Yn ddiweddar treuliais ddiwrnod yn yr Arolygiaeth Gynllunio er mwyn dysgu mwy am gyfraith cynllunio a sut mae'r system gyllunio yn rhoi hyn ar waith. Mae'r erthygl hon yn gofnod o'r hyn a ddigwyddodd ar y diwrnod a'r hyn a ddysgais ohono.
Dyma wybodaeth am fy nghefndir i ddechrau. Rwyf yn gyfreithiwr ac wedi bod yn gymwysedig ers tair blynedd. Mae fy nghefndir ym maes cyfraith trwyddedu a chyfraith trosedd ond fe'm hyfforddwyd mewn cwmni masnachol mawr felly rwyf wedi wastad bod yn ymwybodol o gynllunio a sut mae'n effeithio ar feysydd eraill o'r gyfraith fel traddodion eiddo a thrwyddedu. Mae'n faes y bu gennyf ddiddordeb ynddo erioed gan ei fod yn dechnegol ei natur ond mae hefyd yn ymarferol iawn ac, yn annhebyg i feysydd mwy damcaniaethol o'r gyfraith, mae'n cael effaith amlwg ar ein hamgylchedd bob dydd. Gan y'm lleolir yng Nghaerfaddon roedd yn gwneud synnwyr i mi weld a allwn ddysgu mwy am y pwnc drwy dreulio diwrnod yn yr Arolygiaeth.
Dechreuodd y bore gyda chyflwyniad gan David Smith sy'n gyfrifol am hyfforddi Arolygwyr. Mae gan David hefyd lawer o brofiad ei hun fel Arolygydd a siaradodd â mi am y system apeliadau cynllunio a roddodd drosolwg da i mi o'r ffordd y mae'r system yn gweithio a pha gyfrifoldebau sydd gan yr Arolygiaeth. Yna rhoddodd David ddau ymarfer i mi gwblhau a gaiff eu rhoi i Arolygwyr fel arfer pan fyddant yn hyfforddi. I mi fel gweithiwr proffesiynol yn y maes cyfreithiol roedd hyn yn ddefnyddiol iawn oherwydd faint bynnag y bydd rhywun yn darllen am faes o'r gyfraith ni fydd byth yr un peth â chymhwyso'r wybodaeth honno a'i rhoi ar waith. Nid oeddwn wedi gwneud gwaith cynllunio a oedd yn werth sôn amdano ar yr adeg honno ac roedd yn galonogol canfod fy mod yn gwybod mwy nag y meddyliwn, er bod yr atebion a awgrymais ymhell o fod yn berffaith, teimlwn o leiaf fy mod ar y trywydd iawn! Ar ôl i mi orffen yr ymarferion treuliodd David amser yn mynd trwy'r atebion gyda mi ac yn egluro'r materion i mi. Unwaith eto roedd hwn yn brofiad gwerthfawr oherwydd iddo roi darlun i mi o sut y byddai Arolygydd yn mynd i'r afael ag achos go iawn a oedd yn arbennig o bwysig i mi gan fy mod yn gobeithio y byddaf yn delio ag ymholiadau cynllunio yn y dyfodol.
Ar ôl cinio treuliais amser yn siarad â Simon Framer yn yr Uned Bolisi. Roedd hwn yn wrthbwynt da i'r bore gyda David oherwydd ar wahân i ddelio ag ymholiadau gan Arolygwyr, mae'n rhaid i Simon roi polisïau'r llywodraeth ar waith. Gwnaethom drafod yr anawsterau wrth geisio rhoi targedau'r llywodraeth ar waith yn arbennig mewn perthynas ag adeiladu cartrefi newydd yn Ne-ddwyrain Cymru a'r prinder lle cynyddol yno. Fel cyfreithiwr nid wyf yn ymdrin â pholisïau yn aml iawn felly roedd yn ddiddorol edrych ar bethau o'r safbwynt hwnnw.
Yna treuliais amser gydag Ashley Gray yn yr Uned Cwynion Defnyddwyr. Fe'm trawyd gan waith uned Ashley oherwydd manylder y sylw y mae'r Arolygiaeth yn ei roi i gwynion a wneir am Arolygwyr. Fe'm synnwyd yn arbennig i ganfod y gwneir nifer fawr o gwynion am fân wallau fel gwallau sillafu mewn llythyrau.
Yn olaf bûm yn siarad â David Musgrave yn adran yr Uchel Lys a oedd yn ddiddorol. Unwaith eto fel cyfreithiwr roedd yn ddiddorol gweld sut yr eir i'r afael ag achosion Uchel Lys y mae'r Arolygiaeth yn ymwneud â hwy. Roedd gennyf ddiddordeb nodi y gall hyd yn oed heriau llwyddiannus yn yr Uchel Lys ond dod i ben drwy gael eu hail-gyflwyno am wrandawiad newydd.
I grynhoi, mwynheais fy niwrnod yn yr Arolygiaeth Gynllunio yn fawr. Teimlaf i mi gael trosolwg da o sut yr oedd y sefydliad yn gweithio ac roedd yn arbennig o ddefnyddiol i gael rhai ymarferion ymarferol i'w gwneud. Unwaith eto diolch yn fawr i bob un a drefnodd y diwrnod ac i'r rhai a roddodd o'u hamser eu hunain i siarad â mi. Rwyf ar hyn o bryd yn cychwyn ar gwrs dysgu o bell ym maes cyfraith cynllunio felly dylai hynny ynddo ei hun ddangos cymaint y mwynheais y diwrnod!
Simon Barnes