Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru Cyhoeddiad 9

Logo Dull Gweithredu Cylfym – Cyflwyno NewidGwasanaeth Apeliadau gan Ddeiliaid Tai


Mae dull cyflym newydd o ymdrin ag apeliadau cynllunio gan ddeiliaid tai yn cael ei dreialu gan yr Arolygiaeth Gynllunio. Bydd y dull symlach hwn yn golygu y caiff apeliadau gan ddeiliaid tai eu penderfynu cyn pen 12 wythnos neu lai – mae hynny o leiaf bedair wythnos yn gyflymach na'r broses bresennol.

Wrth wraidd y broses hon mae'r gallu i ddefnyddio ffeil y cais gwreiddiol a ddelir gan yr awdurdod cynllunio lleol (ACLl) ar ffurf electronig er mwyn gweinyddu’r apêl. Dyma enghraifft o lywodraethu cydgysylltiedig, cywir sy'n gwneud defnydd llawn o ddatblygiadau y mae rhai ACLlau wedi'u gwneud wrth gyflawni agenda e-lywodraeth y llywodraeth.

Estyniad yn cael ei ychwanegu at tŷMae'r manteision yn aruthrol. I'r apelyddion, mae’r broses yn symlach, nid oes angen iddynt lenwi cymaint o ffurflenni ac mae'n dibynnu'n bennaf ar ddogfennau a anfonwyd eisoes i'r awdurdod cynllunio. Mae'r Arolygiaeth yn treulio llai o amser yn chwilio am ddogfennau coll ac yn paratoi'r apêl.

Mae ACLlau yn arbed amser ac arian am nad oes rhaid iddynt ddarparu datganiad apêl ffurfiol a thrwy ddefnyddio ffeiliau electronig presennol, llenwi ffurflenni symlach a dileu'r angen i anfon eu swyddogion cynllunio sydd eisoes dan bwysau i fod yn bresennol yn ystod yr ymweliad â safle’r apêl.

Wrth wraidd y broses hon mae'r gallu i ddefnyddio ffeil y cais gwreiddiol a ddelir gan yr awdurdod cynllunio lleol

O dan y system newydd, bydd yr ACLl yn dibynnu ar ei hysbysiad o benderfyniad i amddiffyn yr apêl ynghyd ag unrhyw adroddiadau mewnol. Mae hyn ynddo'i hun yn annog yr arfer o wneud penderfyniadau da, agored ac atebol yn lleol.

Bydd hyder yn y penderfyniad gwreiddiol yn golygu nad oes angen i ACLlau ddarparu datganiad apêl ffurfiol. Ni fydd angen iddynt fod yn bresennol yn ystod yr ymweliad â'r safle chwaith. Bydd yr apelydd yn anfon datganiad apêl gyda'i ffurflenni apêl. Bydd Arolygwyr Cynllunio'n gweithio'n gyfan gwbl electronig a byddant yn ymweld â'r safle ar eu pen eu hunain - dim ond mewn rhai achosion y bydd yr apelydd yn bresennol i roi mynediad i'r safle.

Gwaith adeiaduMae hon yn enghraifft ardderchog o lywodraethu cydgysylltiedig sy'n ei gwneud yn bosibl darparu gwasanaethau yn electronig i sicrhau arbedion effeithlonrwydd gwirioneddol i'r cwsmer, yr Arolygiaeth ac awdurdodau cynllunio lleol. Nid yn unig bod hyn yn arwain at well perfformiad yn gyffredinol - a'r nod yw delio â'r achosion hyn mewn wyth wythnos ar ôl i bawb ymuno â'r cynllun - ond gall yr Arolygiaeth a'r ACLlau ddefnyddio'u hadnoddau prin mewn modd mwy cynhyrchiol. Yn bwysicaf oll, mae'r cwsmer, fydd ond yn defnyddio'r gwasanaeth hwn unwaith efallai, yn cael gwasanaeth mwy cymesur sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.

Mae'r Arolygiaeth Gynllunio yn awyddus i weld cymaint o ACLlau â phosibl yn ymuno â'r cynllun.  Cadwch lygad ar agor am stondin yr Arolygiaeth Gynllunio yn y Confensiwn Cynllunio rhwng 10 ac 11 Gorffennaf.

Am ragor o wybodaeth am sut y gall ACLlau gymryd rhan a'r manteision i apelyddion, ewch i'r Porth Cynllunio neu cysylltwch â Gavin Ewing ar 0117 372 8397.

>> Dychwelwch i'r Cylchlythyr