
Mae'n bleser gennym gyhoeddi ein bod wedi ennill statws mawreddog Partner Dysgu gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol.
Ar hyn o bryd mae llai nag ugain o sefydliadau gyda'r statws hwn - a'i nod yw dangos ymrwymiad i hyfforddiant a datblygiad cyflogeion cynllunio ar bob cam o'u gyrfaoedd, p'un a ydynt yn ymwneud â swyddogaethau proffesiynol, technegol neu gymorth.
Mae statws Partner Dysgu'r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yn:
Roedd y broses o ennill statws Partner Dysgu yn cynnwys disgrifiad o'n polisïau hyfforddi a datblygu a thystiolaeth ddogfennol o sut mae'r rhain yn gweithio'n ymarferol.
Cydnabu asesiad y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol pa mor bwysig yr ystyriwn ei rôl fel arweinydd y proffesiwn a'n polisïau hyfforddi blaengar, yn ogystal â'r gwerth amlwg a rown ar aelodaeth broffesiynol ein cynllunwyr presennol. Roedd hefyd yn cydnabod ein gwaith o ddatblygu cynllunwyr y dyfodol drwy noddi staff gweinyddol i weithio tuag at gymwysterau cynllunio.
Amlygodd yr asesiad hefyd ein gwaith arloesol ar y fenter Cynllunwyr Yfory, y mae dros 81 o unigolion dan hyfforddiant wedi cymryd rhan ynddi ledled Prydain bellach, gyda 25% o'r rhain yn cael swyddi cyn diwedd eu cyfnod hyfforddi.
Er bod y gydnabyddiaeth hon yn wych, nid ydym am laesu dwylo, a byddwn yn parhau i adolygu a mireinio ein polisïau dysgu a datblygiad proffesiynol parhaus er mwyn sicrhau eu bod yn diwallu ein hanghenion newidiol a'n heriau yn y dyfodol.
David Harvey
Uned Dysgu a Datblygu