Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru Cyhoeddiad 7

Llun o Katrine Sporle

Neges gan y Prif Weithredwr

Cafodd pawb a oedd yn adnabod Stephen Crow syndod o glywed am ei farwolaeth sydyn a thrist. Rwy'n siŵr i bob un ohonom gredu na allai unrhyw beth ei drechu gan ei fod yn gymaint o gymeriad. Rwyf yn un o blith nifer fawr o bobl a fydd yn ei golli'n ddirfawr. Roedd wrth ei fodd ein bod wedi eistedd gyda'n gilydd yn y Fforwm Cynllunio Cenedlaethol a chwifiai y faner dros yr Arolygiaeth ar y cyd ar bob cyfle. A ninnau yr wythnos diwethaf yn anfon negeseuon e-bost at ein gilydd ynglŷn ag un o'r prosiectau a oedd ar y gweill ganddo: mae gennyf ffeil gyfan o'r enw "Gwaith Ymchwil Stephen Crow"!
Bydd pob un ohonom yn yr Arolygiaeth Gynllunio yn ei gofio ac rydym yn ddiolchgar i Chris Shepley, olynydd Stephen, am dalu teyrnged iddo.


Katrine Sporle
Prif Weithredwr

Rhagfyr 2007

Ymweld â Safleoedd yng Nghwmni Eraill

Photo of Wendy Burden

Paratoir rhaglenni gwaith Arolygwyr yn ofalus er mwyn iddynt wneud y defnydd mwyaf effeithlon o'u hamser.  Mae hyn yn golygu, pan gaiff rhaglen ar gyfer apeliadau Cynrychioliadau Ysgrifenedig ei llunio, y bydd y swyddog Siartio yn nodi cyfres o safleoedd a leolir yn ddigon agos i alluogi'r Arolygydd i gynnal cymaint o ymweliadau â phosibl yn ystod diwrnod gwaith. Eglura Wendy Burden, un o Reolwyr Arolygwyr yr Arolygiaeth, pam bod prydlondeb yn hanfodol ar gyfer pob ymweliad â safle yng nghwmni eraill. 

Darllenwch yr erthygl ar 'Ymweliadau â Safleoedd yng Nghwmni Eraill' >>

CostauLlun o  Leonora Rozee

Ymhlith y meysydd lle yr ydym am symleiddio prosesau mae'r broses o gyflwyno ceisiadau am gostau apelio a phenderfyniadau arnynt.  Mae Leonora Rozee, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Polisi wedi rhoi rhagor o gyngor i Arolygwyr Cynllunio yn ddiweddar. 

Darllenwch yr erthygl ar 'Gostau' >>

Partner Dysgu'r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol
Llun o David Harvey

Dyfarnwyd statws Partner Dysgu i'r Arolygiaeth Gynlluniogan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol er mwyn cydnabod ei dull o ddatblygu ei gweithlu cynllunio yn broffesiynol.  Eglura David Harvey o Uned Dysgu a Datblygu'r Arolygiaeth beth mae'r dyfarniad yn ei olygu.

Darllenwch yr erthygl ar 'Partner Dysgu'r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol'>>

APOS:  Cyhoeddi'r 13eg Adroddiad

Cyhoeddwyd 13eg Adroddiad y Panel Cynghori ar Safonau i'r Arolygiaeth Gynllunio (APOS) ddydd Llun 12 Tachwedd.  Mae'r Adroddiad ar gael ar-lein.

Darllenwch 'Adroddiad y Panel Cynghori ar Safonau' >>

NEWYDDION I RANDDEILIAID

RHANDDEILIAID
Llun o Sheila Rice

Rhoddodd rifyn diwethaf y Cylchythyr adborth ar gyfarfodydd i Randdeiliaid a gynhaliwyd yn ystod yr haf lle'r prif fater i'w drafod oedd y Papur Gwyn ar Gynllunio yn ystod y cyfnod ymgynghori. 

