RHANDDEILIAID

Rhoddodd rifyn yr Haf o'r Cylchlythyr adborth ar gyfarfodydd i Randdeiliaid a gynhaliwyd yn ystod yr haf lle'r prif fater i'w drafod oedd y Papur Gwyn ar Gynllunio yn ystod y cyfnod ymgynghori.
Ers hynny rydym wedi cynnal cyfarfod gyda Chyrff Cyfreithiol (Cymdeithas y Cyfreithwyr a Chymdeithas y Bar ar Gynllunio a'r Amgylchedd (PEBA)) lle y trafodwyd y materion canlynol:
- Y Papur Gwyn ar Gynllunio - y diweddaraf ar ddeddfwriaeth a gwaith dilynol yn ymwneud â chynigion
- Gwella'r Broses Apelio - y diweddaraf ar hynt yr ymgynghoriad a sylwadau cychwynnol
- Targedau'r Arolygiaeth - adroddiad ar berfformiad yr Arolygiaeth
- Dyddiadau Ymchwiliadau - Cytuno ar ddyddiadau a rhoi rhybudd priodol. Trafod sut y gallai ymarferwyr weithio gyda'r Arolygiaeth o ran pennu dyddiadau ar gyfer ymchwiliadau gan alluogi'r Arolygiaeth i gyflawni targedau Gweinidogol o hyd. Byddai'r Arolygiaeth yn ystyried deunydd cynghorol unwaith eto gan ailadrodd y neges na ddylid cyflwyno apêl os nad yw'r apelyddion yn barod.
- "Case Creep" - trafodaeth ar raddau newidiadau i gynigion datblygu yn ystod y cyfnodau apelio sy'n arwain at wneud penderfyniadau yn ystod cyfnod yr apêl a ddylai gael eu gwneud ar y lefel leol mewn gwirionedd a phryderon y gallai'r Arolygiaeth fod yn rhy gyfyngol o ran yr hyn a ganiateir wrth ymateb i resymau dros wrthod.
- System Apeliadau Electronig - yn gweithio'n dda ond nid fel y bwriadwyd yn wreiddiol gan nad oedd yn gadael i ACLlau ymdrin â cheisiadau ac apeliadau yn electronig. Arbenigwr awdurdod lleol wrthi'n ystyried y posibilrwydd o ddefnyddio'r System Gwaith Achos Cynllunio i gyflwyno gwasanaeth apeliadau llwybr carlam i ddeiliaid tai fel y cynigiwyd yn y Papur Gwyn ar Gynllunio. Ni all nifer fawr o ACLlau weithio'n electronig gyda'r Arolygiaeth o hyd.
- Ffioedd Apeliadau Cynllunio - roedd y materion a drafodwyd yn ymwneud ag a ddylai'r system apelio fel gwasanaeth datrys anghydfodau gael ei hariannu'n llawn gan y Wladwriaeth (ym marn Cymdeithas y Cyfreithwyr) neu a oedd yn briodol bellach i gyfran o gost y gwasanaeth hwnnw gael ei thalu gan y rheini sydd efallai am elwa o ganlyniad yr apêl. Ymddengys fod y gallu i adennill y ffi drwy'r gyfundrefn Costau yn fater perthnasol i'r rheini sy'n barod i dderbyn yr egwyddor o dalu ffi apêl.
- Cymeradwyo Tystiolaeth Arbenigol - mae PEBA, Cymdeithas y Cyfreithwyr, y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol a Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig am gytuno ar eiriad datganiad gan dystion arbenigol cyn iddynt roi tystiolaeth y byddai'r Arolygiaeth yn ei gyhoeddi fel rhan o'r broses o wella ansawdd y dystiolaeth y seilir penderfyniadau arni.
- Amodau a Chytundebau mewn Apeliadau Cynllunio - mae aelodau o Bwyllgor Cyfraith Cynllunio a'r Amgylchedd Cymdeithas y Cyfreithwyr wrthi'n drafftio canllawiau ar ddefnyddio amodau yn hytrach na chytundebau cyfreithiol
- Bwrw golwg ar Ddogfennau Datblygu Lleol -
Codwyd pryderon gan PEBA o ran:
- y diffyg cyfle posibl i fwrw golwg manwl ar dystiolaeth e.e. materion o ran priffyrdd. Bydd yr Arolygiaeth a PEBA yn cynnal seminar waith lle y caiff y broses hon ei hystyried yn fanylach er mwyn penderfynu a oes angen unrhyw ganllawiau ychwanegol ar eu haelodau neu eu Harolygwyr ac eraill â diddordeb yn y broses er mwyn sicrhau ei bod yn parhau i fod yn gadarn.
- gallu'r Arolygwyr i wneud newidiadau i Ddogfennau Datblygu Lleol yn eu hadroddiadau cyfrwymol heb fod angen gwrthod Dogfennau Cynlluniau Datblygu ar sail diffyg cadernid
Nid oedd yr Arolygiaeth yn disgwyl i'r diwygiadau arfaethedig o ran y Rhaglen Waith ym maes Partneriaeth (PWP) i'r system Fframweithiau Datblygu Lleol effeithio'n sylfaenol ar y broses o fwrw golwg ar Ddogfennau Cynlluniau Datblygu a gyflwynir ond dylai wella eu hansawdd.
- Terfynau Amser Cyson mewn Achosion Cynrychioliadau Ysgrifenedig - mae gan Gymdeithas y Cyfreithwyr bryderon o ran dehongliad llym yr Arolygiaeth o'r rheolau a oedd, yn eu tyb hwy, yn golygu bod cyflwyniadau trydydd parti yn cael eu gwrthod yn rhy aml am nad oedd digon o amser. Gwnaethant argymell y dylid gwneud eithriadau. Roedd yr Arolygiaeth yn pryderu y byddai eithriadau yn peri'r risg o danbrisio diben y rheolau ond gwnaeth gytuno i egluro'r amgylchiadau lle y gall Arolygwyr ddefnyddio eu disgresiwn er mwyn ystyried tystiolaeth hwyr.
Ymhlith y cyfarfodydd sydd i ddod mae cyfarfod gyda chynrychiolwyr Penaethiaid Grŵp Cynllunio'r Parciau Cenedlaethol ym mis Tachwedd, cyfarfod gyda Rhanddeiliaid yn Llundain y gobeithiwn ei drefnu ar gyfer mis Ionawr a chyfarfod gyda Chyrff Rhanbarthol ar 27 Chwefror 2008.
Byddai'n ddefnyddiol cael sylwadau Rhanddeiliaid ynghylch a fyddai'n ddefnyddiol iddynt gael tudalen i Randdeiliaid ar wefan yr Arolygiaeth Gynllunio ac ar yr hyn yr hoffent ei weld o ran ei chynnwys. Yr enw cyswllt ar gyfer cyfarfodydd i randdeiliaid yw Sheila Rice (Sheila.Rice@pins.gsi.gov.uk).
Sheila Rice
Cynorthwy-ydd Personol y Prif Weithredwr