Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru Cyhoeddiad 6

Katrine Sporle

Neges gan y Prif Weithredwr

Croeso i’r rhifyn diweddaraf o Gylchlythyr yr Arolygiaeth Gynllunio. Bu’n gyfnod prysur iawn i ni ers y rhifyn diwethaf yn arbennig o ran cyhoeddi’r Papur Gwyn ar Gynllunio a’r Papur Ymgynghori ynghylch Apeliadau cysylltiedig. Yn y rhifyn hwn rydym yn cyflwyno adroddiadau ar:

• Rhanddeiliaid a gynhaliwyd gennym lle y rhoddwyd sylw i gynigion y papur ymgynghori fel prif eitem;

• ein ffigurau perfformiad ar gyfer 2006/7 sy’n dangos, er gwaethaf beichiau gwaith cynyddol a’r ffaith i’r archwiliadau cyntaf o ddogfennau cynlluniau datblygu gael eu cyflwyno, i ni wella ein heffeithlonrwydd wrth ymdrin ag Ymchwiliadau a Gwrandawiadau yn arbennig ac i ni gyrraedd y mwyafrif o’n targedau;

• ein pryder ynghylch y gostyngiad parhaol yn nifer y dogfennau cynlluniau sy’n cael eu cyflwyno i’w harchwilio;

• ein cyngor ar ymdrin â materion dylunio mewn apeliadau.

I gloi, tristwch o’r mwyaf yw cofnodi marwolaeth un o’n cyn-Ddirprwy Brif Arolygwyr, Jim Mossop, a oedd yn uchel ei barch gan bawb.

Fel gyda phob rhifyn, rwy’n croesawu eich sylwadau ar yr eitemau yn y rhifyn hwn, neu awgrymiadau am erthyglau yn y dyfodol yn KatrineSporle.News@pins.gsi.gov.uk.

Katrine Sporle

Prif Weithredwraig

Medi 2007

Apeliadau Dylunio a Chynllunio

Ben Linscott

Mae Ben Linscott, un o Reolwyr Arolygwyr yr Arolygiaeth Gynllunio, yn ystyried ac yn ceisio tawelu pryderon a fynegir gan rai awdurdodau cynllunio lleol na ellir dibynnu ar Arolygwyr Cynllunio i gadarnhau penderfyniadau i roi caniatâd cynllunio pan ystyrir yn lleol bod gwaith dylunio[1] yn annerbyniol.

Darllenwch yr erthygl am ‘Apeliadau Dylunio a Chynllunio’ >>

Arolwg o Foddhad Cwsmeriaid 2006-7

David Halstead

Comisiynodd yr Arolygiaeth arolwg blynyddol o foddhad cwsmeriaid yn cwmpasu pob prif faes busnes ers 2002. Mae David Halstead o Uned Bolisi’r Arolygiaeth yn nodi prif ganfyddiadau arolwg 2006-7[12]ac yn edrych ymlaen at arolwg 2007-8.

Darllenwch yr erthygl am ‘Arolwg o Foddhad Cwsmeriaid 2006-7’  >>

Stakeholder News

RHANDDEILIAID

Cynhaliodd yr Arolygiaeth gyfres o gyfarfodydd â’i rhanddeiliaid yn ystod yr haf.  Mae Sheila Rice, Cynorthwyydd Personol i’r Prif Weithredwr, yn crynhoi’r trafodaethau.

Darllenwch yr erthygl am ‘Rhanddeiliaid’ >>

Newyddion arall

Jim Mossop

Tristwch o’r mwyaf yw cofnodi marwolaeth un o’n cyn-Ddirprwy Brif Arolygwyr, Jim Mossop, a fu farw ddydd Llun 6 Awst.  Roedd Jim yn un o’r corff urddasol o Arolygwyr a barhaodd i weithio i’r Arolygiaeth Gynllunio ar ôl i ni symud o Lundain i Fryste ar ddiwedd y 1970au.  Ymunodd Jim, a arferai fod yn Beiriannydd Bwrdeistref mewn Llywodraeth Leol, â’r Arolygiaeth ym mis Medi 1969, fe’i dyrchafwyd i swydd y Dirprwy  Brif Arolygydd ym mis Awst 1988 ac ymddeolodd o’r diwedd o’r Arolygiaeth ym mis Mai 1997.  Gwnaeth gryn dipyn i gynyddu statws yr Arolygiaeth, gan gyflawni rôl y Dirprwy ag eglurdeb tawel, dealltwriaeth ddofn a thrugaredd.  Roedd ganddo ddiddordeb arbennig ym maes Gorfodi, a bu’n rhedeg y Grŵp Gorfodi o Arolygwyr yr oedd llawer ohonynt ar y cychwyn yn gyn-uwch aelodau o’r lluoedd arfog.  Y tu allan i’r Arolygiaeth cafodd Jim wared â straen a phwysau bywyd modern trwy ganu clychau yn ei eglwys leol.  Gwelir ei eisiau yn fawr gan lawer o’i gydweithwyr presennol a’i gyn-gydweithwyr yr oedd ganddynt feddwl mawr iawn ohono.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2006/07

Cyhoeddwyd Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yr Arolygiaeth ar gyfer 2006/07 ar 23 Gorffennaf.

Edrychwch ar yr Adroddiad Blynyddol

Amcan Corfforaethol yr Arolygiaeth Gynllunio 2007/08

Cyhoeddodd yr Arolygiaeth amcanion corfforaethol newydd.

Edrychwch ar yr amcanion corfforaethol newydd

Cyfarwyddwyr Anweithredol Newydd i’r Arolygiaeth Gynllunio
Ar 30 Gorffennaf, cyhoeddodd y Gweinidog Cynllunio y Farwnes Andrews a Jane Davidson AC, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai yng Nghymru,  benodiad dau Gyfarwyddwr Anweithredol newydd i’r Arolygiaeth Gynllunio.  Ar ben hynny ailbenodwyd un o’r Cyfarwyddwyr Anweithredol presennol, Liz Peace, Prif Weithredwr Ffederasiwn Eiddo Prydain am gyfnod pellach. Y ddau Gyfarwyddwr Anweithredol newydd yw Deep Sagar, aelod o Fwrdd Corfforaeth Datblygu Porth Tafwys Thurrock a’r Panel Cynghori ar Gasinos a Jane Earl, cyn-Brif Weithredwraig awdurdod lleol a Phrif Weithredwraig interim Canolfan Gelfyddydau Rich Mix.

 “The Headington Shark”

Roedd yn ddoniol gweld yr erthygl yn Timesonline Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru - Cylchlythyr 6

Roedd yn ddoniol gweld yr erthygl yn TimesonlineLet’s salute fibreglass fish and wacky artists.  Ymddengys i ni fod y cyfeiriad at sylwadau’r Arolygydd Peter Macdonald “Ni allaf gredu mai diben rheolaeth gynllunio yw gorfodi unffurfiaeth ddiflas a dinod” yn cyd-fynd yn dda â’r cyngor yn Natganiad Polisi Cynllunio 1 bod datblygiadau yn “ymateb i’w cyd-destun lleol ac yn creu neu’n atgyfnerthu natur unigryw’r ardal leol” (para 36 PPS1)!

 Y Cylchlythyr Nesaf
Cyhoeddir Rhifyn 7 o’r Cylchlythyr ar ddechrau mis Rhagfyr 2007