Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru Cyhoeddiad 9

Pwyso a Mesur Fframweithiau Datblygu Lleol Lee Armitage

Bellach, mae gan ein Harolygwyr ddwy flynedd lawn o brofiad o archwilio Dogfennau Cynlluniau Datblygu.  Er bod her sylweddol yn parhau i wynebu pawb sy'n gysylltiedig â'r system Fframwaith Datblygu Lleol, mae llawer wedi'i gyflawni eisoes yn erbyn llwybr dysgu serth iawn sy'n galw am ffyrdd newydd o feddwl a ffyrdd newydd o weithio.

Faint o gynnydd yr ydym wedi ei wneud? Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon:

Mae'r Arolygiaeth wedi ceisio rhannu profiad ymarferol drwy gyhoeddi "Lesson Learnt Examining Development Plan Documents", a bydd yn diwygio'r cyhoeddiad hwn yn fuan. Gallwn hefyd edrych ar fentrau eraill i gynorthwyo'r broses gyflwyno yn 08/09 a gaiff eu cynnwys yng nghyhoeddiad Datganiad Cynllunio Polisi 12 sydd wedi'i ddiwygio a'r rheoliadau diwygio atodol sy'n symleiddio'r broses;  mwy o gyllid o bosibl ar gyfer Awdurdodau Cynllunio Lleol drwy'r Grant Cyflwyno Tai a Chynllunio ac arweiniad a phwyslais cliriach ar gyflwyno Dogfennau Cynllunio Datblygu sy'n 'flaenoriaeth'.

Rydym wedi ymbaratoi i gynnal tua 170 o archwiliadau o Ddogfennau Cynlluniau Datblygu bob blwyddyn.  Os bydd mwy na'r nifer hyn o Ddogfennau Cynlluniau Datblygu yn cael eu cyflwyno i'w harchwilio mewn blwyddyn, yr her fydd sicrhau adnoddau i ateb y galw.  Mae'r mater hwn yn cael ei ystyried ar hyn o bryd gan yr Arolygiaeth, yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol a Swyddfeydd y Llywodraeth.

>> Dychwelwch i'r Cylchlythyr