Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru Cyhoeddiad 9

AMODAU A RHWYMEDIGAETHAU CYNLLUNIORichard Holland

Mae Cylchlythyr 11/95 Adran yr Amgylchedd (The use of conditions in planning permisions) yn dweud na ddylid rhoi caniatâd yn ddarostyngedig i amod sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r partïon lunio rhwymedigaeth gynllunio s106.  Mae'n dweud hefyd na ellir ei gwneud yn ofynnol i daliad gael ei wneud wrth roi caniatâd cynllunio oni bai mewn achosion lle ceir awdurdod statudol penodol.

Tan yn ddiweddar, roeddem yn dweud wrth Arolygwyr y gall amod sydd wedi'i eirio'n negyddol gael ei ddefnyddio, o dan amgylchiadau priodol, fel rhagarweiniad i rwymedigaethau a gaiff eu llunio ond sy'n atal y caniatâd rhag cael ei weithredu hyd nes bod trefniadau eraill, megis rhwymedigaeth s106, yn cael eu rhoi mewn grym. 

Dywedwyd wrth yr Arolygwyr y gallent ddefnyddio amod sy'n debyg i'r canlynol:

“Ni ddylai unrhyw ddatblygiad ddechrau hyd nes bod manylion ynghylch cynllun ar gyfer darparu isadeiledd [addysgol] [hamdden] [gwasanaethau cymunedol] i ddiwallu anghenion y datblygiad [yn unol â pholisïau Strwythur a Chynllun Lleol] yn cael eu cyflwyno i'r ACLl a'u cymeradwyo ganddo'n ysgrifenedig. Dylai'r cynllun gynnwys amserlen ar gyfer y ddarpariaeth sydd i'w gwneud, a dylai gael ei gynnal yn unol â'r manylion a gymeradwywyd.”

Ar y pryd, roeddem yn ystyried mai'r amgylchiadau priodol fyddai achosion lle bo cytundeb mewn egwyddor neu gytundeb manwl wedi'i sicrhau mewn perthynas â thelerau rhwymedigaeth angenrheidiol, bod y rhwymedigaeth yn gwneud yr hyn yr oedd ei angen i wneud y datblygiad yn dderbyniol, ond nad oedd wedi bod yn bosibl cwblhau'r rhwymedigaeth, efallai am fod problemau wedi codi wrth gael yr holl lofnodion angenrheidiol neu sefydlu teitl. O dan yr amgylchiadau hyn, teimlwn y gallai gosod amod o'r fath ddileu'r angen i wrthod caniatâd gan ei fod yn gadael i'r partïon gytuno ar sut y byddai'r isadeiledd yn cael ei ddarparu ac nid oedd yn cyflwyno unrhyw ofyniad penodol oedd yn datgan y dylai hyn gael ei wneud drwy rwymedigaeth neu gyfraniad ariannol  

Fodd bynnag, mewn llythyr i Hives Planning Ltd dyddiedig 26 Hydref 2007 a oedd yn ymwneud â phum apêl a adferwyd gan Arnold White Estates Ltd a CC Trading Ltd, ni dderbyniodd yr Ysgrifennydd Gwladol argymhelliad yr Arolygydd y dylai amod o'r fath gael ei gyflwyno oherwydd credai'r Ysgrifennydd nad oedd yn ddigon manwl a'i fod felly'n methu'r prawf manylder a nodir yng Nghylchlythyr 11/95 Adran yr Amgylchedd.  Teimlai'r Ysgrifennydd Gwladol hefyd na allai cynllun gael ei lunio heb ei gwneud hi'n ofynnol i daliad gael ei wneud a fyddai'n mynd yn groes i'r egwyddor na ellir codi trethi heb gefnogaeth gyfreithiol glir.

Yn dilyn sylwadau'r Ysgrifennydd Gwladol, rydym wedi dweud wrth Arolygwyr na ddylid defnyddio amod o'r fath mwyach.  Os yw datblygiad arfaethedig ond yn dderbyniol os caiff cyfraniad ariannol ei wneud tuag at y gost o ddarparu isadeiledd ac os na cheir unrhyw rwymedigaeth foddhaol sydd wedi'i chwblhau i sicrhau taliad o'r fath, efallai mai'r unig beth y gellir ei wneud yw gwrthod yr apêl. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu na ddylid byth defnyddio amod fel dewis arall i rwymedigaeth goll neu anfoddhaol cyhyd â bod yr amod hwnnw'n bodloni'r profion yng Nghylchlythyr 11/95 Adran yr Amgylchedd. 

>> Dychwelwch i'r Cylchlythyr