Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru Cyhoeddiad 4

'Canllaw i Archwilio Cynlluniau Datblygu Lleol' yr Arolygiaeth Gynllunio yng Nghymru Chris Sweet

Yn Hydref 2006 lansiwyd 'Canllaw i Archwilio Cynlluniau Datblygu Lleol' yr Arolygiaeth Gynllunio yng Nghymru.

Cyflwynwyd newidiadau mawr i'r ffordd y caiff cynlluniau datblygu eu cynhyrchu yn Neddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004. Creodd systemau cynlluniau datblygu gwahanol yng Nghymru a Lloegr hefyd.

Er bod y ddwy system bellach am werthuso cadernid cyffredinol cynllun yn hytrach na gwrthwynebiadau unigol, mae sawl gwahaniaeth yn y ffyrdd y caiff cadernid ei brofi.  Mae llawer o wahaniaethau eraill yn y broses trwyddi draw ac roedd y gwahaniaethau hyn yn gyfrifol am annog yr Arolygiaeth Gynllunio yng Nghymru i gynhyrchu canllaw ar wahân i system y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) yng Nghymru.

Ym Mai 2005, anfonwyd drafft ymgynghori o'r canllaw newydd at bob prif randdeiliad yn y broses CDLl newydd, a ofynnodd iddynt roi eu sylwadau a'u barn. Unwaith y derbyniwyd pob ymateb i'r ymgynghori, fe'u dadansoddwyd a threuliwyd llawer o amser yn cynhyrchu fersiwn ddiweddaraf y canllaw.

Yn Awst 2006, cyflwynwyd y canllaw i Carwyn Jones, Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, a'i cymeradwyodd.

Dywed rhagair y Gweinidog -

Mae'n bleser gennyf gymeradwyo'r Canllaw hwn i bawb a fydd yn defnyddio ac yn cyfrannu at system newydd y Cynlluniau Datblygu Lleol.  Un rhan o'r holl adnoddau, ynghyd â dogfennau Cynulliad eraill ydyw, a fydd yn helpu i roi'r system newydd ar waith. Mae'r rhain yn hanfodol i'r newid sy'n angenrheidiol yn niwylliant y system gynllunio a'r ffordd y caiff ei chyflwyno i helpu i gyflawni datblygu cynaliadwy yng Nghymru.”

Anfonwyd y Canllaw gorffenedig at randdeiliaid ac fe'i cyhoeddwyd ar wefan yr Arolygiaeth Gynllunio yng Nghymru ar 10fed Hydref 2006.

Gellir cael copïau a gwybodaeth bellach ynglŷn â'r canllaw gan dîm Cynllun Datblygu'r Arolygiaeth Gynllunio yng Nghymru ar 02920 823866 neu maent ar gael ar y we yn:

http://www.planning-inspectorate.gov.uk/cymru/cym/appeals/local_development_plans_e.htm

Chris Sweet
Swyddog Achosion Cefn Gwlad a Chynlluniau Datblygu

>> Dychwelwch i'r Cylchlythyr