Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru Cyhoeddiad 7

CANMOLIAETH ANNISGWYL

Roeddem yn falch iawn o dderbyn canmoliaeth ddigymell gan ffynhonnell annisgwyl.

Mae'r sefydliad "The Land is Ours", sy'n rhoi cyngor cynllunio i dyddynwyr, adeiladwyr effaith isel, preswylwyr carafannau a chabanau a phobl sy'n byw yng nghefn gwlad ac sydd ar incwm isel sy'n cael problemau gyda'r awdurdodau cynllunio, yn nodi ym Mhennod 7 o'i lyfryn cyngor cynllunio:

Yn ein barn ni mae'r cymorth y mae'r Arolygiaeth Gynllunio wedi'i roi i ni wedi bod yn hynod ddefnyddiol. Dyma'r adran Lywodraethol fwyaf trefnus gyda'r gweithredwyr switsfwrdd gorau yr ydym erioed wedi dod ar ei thraws.

"Anaml y gellir canmol biwrocratiaeth lywodraethol, ond rydym o'r farn bod yr Arolygiaeth Gynllunio yn cael ei rheoli'n dda ac yn deg iawn - o gymharu â llawer o adrannau rheoli datblygu cynghorau eraill.

"Dylech ffonio'r Arolygiaeth Gynllunio yn syth os oes gennych unrhyw gwestiynau am weithdrefnau neu'ch hawliau. Ni fyddant yn datgelu unrhyw beth am yr hyn y byddwch yn holi yn ei gylch i'ch awdurdod cynllunio lleol. Nid oes ganddynt unrhyw beiriant ateb (eto), ac mae eu gweithredwyr switsfwrdd yn wybodus, ac yn gwybod sut i fynd ati i'ch cyfeirio at yr unigolyn cywir.

"Mae gennym lawer o barch hefyd at y ffordd yr ymdrinnir ag apeliadau. Mae Arolygwyr yn ymdrin i bob pwrpas ag achos llys deuddydd ar eu pennau eu hunain, heb gymorth gan glercod neu dywyswyr llys, ac maent fel arfer yn gwneud hyn yn deg iawn. Er ein bod wedi cael llythyrau penderfyniad sy'n ymddangos yn gwbl annheg, fel arfer, hyd yn oed pan na fydd yr hysbysiad o benderfyniad yn un ffafriol, rhoddir dadleuon rhesymol o ran polisi presennol."

Diolch, The Land Is Ours.  Rydym wedi eich cynnwys ar restr ddosbarthu'r Cylchlythyr hwn!