
Yn 2007 cyflwynwyd system prosesu apeliadau electronig, y Gwasanaeth Gwaith Achos Cynllunio, i Arolygiaeth Gynllunio Cymru. System ar-lein yw'r gwasanaeth hwn ar gyfer olrhain a chwilio am apeliadau ac, ar ôl iddi gael ei defnyddio yn Lloegr am beth amser, mae'r system bellach yn cael ei chyflwyno i'w defnyddio yng Nghymru. Gellir defnyddio'r Gwasanaeth Gwaith Achos Cynllunio drwy'r Porth Cynllunio, sef adnodd cynllunio ar-lein Llywodraeth y DU ar gyfer Cymru a Lloegr.
I ddechrau, dim ond staff gweinyddol yn swyddfa Caerdydd oedd yn defnyddio'r Gwasanaeth Gwaith Achos Cynllunio fel ffordd o gofrestru a monitro cynnydd apêl a gweithio'n electronig lle bynnag y bo'n bosibl. Y cam nesaf a oedd yn hanfodol i lwyddiant y gwasanaeth oedd gweithredu dull sganio. Mae hyn yn golygu bod yr holl ddogfennau a dderbynnir gan yr Arolygiaeth yng Nghymru'n cael eu sganio i mewn i'r Gwasanaeth Gwaith Achos Cynllunio ac y gellir, felly, eu hanfon drwy e-bost at yr holl bartïon sydd ynghlwm wrth yr apêl. Mae arbedion effeithlonrwydd wedi bod yn fantais amlwg o ran gweithio'n electronig drwy leihau costau postio a gwneud y gwaith o ddosbarthu dogfennau'n haws.
Ar ôl i'r gwasanaeth gael ei weithredu'n llwyddiannus i'w ddefnyddio gan dîm gweinyddol yr Arolygiaeth, y cam nesaf oedd cyflwyno wyneb cyhoeddus y Gwasanaeth Gwaith Achos Cynllunio. Cyflawnwyd hyn drwy 'gyhoeddi' yr holl ddogfennau a gyflwynwyd ar ôl 14 Ionawr 2008 ar y Porth Cynllunio. Bellach gellir gweld manylion am bob cais cynllunio, hysbysiad gorfodi, hysbyseb, tystysgrif datblygiad cyfreithlon, caniatâd adeilad rhestredig ac apeliadau adeiladau rhestredig gorfodi newydd yng Nghymru, ynghyd â cheisiadau a alwyd i mewn, ar y rhyngrwyd drwy'r Porth Cynllunio. Mae hyn nid yn unig yn cynnwys manylion yr apêl ei hun, ond mae hefyd yn cynnwys yr holl gynrychioliadau a gyflwynwyd sy'n cefnogi neu'n gwrthwynebu cynnig. Mae cyfleuster chwilio yn galluogi unrhyw un i chwilio am apeliadau yn ôl sawl maen prawf; mae hyn yn cynnwys drwy'r awdurdod cynllunio lleol (ACLl), safle, datblygiad neu hyd yn oed cod post.
Mae'r gwaith o ddatblygu Gwasanaeth Gwaith Achos Cynllunio Cymru yn mynd rhagddo ac o 15 Mehefin eleni bydd pob parti i apêl yn gallu gwneud a chyflwyno eu cynrychioliadau ar-lein drwy'r Porth Cynllunio. Bydd awdurdodau lleol hefyd yn gallu cwblhau a chyflwyno eu holiaduron ar-lein.
O'r cychwyn cynlluniwyd a datblygwyd y Gwasanaeth Gwaith Achos Cynllunio yng Nghymru fel system ddwyieithog, a luniwyd i gael ei defnyddio gan ddefnyddwyr y system apeliadau yn Gymraeg neu Saesneg. Caiff apeliadau eu cofnodi a dogfennau eu cadw ar y system yn yr iaith y cânt eu cyflwyno. Ond gellir gweithredu fersiwn ar-lein y Gwasanaeth Gwaith Achos Cynllunio yn gyfan gwbl yn Gymraeg, gan gynnwys cyfarwyddiadau gweithredu, dewisiadau opsiwn, ymatebion a negeseuon gwallau.
Mae defnyddio'r Gwasanaeth Gwaith Achos Cynllunio yng Nghymru wedi annog yr arfer o weithio'n electronig ac mae wedi cyflwyno mwy o fuddiannau i holl ddefnyddwyr y system apeliadau, o Swyddogion Cynllunio awdurdodau lleol ac asiantiaid cynllunio, i aelodau o'r cyhoedd na fyddant yn ymwneud â'r broses mwy nag unwaith yn eu bywyd efallai. Mae cyflwyno'r Gwasanaeth hwn wedi galluogi'r broses apeliadau i fod yn fwy agored a thryloyw. I weld apeliadau yng Nghymru ewch i: http://www.planningportal.gov.uk/wales/genpub/cy/1105619049516.html