Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru Cyhoeddiad 9

Katrine Sporle

Neges gan y Prif Weithredwr

Croeso i rifyn diweddaraf Cylchlythyr yr Arolygiaeth Gynllunio.

Ers i'r wythfed Cylchlythyr gael ei gyhoeddi, mae manylion am ein perfformiad yn 2007/08 wedi'u cyhoeddi.

Yn gyffredinol, cyflawnwyd 9 o'n 15 targed perfformiad allweddol, gan gynnwys y rhai sy'n gymwys i ansawdd a bodlonrwydd cwsmeriaid.  Yng Nghymru, cyflawnwyd ein targedau ar gyfer yr holl apeliadau cynllunio a gorfodi (7 allan o 8) ac yn Lloegr cyflawnwyd ein targedau amseroldeb ar gyfer apeliadau a benderfynir gan sylwadau ysgrifenedig ac ymholiadau.  Canlyniad ardderchog.
 
Dangosodd yr adroddiad blynyddol ar benderfyniadau cynllunio'r Gweinidog yn Lloegr, a gyhoeddwyd yng nghanol Mai, bod pob un o'r 131 o achosion a alwyd i mewn ac apeliadau a adferwyd wedi'u cwblhau'n brydlon.

Yn ogystal, mae'r Arolygiaeth wedi haneru'r amser aros ar gyfer pennu dyddiadau gwrandawiadau i ddeg wythnos.

Mae'r llwyddiant hwn wedi helpu i gynyddu bodlonrwydd cyffredinol cwsmeriaid â'r Arolygiaeth i 81% fel y mesurwyd yn yr Arolwg Bodlonrwydd Cwsmeriaid.

Rwyf yn hapus iawn â'r canlyniadau hyn ac mae'r Arolygiaeth mewn sefyllfa dda bellach i wynebu heriau'r flwyddyn newydd: gweithio i gyrraedd y targedau newydd fydd yn cael eu gosod gan Weinidogion ar gyfer 2009/10, ateb galwadau'r Mesur Cynllunio, a sicrhau llwyddiant y cynllun peilot Apeliadau Cyflym ar gyfer Deiliaid Tai.  Mae mwy o wybodaeth am y cynllun peilot ar gael yn y rhifyn hwn.

Ar 1 Ebrill  ymunodd Nigel Clark â'r Arolygiaeth fel Cyfarwyddwr Cynllunio Cyllid, Adnoddau a Busnes. Rwyf yn siŵr y byddwch yn ymuno â mi wrth ei groesawu i'r Arolygiaeth.

Mae croeso i chi roi eich sylwadau ar yr eitemau yn y rhifyn hwn, neu gyflwyno eich awgrymiadau ar gyfer erthyglau yn y dyfodol, drwy anfon e-bost at KatrineSporle.News@pins.gsi.gov.uk.   

Katrine Sporle
Mehefin 2008

Pwyso a Mesur Fframweithiau Datblygu Lleol Lee Armitage

Mae Lee Armitage, pennaeth y gangen Cynlluniau Datblygu Lleol, yn trafod faint o gynnydd y mae'r Arolygiaeth wedi'i wneud mewn dwy flynedd o ran archwilio Dogfennau Cynlluniau Datblygu .

Darllen yr erthygl ar Fframweithiau Datblygu Lleol >>

Apeliadau mewn perthynas â Gorchmynion Cadw Coed a Hysbysiadau Amnewid CoedSarah Tudor

Mae'r Arolygiaeth wedi ymgymryd â gwaith yn ymwneud â Gorchmynion Cadw Coed ers mis Ebrill 2008. Mae Sarah Tudor, Swyddog Gwaith Achos Amgylcheddol, yn archwilio beth y mae hyn yn ei olygu i'r Arolygiaeth.

