Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru Cyhoeddiad 9

Civil Service LiveY Prif Weinidog a Syr Gus O’Donnell

Civil Service Live, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Gynadledda'r QE2 rhwng 1 a 3 Ebrill, oedd yr arddangosfa gyntaf erioed i ganolbwyntio ar Wasanaeth Sifil y DU . Fe'i cynlluniwyd i ddwyn ynghyd y bobl ysbrydoledig sy'n rhedeg y gwasanaeth sifil heddiw ac yn y dyfodol ac arddangos arfer gorau ac arloesed.

 

Aeth rhyw 6000 o weision sifil i'r digwyddiad hwn a oedd yn rhoi cyfle unigryw i ddysgu a datblygu. Roedd y dull gweithredu rhyngweithiol yn eu hannog i gymryd rhan, mynd i sesiynau ac archwilio sut y gallent wneud gwahaniaeth yn eu rolau. Mae'r heriau sydd i'w hwynebu yn yr unfed ganrif ar hugain yn golygu bod rhaid i bawb wneud pethau'n wahanol. Roedd siaradwyr uchel eu proffil o'r sectorau cyhoeddus a phreifat wrth law i ddangos sut i fod yn fwy creadigol ym maes llunio polisïau a chyflwyno gweithredol, gan ddatblygu'r sgiliau cywir ar gyfer y dyfodol a darganfod cyfleoedd datblygu newydd ar yr un pryd. Roedd y siaradwyr cyweirnod yn cynnwys y Prif Weinidog a Syr Gus O'Donnell, ysgrifennydd y cabinet a phennaeth y gwasanaeth sifil cartref.

John Hammond yn y parth arddangosfa rhyngweithiolRoedd ardal arddangos ryngweithiol yn galluogi'r dirprwyon i ddeall a phrofi'r gorau ym maes arfer gorau ac arloesed. Manteisiodd yr Arolygiaeth Gynllunio ar y cyfle hwn i gyflwyno'r gwasanaeth peilot Apeliadau Cyflym ar gyfer Deiliaid Tai ac arddangos ei Rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth a Rheolaeth arloesol sydd ar hyn o bryd yn rhoi cyfle i holl reolwyr yr Arolygiaeth ddatblygu'r cymwyseddau sydd eu hangen ar gyfer y fframwaith Sgiliau Proffesiynol ar gyfer Llywodraeth a'u rhoi ar waith mewn amgylchedd diogel.

>> Dychwelwch i'r Cylchlythyr