Eleni, cynhaliwyd Ysgol Haf Cynllunio ym Mhrifysgol Caint yng Nghaergaint, a saif ar frig bryn gyda golygfeydd godidog o'r ddinas.

Roedd y rhaglen yn amrywiol iawn gan gwmpasu nifer fawr o faterion, yn amrywio o gynllunio ardaloedd o dwf mawr i adeiladau mannau chwarae. Cynhaliwyd y rhain ar ffurf darlithoedd, sesiynau trafod, gweithdai ac astudiaethau achos. Mae rhestr lawn o bynciau a chopïau o'r papurau i'w gweld yn:
http://www.planningsummerschool.org
Yn ogystal, rhoddwyd cyfle i gynadleddwyr fynychu taith astudiaeth o'u dewis.
I mi, yr uchafbwynt oedd Taith Astudiaeth Ashford. Roedd yn gyfle i fynd allan i'r maes a gweld materion polisi'n cael eu datblygu a'u rhoi ar waith.
Yr un mor bwysig oedd y cyfle i gyfarfod ag amrywiaeth o bobl o gefndiroedd gwahanol gyda phrofiadau amrywiol. Roeddwn yn disgwyl i'r Ysgol Haf fod yn addysgol, yn dda o ran datblygiad personol, ac yn eithaf diddorol; nid oeddwn yn disgwyl iddi fod yn gymaint o hwyl! Roedd yn gyfle gwych i gyfarfod â phobl eraill a gwneud ffrindiau newydd. Heb godi cywilydd ar unrhyw un o'm cydweithwyr, cafodd pawb amser da ... ac mae gennyf luniau i brofi hynny!
Mae Ashford yn wynebu'r her o gynllunio ar gyfer 31,000 o gartrefi newydd a 28,000 o swyddi yn sgîl twf yn yr ardal. Dechreuodd y daith gyda chyflwyniad o'r prif gynllun, yna aethom am dro i un o'r safleoedd canolog cyn mynd ar daith bws o'r safleoedd amgylchynol sy'n cael eu hadeiladu neu a glustnodwyd ar gyfer datblygiadau mawr. Ar ôl darllen 'The Cost of Bad Design' gan CABE yn ddiweddar, roedd yn ddiddorol gweld enghraifft wych o sut mae prif ffyrdd amlwg yn effeithio'n andwyol ar dwf ac ysbryd tref. Felly roedd yn galonogol gweld y gwrthwyneb i'r duedd hon, gyda chynlluniau i gulhau'r gylchffordd a sicrhau symudiad cymysg o ran cerddwyr a thraffig. Rhan o'r weledigaeth hirdymor hon yw adeiladu tair ardal breswyl newydd a fydd yn cynnwys 6000 o dai yr un. Yr her fydd creu ymdeimlad o hunaniaeth wrth greu tair tref fach newydd mewn gwirionedd, bydd gan bob un stryd fawr/canol y dref newydd, a sicrhau na fydd yr ardal yn datblygu i fod yn dref noswyl (yn enwedig o gofio'r rheilffordd gyflym newydd i Lundain sy'n agor yn 2009). Bydd hefyd yn ddiddorol gweld sut bydd y dref yn ymdopi â'r pwysau ychwanegol a achosir gan benderfyniad diweddar Eurostar i drosglwyddo'i wasanaethau i ardal Ebbsfleet sy'n cystadlu â'r ardal hon.
Victoria Cooper
Dyma'r tro cyntaf i mi fod i Ysgol Haf ac roedd yn sicr yn cwrdd â'r disgwyliadau. Roedd y trafodaethau/gweithdai yn amrywiol ac yn ysgogol iawn, ac, fel gyda digwyddiadau o'r fath, roeddent yn amrywio o fod yn ysbrydoledig, yn addysgol ac yn ddifyr, i fod yn llai diddorol, ond angenrheidiol. Roedd yn wych cael gwneud ffrindiau newydd a chyfarfod â hen gydweithwyr. Byddwn yn argymell i bobl fynd yno os cânt gyfle.
Yn ystod y rhaglen ddwys, cynhaliodd y bargyfreithiwr Charles Mynors drafodaeth a oedd yn gwneud i rywun feddwl am yr angen i symleiddio'r system gynllunionbsp; Mae'r system gynllunio fel ag y mae wedi bodoli ers 60 mlynedd, mae'r ddeddfwriaeth sylfaenol mewn 4 prif Ddeddf, gyda'r Ddeddf olaf yn sefyll yn annibynnol ar y tair arall i raddau helaeth. Fodd bynnag, mae'r is-ddeddfwriaeth wedi'i rhannu'n 101 o reoliadau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â chynllunio ac mae wedi'i hategu gan 100 neu fwy o reoliadau sy'n berthnasol yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol. Yng ngeiriau Charles Mynors, 'mae'r angen i roi trefn ar y pethau ansicr, y pethau sy'n gorgyffwrdd a chwiwiau'r system yn rhoi arian ym mhocedi'r cyfreithwyr (sef un o'r arwyddion cyntaf bod system mewn argyfwng) - ond mae'n golygu llawer llai o oedi a chost i bawb arall'. Mae'n ddigon anodd i'r gweithwyr proffesiynol ddeall y system, ond mae'n gwbl astrus i'r cyhoedd.
