Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru Cyhoeddiad 9

Apeliadau Cynllunio Anghyflawn yn Ychwanegu at yr Oedi wrth GofrestruSimon Bliss

Bydd nifer o'n darllenwyr yn gwybod bod gan yr Arolygiaeth lwyth apeliadau o 3-4 wythnos sy'n aros i'w dechrau.  Mae hyn yn bennaf o ganlyniad i'r ffaith mai'r llwyth apeliadau a dderbyniwyd yn 2007/08 oedd y llwyth mwyaf ond un ers dros 15 mlynedd.   I fynd i'r afael â hyn, rydym wedi cyflwyno cyfres o fesurau'n ddiweddar, gan gynnwys recriwtio staff dros dro, sydd wedi ein galluogi i gyfeirio mwy o adnoddau i gael gwared â'r llwyth apeliadau sy'n aros. Mae'r arwyddion yn galonogol wrth i apeliadau gael eu cofrestru'n llawer iawn cyflymach nawr nag yr oeddent cyn y Nadolig.  Wrth gwrs, mae peth gwaith i'w wneud eto, ond rydym yn hyderus y bydd y sefyllfa'n parhau i wella dros y misoedd nesaf.

Wedi dweud hynny, prif ddiben yr erthygl hon yw tynnu sylw at ffactor sylweddol arall sy'n achosi oedi, sef nifer yr apeliadau a gyflwynir sy'n anghyflawn neu sydd heb eu llenwi'n gywir, a gofyn am eich cydweithrediad i oresgyn y broblem.  Amcangyfrifwn fod hyn yn gymwys i ryw 30% o'r holl apeliadau. Mae'r rhesymau mwyaf cyffredin fel a ganlyn –

Roedd y broblem o ran apeliadau a gyflwynwyd drwy'r Porth Cynllunio wedi gwaethygu cynddrwg y llynedd hyd nes i ni deimlo bod rhaid cynnwys neges i ddefnyddwyr y system ar y ffurflen gydnabod electronig yn eu hysbysu na fyddem yn anfon unrhyw negeseuon atgoffa mwyach ar gyfer y dogfennau ategol.  Mae tudalen olaf y ffurflen apêl a gwblheir ar-lein yn rhestru'r holl ddogfennau sydd wedi'u cyflwyno'n electronig gyda'r apêl yn ogystal â'r rhai fydd yn cael eu rhoi yn y post, ac felly rydym bellach yn ystyried mai cyfrifoldeb yr apelydd yw sicrhau bod y dogfennau a anfonir drwy'r post yn cael eu cyflwyno'n brydlon.  Os na fydd hynny'n digwydd, ni fyddwn yn prosesu'r apêl.

Mae mwyafrif llethol yr apeliadau yn dal i gael eu cyflwyno drwy'r post.  Felly, yn wahanol i'r rhai sy'n dewis defnyddio'r porth, teimlwn fod rhaid anfon un neges atgoffa at apelyddion ynghylch y dogfennau coll ac ati, er gwaetha'r ffaith y byddai'n llawer iawn gwell gennym dreulio ein hamser yn gweithio ar apeliadau a gyflwynir yn gyflawn.  Dylwn ddweud nad yw'r broblem arbennig hon wedi'i chyfyngu i apelyddion nad ydynt yn cael eu cynrychioli.  Mae llawer gormod o asiantiaid naill ai'n anghofio anfon yr holl waith papur angenrheidiol gyda'r apêl neu'n ymddangos fel pe baent yn dibynnu arnom i ddweud wrthynt beth sydd ar goll. 

I'n helpu i oresgyn y broblem, treuliwch ychydig funudau'n rhagor yn gwneud yn siŵr bod yr holl wybodaeth y gofynnir amdani yn adran J y ffurflen apêl wedi'i chynnwys cyn i chi gyflwyno'r apêl.   Os ydych yn ansicr, mae ein Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid ar gael ar 0117 372 6372 i gynnig unrhyw gyngor. 

I gloi, efallai y byddai gan ddarllenwyr ddiddordeb gwybod ein bod wrthi'n diwygio'r ffurflen apêl a'r canllawiau sy'n cyd-fynd â hi er mwyn ei gwneud hi'n haws ei deall ac, felly, ei chwblhau.  Gobeithio y gallwn gyflwyno'r ffurflen newydd yn ddiweddarach eleni.

>> Dychwelwch i'r Cylchlythyr