Ym mis Mehefin a mis Gorffennaf cynhaliwyd cylch dwys o gyfarfodydd â rhanddeiliaid y bwriadwyd iddynt hwyluso trafodaethau amserol ynghylch goblygiadau’r Papur Gwyn ar Gynllunio ar y gwasanaethau a ddarperir gan yr Arolygiaeth Gynllunio. Esgorodd y cyflwyniad ar amrywiaeth o sylwadau hyddysg a thrafodaeth glir ei chanolbwynt, yr ydym yn gobeithio iddynt lywio’r broses o gyflwyno sylwadau manwl i’r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (CLG). Roedd y prif bwyntiau a gododd fel a ganlyn:
Atodir rhestr lawn o grwpiau rhanddeiliaid yn Atodiad A. Cofiwch ei bod yn dal yn bosibl i chi ymateb i’r Papur Gwyn ar Gynllunio. Dylech anfon sylwadau ymlaen i’r CLG trwy’r Planning Reform Team, Communities and Local Government, Zone 3/J2, Eland House, Bressenden Place, London, SW1E 5DU planningreformconsultation@communities.gsi.gov.uk erbyn 17 Awst.
Roedd yr Arolygiaeth wedi cyrraedd y mwyafrif o’i thargedau ar gyfer Lloegr ond nid pob un; cyrhaeddwyd pob un o’r targedau ar gyfer Cymru. Cyflawnwyd yr hyn y dywedasom y byddem yn ei gyflawni yn ein cynllun adfer ond roedd gennym 8,000 o apeliadau a oedd eto i’w penderfynu ym mhob dull apelio. Y rheswm am hyn oedd cynnydd yn y baich gwaith a achoswyd gan gynnydd sydyn yn y nifer o apeliadau trwy gynrychioliadau ysgrifenedig a phwysau ar adnoddau Arolygwyr. Roedd apeliadau yn cynnwys 10 neu ragor o dai yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth felly gallai hynny gael effaith ar fathau eraill o waith achos.
O ran Hawliau Tramwy cyrhaeddwyd targedau ar gyfer cynrychioliadau ysgrifenedig ac ymchwiliadau ond methwyd â chyrraedd y targed ar gyfer gwrandawiadau o drwch blewyn.
Lleisiwyd pryderon ynghylch yr effaith a gâi Dogfennau Cynlluniau Datblygu ar adnoddau’r Arolygiaeth.
Mae pennu dyddiadau ymchwiliadau yn dal i fod yn broblem i’r Arolygiaeth a phartïon. Er mwyn ceisio datrys hyn, roedd yr Arolygiaeth yn annog partïon i roi gwahanol ddyddiadau i annog apelyddion i fabwysiadu ymagwedd fwy rhagweithiol.
Tynnodd BWEA sylw at faterion ynglŷn ag apeliadau yn ymwneud ag ynni adnewyddadwy ac yn arbennig hyfforddiant, defnyddio aseswyr a Chyfarfodydd Cyn yr Ymchwiliad (PIM). Roedd yr Arolygiaeth yn hyfforddi Arolygwyr mewn ynni adnewyddadwy ac ar sut i weithio gyda sefydliadau er mwyn creu paneli y gellid eu defnyddio pan oedd angen aseswyr. Gallai sefydliadau hefyd ddarparu gwasanaeth sicrhau ansawdd a gallai RICS gynnig arbenigedd sawl maes arbenigol. Roedd Asiantaeth y Môr a Physgodfeydd hefyd yn gallu darparu hyfforddiant. Ystyriwyd pob cais gan y partïon am Gyfarfodydd cyn yr Ymchwiliad yn ôl ei deilyngdod; hefyd nodwyd ei bod yn ddefnyddiol cael gwybodaeth gan yr apelydd cyn i’r apêl gael ei chyflwyno.
Disgwylid i Reolau Hawliau Tramwy gael eu cwblhau ym mis Mehefin ac y byddent yn dod i rym ym mis Hydref 2008. Roedd yr Arolygiaeth yn gobeithio cynnal seminar ym mis Medi/Hydref â chynrychiolwyr grwpiau defnyddwyr ac awdurdodau sy’n gwneud gorchmynion. Roedd rhai grwpiau defnyddwyr o’r farn nad oedd awdurdodau lleol yn mynd i’r afael â materion Hawliau Tramwy.
Byddai’n ddefnyddiol pe bai Gorchmynion Addasu Map Diffiniol (DMMO) ar gael ar-lein am eu bod o ddiddordeb y tu hwnt i’w hardal leol. Pan ddeuai’r rheolau i rym byddai hysbysiad ar y wefan yn nodi’r dyddiad dechrau a manylion am weithdrefnau er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r cyhoedd.
Awgrymwyd bod Arolygwyr yn mabwysiadu ymagweddau gwahanol at gyngor Defra. Dylid hysbysu’r Arolygiaeth o achosion penodol lle’r oedd hyn yn digwydd.
Roedd yr Arolygiaeth yn archwilio’r posibilrwydd o drefnu bod trawsgrifiadau o ddyfarniadau’r Uchel Lys ar gael yn fwy hwylus ac o’u gosod ar naill ai gwefan Defra neu wefan yr Arolygiaeth fel y gellid dysgu gwersi ohonynt.