Mae Sheila Rice, Cynorthwy-ydd Personol y Prif Weithredwr yn crynhoi'r pynciau a drafodwyd mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn ddiweddar [16] gyda chyrff cyfreithiol (Cymdetihas y Cyfreithwyr a Chymdeithhas y Bar ar Gynllunio a'r Amgylchedd).

Darllenwch yr erthygl ar 'Randdeiliaid' >>

Newyddion arall

Leonora Rozee yn cael ei phenodi'n Athro Gwadd

Mae Leonora Rozee, Dirprwy Brif Weithredwr yr Arolygiaeth, wedi'i phenodi'n Athro Gwadd yn Ysgol Pensaernïaeth, Pensaernïaeth Tirlunio a Chynllunio Prifysgol Newcastle upon Tyne am gyfnod o dair blynedd.  Bu Leonora ei hun yn astudio ar gyfer ei gradd mewn cynllunio trefol yn Newcastle ar ddiwedd y 1960au/dechrau'r 1970au a chwblhaodd gyfnod o dair blynedd fel arholwr allanol yn yr Ysgol llynedd.  Mae'n hynod falch o allu cadw cysylltiad â'r ysgol gynllunio clodwiw a sefydledig hon.

Canmoliaethau Annisgwyl

Roeddem yn falch iawn o dderbyn canmoliaeth ddigymell [17] hollol ddigymell gan ffynhonnell annisgwyl sef "The Land is Ours."  Mae'r sefydliad yn rhoi cyngor cynllunio i dyddynwyr, adeiladwyr effaith isel, preswylwyr carafanau a chabanau a phobl sy'n byw yng nghefn gwlad ac sydd ar incwm isel sy'n cael problemau gyda'r awdurdodau cynllunio. 

Yn ddiweddar diolchodd Maer Llundain i'r Panel (o dan gadeiryddiaeth Chris Shepley) a gynhaliodd Archwiliad o Addasiadau Pellach i Gynllun Llundain.  Roedd o'r farn ei fod wedi cyflawni "gwaith rhagorol" ac roedd "yn hynod falch ei fod yn cefnogi ei bolisïau arfaethedig ar Newid yn yr Hinsawdd, a fydd bellach yn caniatáu i Lundain fynd i'r afael â gollyngiadau CO2 ym maes datblygiadau newydd a gwneud cynnydd gwirioneddol."

Ysgol Haf Cynllunio 2007

Cynrychiolwyd yr Arolygiaeth yn dda yn yr Ysgol Haf i Gynllunwyr eleni yn Abertawe rhwng 8 a 12 Medi.  Gwnaethom ariannu cyfanswm o wyth lle i Arolygwyr, Swyddogion Cynllunio ac aelodau o'r gweithlu gweinyddol a oedd yn gweithio tuag at gymwysterau cynllunio.

Pencampwr "Mastermind"

Yng Nghynhadledd Flynyddol Sefydliad Ymgynghorwyr Amaethyddol Prydain "Cynllunio - Cyfyng-gyngor Cefn Gwlad" ar 11 Hydref 2007, gwnaeth Steve Ingram, Pennaeth Cynllunio Swydd Huntingdon, Elizabeth Gould, Cadeirydd Pwyllgor Rheoli Datblygu Breckland, Barry Davies, Cadeirydd Adran Cynllunio Gwledig Sefydliad Ymgynghorwyr Amaethyddol Prydain a Leonora Rozee, Dirprwy Brif Weithredwr yr Arolygiaeth Gynllunio roi cynnig ar gystadleuaeth "Mastermind" gyda chwestiynau gan Huw Morris Golygydd Planning.  Enillodd Leonora, gan gadw enw da'r Arolygiaeth!

Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
Hoffem ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd dda i'n holl ddarllenwyr.
Bydd swyddfa Bryste yr Arolygiaeth ar gau ar 25 a 26 Rhagfyr 2007 ac ar 1 Ionawr 2008. Bydd swyddfa Caerdydd ar gau ar 24-26 Rhagfyr 2007 a 1 Ionawr 2008

Cylchlythyr 8

Caiff rhifyn nesaf y Cylchlythyr ei gyhoeddi ar ddechrau mis Mawrth 2008.