Darllen yr erthygl ar y Gorchymyn Cadw Coed >>

Amodau a Rhwymedigaethau Cynllunio Richard Holland

Mae Richard Holland, Rheolwr Adran, yn rhoi gwybodaeth am amodau sy'n ei gwneud yn ofynnol i bartïon lunio rhwymedigaeth gynllunio a sut y mae ein cyngor i Arolygwyr wedi newid.

Darllen yr erthygl ar Amodau a Rhwymedigaethau Cynllunio >>

Datganiadau o Dir CyffredinWendy Burden

Mae'r cyfle i gynnal ymchwiliadau cyflym ac effeithiol yn cael ei golli am fod datganiadau ystyrlon o dir cyffredin yn cael eu cyflwyno'n hwyr neu am nad ydynt yn cael eu cyflwyno o gwbl. Mae Wendy Burden, y Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Gwaith Achos Amgylcheddol ac Arbenigol, yn trafod y cyfleoedd i wella arfer o ran cynhyrchu datganiadau. 

Darllen yr erthygl ar Ddatganiadau o Dir Cyffredin >>

Apeliadau Cynllunio Anghyflawn Si Bliss

Mae nifer yr apeliadau anghyflawn neu sydd heb eu llenwi'n gywir a gyflwynir yn ychwanegu at yr oedi wrth Gofrestru. Mae Si Bliss, Rheolwr Adran ar Gofrestru Gwasanaeth Gwaith Achos Cynllunio, yn gofyn am gydweithrediad gan gydweithwyr i oresgyn y broblem.

Darllen yr erthygl ar Apeliadau Cynllunio Anghyflawn >>

Y Gwasanaeth Gwaith Achos Cynllunio yn Arolygiaeth Gynllunio Cymru.Isabel Nethell

Cyflwynwyd y Gwasanaeth Gwaith Achos Cynllunio yng Nghymru yn 2007. Mae Isabel Nethell, Rheolwr Adran PINS Cymru, yn archwilio'r broses o gyflwyno a datblygu'r system prosesu apeliadau electronig.

Darllen yr erthygl ar y Gwasanaeth Gwaith Achos Cynllunio >>

Sean Canavan

Dull Gweithredu Cyflym mewn perthynas ag Apeliadau Cynllunio gan Ddeiliaid Tai.

Bydd y dull gweithredu hwn sydd wedi'i ailwampio yn golygu y bydd apeliadau gan ddeiliaid tai yn cael eu penderfynu cyn pen 12 wythnos neu lai. Mae hyn o leiaf 4 wythnos yn gynt na'r broses bresennol. Mae Sean Canavan, Pennaeth Ansawdd a Phrosiectau Arbennig, yn trafod sut y mae'r cynllun peilot presennol yn gweithio a'r manteision a ddaw o fabwysiadu'r dull gweithredu hwn.

Darllen yr erthygl ar y Dull Gweithredu Cyflyn >>

Cyfarfod Blynyddol i ArolygwyrMike Rathmell

Mae Mike Rathmell, Rheolwr yr Adran Hyfforddi Arolygwyr, yn amlinellu digwyddiadau'r Cyfarfod Blynyddol i Arolygwyr a gynhaliwyd ym mis Ebrill2008. Dolen i'r erthygl.

Darllen yr erthygl ar y Cyfarfod Blynyddol i Arolygwyr >>

Civil Service LiveJohn Hammond

Cynhaliwyd y digwyddiad Civil Service Live yn Llundain rhwng 1 a 3 Ebrill. Mae John Hammond, Pennaeth Rheoli Newid a Chyfathrebu, yn disgrifio'r digwyddiad.

Darllen yr erthygl ar y Civil Service Live >>

NEWYDDION I RANDDEILIAID

NEWYDDION I RANDDEILIAIDSheila Rice

Mae Sheila Rice, Cynorthwy-ydd Personol y Prif Weithredwr, yn rhoi adborth o'r cyfarfod ar gyfer Rhanddeiliaid Cyrff Rhanbarthol.

Darllenwch yr erthygl 'Rhanddeiliaid' >>