oes rhaid i mi boeni ar y funud olaf am ddod o hyd i le parcio.
Mae un manylyn bach, ond pwysig, nad wyf wedi sôn amdano: y beic arbennig rwy'n ei ddefnyddio yw beic Brompton sy'n plygu. Er i'r beic fy ngwneud yn gyff gwawd o ran fy ngwraig a'm plant ar y cychwyn, mae'r beic yn werth y byd i mi pan na fyddwn yn gallu mynd â beic cyffredin ar y trên. Gallaf gario beic sy'n plygu ar y trên fel bag ac mae'n ffitio yn y car heb fod angen gosod rhesel feiciau. Gallaf fynd ag ef i mewn i leoliad yr apêl neu'r ymchwiliad, heb boeni am ddiogelwch. Mae gennyf ôl-gerbyd bach hefyd sy'n effeithiol iawn ar gyfer cludo ffeiliau trwm.
Ar ôl esbonio'r holl bethau ymarferol am ddefnyddio beic yn ein swydd ni, gallwn lenwi tudalennau lawer yn cynnwys y manteision amlwg o feicio i iechyd a'r amgylchedd. Mae'n ffordd wych o gyfuno ymarfer corff â gwaith, a gan nad yw'r rhan fwyaf o safleoedd yn bell iawn oddi wrth ei gilydd, nid oes rhaid i chi fod mor ystwyth â Lance Armstrong i'w wneud. Un o brif fanteision y swydd yw bod yn yr awyr agored a gweld cymaint o ardaloedd gwahanol o'r wlad; rwy'n credu mai ar gefn beic yw'r ffordd orau o fforio gyda'r hwyr, yn enwedig yn ystod apeliadau a fydd yn ymestyn dros sawl diwrnod.
Graham Dudley BA(Anrh) RIBA FRICS
Bûm yn ddigon ffodus i fod yn berchen ar feic sy'n plygu am flynyddoedd lawer, ac mae'n dod gyda fi yn y car i ble bynnag yr af. Mae'n ddefnyddiol ar gyfer llawer o bethau yn fy ngwaith fel Arolygydd Hawliau Tramwy, ac mae'n fan cychwyn da ar gyfer sgwrs pan fyddwn yn eistedd am oriau mewn ymchwiliadau cyhoeddus.
Mae'n aml yn amhosibl parcio'n ddiogel mewn lonydd gwledig cul, ac ar brydiau, bu'n rhaid i mi adael y car ryw filltir neu ddwy o'r llwybr neu'r llwybrau y mae'n rhaid i mi eu harolygu. Allan â'm beic ffyddlon ac i ffwrdd â mi, gyda chlo beic addas er mwyn i mi blygu'r Brompton a'i gelu neu ei ddiogelu yn rhywle tra mod i'n cerdded ar hyd y llwybr. Fel arfer, nid yw'n bosibl nac yn briodol i feicio ar hyd y llwybr (ni fyddaf byth yn beicio ar hyd llwybrau cyhoeddus wrth gwrs!!) ond weithiau bu modd i mi wneud hynny. Ac rwyf bob amser yn cofio hawlio fy lwfans yn ôl y filltir. Mae'n aml yn fy synnu pan welaf pa mor bell rwyf wedi teithio.
Mae hefyd yn ddefnyddiol pan fydd yn anodd dod o hyd i leoliad yng nghanol tref neu pan na fydd modd ei gyrraedd mewn car. Cofiaf feicio i'r lleoliad yn Harlow am fod y Ganolfan Ddinesig yng nghanol ardal i gerddwyr, ond mae digon o lwybrau beic yno.
Un tro, caeais ymchwiliad a threfnu'r ymchwiliad safle ffurfiol dilynol gan wybod yn iawn ei bod yn anodd parcio lle'r oeddwn am gynnal y cyfarfod. Roedd y rhan fwyaf o'r bobl a fyddai'n rhan o'r ymchwiliad yn byw yn y pentref lleol, felly tybiais na fyddai llawer o geir yno. Er hynny, parciais gryn bellter i ffwrdd lle y gallwn fynd oddi ar y ffordd a beicio i'r man cyfarfod. Er mawr ddifyrrwch i mi, ac i bawb arall, roedd hi fel cynhadledd beiciau sy'n plygu! O'r deg person ar yr ymweliad â'r safle, roedd gan hanner ohonom feic sy'n plygu! Bu'n destun difyrrwch a rhannu straeon. Roedd y pentwr o feiciau'n fy atgoffa o luniau a welais o Tsiena lle'r oedd tomenni o feiciau'n cael eu gadael yn y stryd yn y bore ar ôl i'r gweithwyr gyrraedd y gwaith, a oedd wedyn yn casglu'r beic agosaf i law gyda'r hwyr ac yn beicio adref. Gwnes i'n siŵr fy mod i'n casglu'r beic cywir ar ôl ymweld â'r safle!
Rwyf wedi treulio sawl noswaith heulog yn yr haf yn dianc o westai drwy archwilio llwybrau beicio, lonydd tawel, a llwybrau camlesi. Mae'r beic yn eich galluogi i fynd ymhellach nag y gallech ar droed, ac felly rydych yn gweld cymaint yn fwy o'r ardal o'ch amgylch. Mae lawer yn well na gwneud ymarfer corff yn y gampfa, ac rwy'n sicr yn teimlo fy mod wedi haeddu fy swper. Efallai fy mod hyd yn oed wedi haeddu pwdin (drwg ond blasus)!
Helen Slade