Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru Cyhoeddiad 8

CYFARFODYDD RHANDDEILIAID YR AROLYGIAETH GYNLLUNIO 2008

Mae dwy eitem a fydd o ddiddordeb i Randdeiliaid:

1.       Canlyniad trafodaethau Rhanddeiliaid yn 2007 parthed Ymgynghoreion Statudol

Yn dilyn trafodaethau Rhanddeiliaid, o 1 Tachwedd 2007, rhoddwyd trefniadau ar waith er mwyn i Swyddfeydd y Llywodraeth anfon copi o lythyrau galw i mewn at bob ymgynghorai statudol yr oedd ei gynrychioliadau wedi bod yn rhannol ynghlwm, o leiaf, â'r penderfyniad galw i mewn. Yna byddai'r Arolygiaeth Gynllunio yn rhoi statws Rheol 6 yn awtomatig i ymgynghoreion statudol o'r fath ac yn eu cynnwys yn y broses o bennu dyddiad ymchwiliad.  Nid yw'r weithdrefn hon yn gymwys i geisiadau sy’n destun apêl.

Bydd y broses o gael eu cynnwys yn y gwaith o bennu ymchwiliad yn golygu y byddai ymgynghoreion statudol sydd â statws Rheol 6 yn cael copi o bob gohebiaeth rhwng yr Arolygiaeth Gynllunio a'r ymgeisydd a'r awdurdod cynllunio lleol, sy'n parhau i fod yn brif bartïon o ran trefnu dyddiad ymchwiliad.  Fel hyn, bydd ymgynghoreion statudol yn ymwybodol o beth sy'n digwydd i sicrhau eu bod yn barod i ymddangos mewn ymchwiliad pan gaiff dyddiad ei bennu.

2.       Yn atodedig mae tabl yn dangos y rhaglen ar gyfer cyfarfodydd Rhanddeiliaid yn 2008.

Word 37kb

PDF 47kb

Sheila Rice
Cynorthwy-ydd Personol y Prif Weithredwr

>> Dychwelwch i'r Cylchlythyr