Ymhlith ei syniadau ar gyfer newid oedd symleiddio'r hyn yr oedd angen caniatâd i'w wneud; llai o fathau o ganiatâd; symleiddio gweithdrefnau; egluro'r sail ar gyfer gwneud penderfyniadau yn well (e.e. penderfynu yn unol â'r cynllun datblygu, sicrhau ystyriaeth briodol i ddymunoldeb cadw adeiladau rhestredig, ystyriaeth briodol i'r angen i ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon ac ati.); rhesymoli polisi a dileu achosion o ailadrodd e.e pam mae polisi Llain Las yn cael ei ailadrodd yn y Canllawiau Polisi Cynllunio, Cynllun Gofod Cefn Gwlad, y Cynllun Fframwaith a'r Cynllun Lleol?; system symlach ar gyfer gwneud mân newidiadau. Wrth hyrwyddo'r syniad o gyfuno'r ddeddfwriaeth bresennol a chwynnu'r is-ddeddfwriaeth bresennol, cydnabu fod syniadau eraill, gwell o bosibl ar gyfer newid ond awgrymodd ambell syniad ar gyfer creu system fwy syml.
Mewn gwrthgyferbyniad â hynny, treuliodd rai ohonom gwpl o oriau'n gwneud gwaith cynllunio 'go iawn' (pinau ffelt, syniadau gweledigaethol). Cynhaliwyd y gweithdy hwn gan y Sefydliad Adfywio Trefol ac roedd yn edrych ar ddylunio trefol a phroblemau o ran dwysedd. Gan ddefnyddio llungopïau cynlluniau a enillodd wobr Adeiladu am Oes, datblygiadau arloesol diweddar a chynlluniau trefol clasurol - a phinnau ffelt - buom yn torri a gludo copïau o ddatblygiadau parod i'n safleoedd er mwyn cynhyrchu prif gynlluniau. Roedd yr angen i fynd i'r afael â'r dasg anghyffredin braidd ynghyd â'r prinder gwybodaeth am y cyd-destun ehangach a phrinder amser yn golygu ein bod yn teimlo'n rhwystredig, ond llwyddodd pob grŵp i gyflwyno cynllun drafft yn y pen draw. Gallem fod wedi gwneud miliynau o bunnoedd ac ymddiswyddo, ond mae'n amheus gennyf a fyddai ein cynllun yn cael ei ganmol yn y wasg bensaernïol rywsut. Mae'n sicr na fyddai Rochester byth yr un peth eto!
Isobel McCretton
r Fan Chwarae FinstockBydd unrhyw un sydd am deithio i Ynys Sheppey yn falch o glywed bod pont newydd o Ogledd Caint i'r Ynys (croesfan Swale) bellach ar agor (ar y dde yn y llun pan oedd yn cael ei hadeiladu), felly ni fydd yn rhaid i chi ganiatáu cymaint o amser ag o'r blaen, pan fu'n rhaid aros i'r bont godi agor a chau (yn y llun uwchben y bont arall). Mae'r hen bont yn dal i fod ar agor i'r rhai y mae'n well ganddynt ei defnyddio, yn bennaf am fod trenau yn ogystal â'r hen ffordd yn parhau i'w chroesi.
Codwyd y bont newydd yn sgîl cynllun adnewyddu mawr ar gyfer Queenborough a Rushenden, sydd o fewn Porth Tafwys. Mae 70% o'r ardal adfywio 168 hectar yn dir llwyd wedi'i halogi, a fydd yn cael ei adfer. Bydd gan yr ardal ddatblygiad masnach a manwerthu newydd, yn ogystal â chyfleusterau cymunedol, hamdden ac amgylcheddol, 2,000 o dai, marina, a gwell cysylltiadau trafnidiaeth yn cynnwys ffyrdd.
Ceir hefyd gynlluniau ar gyfer addysg a hyfforddiant i lenwi bylchau sgiliau, a chyflogaeth mewn meysydd morol a thwristiaeth. Porthladd Sheerness gerllaw, gyda'i iard longau hanesyddol, yw pumed porthladd mwyaf Prydain, a gwelsom gannoedd o geir wedi'u mewnforio ar lan y dociau, a ffrwythau ffres yn cael eu dadlwytho. Roedd y Prif gynllun yn cynnwys safbwyntiau llawer o'r gymuned bresennol ar yr hyn yr oeddent am ei weld, ac adeiladwyd model (cludadwy) o'r Prif gynllun gan blant ysgol leol. Am ragor o wybodaeth ewch i http://www.qrregen.co.uk/. Gweler manylion y Prif gynllun yn http://www.qrregen.co.uk/document/261 and http://www.qrregen.co.uk/document/262.
