Cynhaliwyd y Cyfarfod Blynyddol i Arolygwyr ar 17 ac 18 Ebrill yn y Marriott City Hotel ym Mryste. Cafodd Nigel Clark, y Cyfarwyddwr Cynllunio Cyllid a Busnes newydd, ei gyflwyno i'r Arolygwyr i gyd. Cynhaliwyd sesiynau amrywiol ar bynciau megis Cynllunio ar gyfer Datblygiadau Di-garbon, Asesu Priodol, Llifogydd ac Amodau. Cyn y cinio, cafwyd araith graff a diddorol ar Eco-drefi gan David Lock o David Lock Associates, a chafodd ei araith groeso mawr.