Byddai’n ddefnyddiol pe gallai manylion addasu fod ar ddechrau llythyrau penderfynu ynghylch Hawliau Tramwy. Roedd yn anodd i awdurdodau sy’n gwneud penderfyniadau ddod o hyd i leoliadau pan osodid dyddiadau arnynt ac roedd anghysondeb. Nid ymdriniai cynllunio gofodol bob amser â materion mynediad.
Lleisiwyd pryder ynghylch a oedd digon o Arolygwyr â’r arbenigaethau iawn ar gyfer y baich gwaith. Roedd yr Arolygiaeth yn ymdopi â’r gwaith cyfredol ac mae’r sefyllfa yn cael ei monitro gan yr Arolygiaeth a Defra. Trafodwyd cwrdd â’r dyddiad cau a bennwyd gan CROW ar gyfer gorchmynion Hawliau Tramwy, sef 2026, yn rheolaidd mewn cyfarfodydd rhwng yr Arolygiaeth a Defra.
Mewn ymchwiliadau yn ymwneud â Hawliau Tramwy roedd bargyfreithwyr weithiau fel pe baent yn ymestyn hyd yr ymchwiliad ac weithiau teimlai gwirfoddolwyr eu bod yn cael eu croesholi ganddynt. Ymddangosai fod eu hymwneud â’r ymchwiliad yn creu mwy o waith papur ar Orchmynion Addasu Map Diffiniol pan oedd eraill yn ceisio cwtogi arno.
Rhoddwyd hyfforddiant arbenigol i Arolygwyr yn ôl angen busnes ac anghenion datblygu personol, ac roedd cryn bwyslais ar Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus. Bu’r Arolygiaeth yn gweithio gyda sefydliadau allanol ar hyfforddiant ac roedd yn awyddus i rannu gwybodaeth â chyrff statudol. Byddai’r Arolygiaeth yn fodlon cyfranogi mewn astudiaeth gan CABE o hyfforddiant mewn meysydd arbenigol megis polisïau dylunio. Roedd adolygiad cyffredinol o arbenigaethau wrthi’n cael ei gynnal.
Roedd y ffaith nad oeddent yn cael eu hysbysu o apeliadau ar yr un pryd â phrif bartïon yn achosi problemau i Gyrff Statudol. Gofynnodd Cyrff Statudol am iddynt gael eu gwneud yn brif bartïon i’w galluogi i weithio yn ôl yr un amserlen. Oherwydd yr oedi nid oedd ganddynt ddigon o amser i baratoi eu datganiad o dan Reol 6 a gallai arwain hefyd at broblemau o ran dod o hyd i gynrychiolwyr i fynychu ymchwiliadau oherwydd y rhybudd byr. Cytunodd yr Arolygiaeth i godi’r mater hwn gyda Swyddfeydd y Llywodraeth.
Nid oedd unrhyw gynnydd sylweddol ar ddatrys anghydfodau/cyfryngu i’w gofnodi.
Dywedodd un sefydliad y câi ei sylwadau ar y ceisiadau hyn eu hanfon i awdurdodau sy’n gwneud gorchmynion. Ni châi ateb bob amser ac ni châi ei hysbysu o hynt y cais er mwyn iddo barhau â’i wrthwynebiadau yn yr ymchwiliad. Byddai’r Arolygiaeth yn codi’r mater gyda’r Swyddfa benodol o’r Llywodraeth a Phrif Weithredwr yr awdurdodau dan sylw.
Os hoffech gael eich cynnwys fel rhanddeiliad yn ein cyfarfodydd blynyddol, hysbyswch Sheila Rice yn Sheila.Rice@pins.gsi.gov.uk. Rydym hefyd yn croesawu pob math o adborth gan gwsmeriaid a byddem yn gwerthfawrogi yn arbennig enghreifftiau o feysydd lle yr ydych o’r farn y gellid gwella ein gweithdrefnau a’n harferion. Unwaith eto, cysylltwch â Sheila Rice yn Sheila.Rice@pins.gsi.gov.uk.
Sheila Rice
GRŴP |
SEFYDLIADAU A WAHODDWYD |
DYDDIAD Y CYFARFOD 2007 |
|
|
|
Datblygu Cymunedol |
Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi |
11 Mehefin |
Cyrff goruchwylio |
Panel Cynghori ar Safonau |
18 Mehefin |
Grwpiau â Diddordeb |
Ymgyrch Diogelu Lloegr Wledig |
25 Mehefin |
Cyrff Proffesiynol |
Sefydliad Brenhinol Cynllunio Trefol |
26 Mehefin |
Cyrff Cyhoeddus |
Asiantaeth yr Amgylchedd |
4 Gorffennaf |
Grŵp Cyfreithiol |
Cymdeithas y Bar Cynllunio ac Amgylcheddol |
1 Hydref |
*Cynhaliwyd cyfarfodydd ar wahân â’r ddau gorff hyn –
Cymdeithas y Cyfreithwyr - 10 Mai/Cymdeithas y Bar Cynllunio ac Amgylcheddol - 2 Gorffennaf