Er mwyn ystyried enghraifft wahanol iawn ond ar raddfa lawer llai o gynnwys cymunedau, gwelsom gyflwyniad ar ddylunio Man Chwarae Finstock (gan gymuned y pentref), yn swydd Rhydychen, a adeiladwyd ganddynt hwy hefyd mewn 9 diwrnod am tua £60,000. Mae'r man chwarae'n dioddef yn sgîl ei lwyddiant ei hun, bron, am ei fod yn denu pobl a cheir o bell, ond mae hefyd wedi arwain at nifer o brosiectau pentref yn Finstock.
I weld lluniau a manylion eraill (er enghraifft, os ydych am adeiladu eich man chwarae eich hun) gweler:
http://www.won.org.uk/export/won/Projects/Past/FinPlayground.html
Stuart Reid
Ar y thema o feysydd newydd y gellid eu datblygu drwy gynllunio gofodol, dangosodd Jim Claydon o Terence O’Rourke Associates sut y gallai hyn fod yn ddull a ddefnyddir yn yr amgylchedd morol. Mae'r Llywodraeth yn bwriadu cyflwyno Mesur Morol yn 2007, a allai gynnwys mentrau o'r fath. Er mwyn dangos y potensial ar gyfer ymagwedd gynhwysfawr tuag at gynllunio gofodol ardaloedd morol, amlinellodd ganlyniadau astudiaeth beilot a wnaed ym Môr Iwerddon. Drwy fapio'r defnyddiau gwahanol a wnaed o'r ardal, o fannau pysgota i biblinellau a cheblau tanforol i garthu a thynnu agregau, gwelwyd natur gymhleth y defnyddiau hyn a oedd yn aml yn tynnu'n groes i'w gilydd, ynghyd â'u perthynas ag ardaloedd arfordirol, ac roedd yn amlygu'r angen a'r potensial ar gyfer meithrin ymagwedd gyfannol at yr amgylchedd morol. Gellid defnyddio hyn i nodi cyfleoedd ar gyfer datblygiadau newydd a helpu i ddatrys gwrthdaro mewn sefyllfaoedd sy'n bodoli eisoes. Byddai llawer o'r bobl a fyddai'n rhan o'r gwaith yn arbenigwyr technegol fel daearegwyr a biolegwyr morol. Fodd bynnag, mae'r broses, a fyddai'n cynnwys cynllunio, cymorth gan randdeiliaid a chydberthnasau â chyfundrefnau caniatâd, oll yn faterion cyfarwydd i gynllunwyr tref a allai fod â rôl bwysig i'w chwarae yn unrhyw system o gynllunio gofodol morol.
Liz Hill
Roeddwn yn ffodus iawn i fynd i'r ysgol haf eleni, a gynhaliwyd ar gampws Prifysgol Caint. Roedd y digwyddiad yn cynnwys cyfarfodydd llawn, gweithdai, teithiau astudiaeth ac wrth gwrs, digwyddiadau cymdeithasol. Roedd y pynciau yn eang eu cwmpas ac yn cynnwys materion adfywio, cynllunio gofodol ar y tir ac ar y môr, dylunio a phapurau herfeiddiol ar gyfraith cynllunio a'r angen am ei symleiddio ynghyd â bwrw amheuaeth ar y rhagdybiaeth y dylid diogelu caeau chwarae.
Anelwyd rhai o'r gweithdai'n benodol at gynadleddwyr o awdurdodau cynllunio lleol a'r sector preifat, er enghraifft, gweithdy o dan arweiniad Chris Young, Bargyfreithiwr o No 5 Chambers, ar Ymchwiliadau Cyhoeddus. Roedd y rhain yn ddiddorol iawn am fod y ffordd y cyflwynwyd y wybodaeth yn amlwg yn eithaf gwahanol i'r ffordd y byddai'n cael ei chyflwyno yn Wythnos Hyfforddi Blynyddol yr Arolygwyr. Euthum ar y daith astudiaeth o Ynys Sheppey, rhan o'r wlad nad oeddwn erioed wedi ymweld â hi. Fel gweddill y digwyddiad, cafodd y daith ei chynllunio'n dda ac roedd yn ddiddorol ac yn canolbwyntio ar yr heriau o ran adfywio'r ardal. Cafodd yr Arolygwyr daith ychwanegol o Gaergaint, a drefnwyd gan David Smith a Jonathan Bore, ac wrth gwrs, roedd yn cynnwys ymweliad â bwyty da a rhai tafarnau lleol. I grynhoi, credaf i'r digwyddiad gael ei drefnu'n dda, roedd yn ddiddorol iawn ac roedd yn rhoi gwerth am arian.
Shelagh Bussey
Gallwch edrych ar dogfennau PDF gan ddefnyddio Acrobat Reader gan Adobe. Gallwxh lawrlwytho Acrobat Reader am ddim drwy gwefan Adobe. Edrychwch ar Access Adobe a am wybodaeth ar sut y gall bobl a anableddau gweledol gael y gorau or meddalwedd hon.