Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru Cyhoeddiad 8

Katrine Sporle

Neges gan y Prif Weithredwr

Dechreuodd 2008 ar garlam!   Heblaw am ein busnes arferol, ein prif flaenoriaeth oedd gweithio ar y Mesur Cynllunio.

Daeth y cynllun peilot i roi apeliadau deiliaid tai ar lwybr carlam i rym ar 2 Ionawr 2008.  Yr amcan yw profi'r weithdrefn hon mewn modd byw ond gwirfoddol, er mwyn paratoi ar gyfer y posibilrwydd o'i rhoi ar waith fesul cam ar yr amod y caiff y ddeddfwriaeth angenrheidiol ei rhoi ar waith. Darllenwch ragor am y cynllun peilot yn y rhifyn hwn.

Ar 8 Ionawr, rhoddodd Leonora Rozee a mi dystiolaeth am waith yr Arolygiaeth a'r effaith y bydd y mesurau sydd wedi'u cynnwys yn y Mesur yn ei chael ar y sefydliad i Bwyllgor Tŷ'r Cyffredin sy'n ystyried y Mesur.

Ddiwedd mis Ionawr, gwnaethom ffarwelio â Mark Parkinson, y Cyfarwyddwr Gweithrediadau.  Hoffem ddymuno'n dda i Mark yn ei swydd newydd fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Trafnidiaeth yng Nghyngor Sir Nottingham.  Mae Peter Robottom wedi camu i'r bwlch hyd nes byddwn yn penodi rhywun yn barhaol.

Llongyfarchiadau i Suzannah Guest, Uwch Swyddog Cynllunio, ar ddod yn Gynllunydd Ifanc y Flwyddyn y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol ar gyfer 2007, ac i Mike Hale, Uwch Swyddog Cynllunio, am ei wobr gan Sport England.  
Ac yn olaf, llongyfarchiadau i Liz Peace, un o'n cyfarwyddwyr anweithredol, ar gael CBE yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd. 

Mae croeso i chi roi eich sylwadau ar yr eitemau yn y rhifyn hwn, neu gyflwyno eich awgrymiadau ar gyfer erthyglau yn y dyfodol, drwy anfon e-bost at KatrineSporle.News@pins.gsi.gov.uk.

Katrine Sporle
Mawrth 2008

Gwaith yr Arolygiaeth Gynllunio yng NghymruLlun o John Davies

Mae John Davies, Cyfarwyddwr Cymru, yn egluro gwaith yr Arolygiaeth Gynllunio yng Nghymru ac yn ymateb i sylwadau gan aelodau o Grŵp Ffocws Boddhad Cwsmeriaid Cymru.

Darllenwch yr erthygl 'gwaith yr Arolygiaeth Gynllunio yng Nghymru' > >

 

Rôl y Swyddogion Cynllunio yn yr Arolygiaeth Gynllunio Llun o Kath Haddrell

Mae Kath Haddrell, un o Uwch Swyddogion Cynllunio yr Arolygiaeth, yn egluro eu rôl.

Darllenwch yr erthygl 'Rôl y Swyddogion Cynllunio' > >

 

NEWYDDION I RANDDEILIAID

RHANDDEILIAID
Llun o Sheila Rice

Mae Sheila Rice, Cynorthwy-ydd Personol y Prif Weithredwr, yn sôn am weithdrefn newydd ar gyfer achosion galw i mewn a'r amserlen ar gyfer cyfarfodydd rhanddeilaid yn 2008.

Darllenwch yr erthygl 'Rhanddeiliaid' >>

 

Newyddion arall

Gwobr Cynllunydd Ifanc y Flwyddyn y Sefydliad Cynllunio Trefol Llun o Susannah GuestBrenhinol 2007

Mae'n bleser gan yr Arolygiaeth gyhoeddi bod Susannah Guest, Uwch Swyddog Cynllunio, sy'n arwain y Grŵp Swyddogion Cynllunio, wedi ennill Gwobr Cynllunydd Ifanc y Flwyddyn y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol 2007.  Cyflwynwyd y wobr i Susannah mewn seremoni yng Ngwesty'r Hilton yn Llundain ar 7 Chwefror.  Mae'r wobr yn cydnabod llwyddiant aelodau'r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol o dan 35 oed.

Mae Susannah wedi bod yn gweithio gyda'r Arolygiaeth Gynllunio ers 2001 ac wedi gweithio'n uniongyrchol gydag Arolygwyr, Uwch Reolwyr, Cymunedau a Llywodraeth Leol ac eraill i ragweld a datrys yr heriau sy'n deillio o'r system Dogfennau Cynllun Datblygu newydd a chynghori ar weithredu archwiliadau yn ymarferol ac o ran polisi.  Cafodd ei dewis i gynorthwyo gyda nifer o'r archwiliadau cyntaf.  Mae Susannah hefyd yn ceisio datblygu cynllunwyr ifanc a'r rheini sydd â diddordeb yn y proffesiwn, gan gynnwys drwy'r rhaglen Cynllunwyr Yfory, i fynd i'r afael ag anhydraddoldebau a thangynrychioliaeth o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig ym maes cynllunio.

Gwobr Sport EnglandLlun o Mike Hale

Mewn seremoni wobrwyo ar gyfer y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr ym mis Tachwedd 2007, cafodd Mike Hale, un o Uwch Swyddogion Cynllunio'r Arolygiaeth, wobr gan Sport England yn ogystal â BA (Anrh.) mewn Cynllunio Gwlad a Thref.   Roedd y wobr - ar gyfer y traethawd hir gorau gan fyfyriwr yn yr adran ar chwaraeon neu bwnc hamdden cysylltiedig ar gyfer y flwyddyn honno - ar gyfer traethawd hir Mike am bolisi cynllunio ar gyfer Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol. Dyma Mike gydag Ed Lockett o Sport England.

Cylchlythyr 9

Caiff rhifyn 9 o'r Cylchlythyr ei gyhoeddi ddechrau mis Mehefin 2008.