Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru Cyhoeddiad 8

RÔL Y SWYDDOGION CYNLLUNIO YN YR AROLYGIAETH GYNLLUNIO

Mae'r cwestiwn "Beth mae Swyddogion Cynllunio yn ei wneud" yn un Photo of Kath Haddrell
poblogaidd iawn yn yr Arolygiaeth.  Mae'n gwestiwn teg, gan nad ydym yn Arolygwyr nac yn weinyddwyr uniongyrchol. Yr ateb yw, bron iawn unrhyw beth y mae'r Arolygiaeth yn ei wneud, ond mae gennym bwyslais cryf ar lunio polisïau a chynlluniau ac rydym yn rhan o'r Uned Bolisi, a gaiff ei rheoli gan Leonora Rozee, y Dirprwy Brif Weithredwr. Ar hyn o bryd mae 13 o Swyddogion Cynllunio yn yr Uned Bolisi, sy'n amrywio o gynllunwyr tref siartredig i'r rheini sy'n astudio cyrsiau cynllunio ôl-raddedig rhan amser. 

Mae rhan fwyaf o'n gwaith yn ymwneud â helpu Arolygwyr i baratoi ar gyfer archwilio Dogfennau Cynllun Datblygu. Rydym yn mynd i rai archwiliadau Dogfennau Cynllun Datblygu, gan helpu Cadeiryddion Panel yr Archwiliad Cyhoeddus yn aml yn ystod archwiliadau ar gyfer Strategaethau Gofodol Rhanbarthol ac weithiau'n mynd ar secondiad i adrannau eraill o'r llywodraeth neu Swyddfeydd y Llywodraeth.  Rydym mewn sefyllfa dda i gynghori ar arfer gorau a mynd i lawer o seminarau a chynadleddau ar ran yr Arolygiaeth. 

Gofynnir i ni'n aml ymgymryd â gwaith prosiect ar gyfer uwch reolwyr yr Arolygiaeth ac ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar brosiectau sy'n gysylltiedig â dylunio a Strategaethau Gofodol Rhanbarthol ymysg eraill. Rydym yn rhoi sylwadau ar bolisïau drafft gan lywodraeth ganolog, sy'n cynnwys Adroddiad Taylor ar dai gwledig a chanllawiau drafft ar fusnes a chyflogaeth ar hyn o bryd.  Yn achlysurol rydym yn cynorthwyo gydag ymchwiliadau pwysig seilwaith, fel y safleoedd Olympaidd yn Nwyrain Llundain yn ogystal â gwaith blaenllaw ar ehangu porthladdoedd a meysydd awyr. 

Mae'r swydd yn un heriol ac fel tîm rydym yn ychwanegu gwerth at y broses gynllunio drwy helpu'r Arolygiaeth i ddarparu gwasanaeth costeffeithiol ac effeithlon, yn enwedig drwy ddefnyddio ein profiad a'n gwybodaeth am y Fframwaith Datblygu Lleol.  Beth yw'r manteision i ni? Helpu i lunio polisïau cynllunio a phrosiectau blaenllaw yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol.

Kath Haddrell
Uwch Swyddog Cynllunio

>> Dychwelwch i'r Cylchlythyr