CYLCHLYTHYR MAI 2008 
Hyd yn hyn, yr unig gyfarfod rhanddeiliaid sydd wedi'i gynnal eleni yw'r cyfarfod â chynrychiolwyr Cyrff Rhanbarthol ar 27 Chwefror 2008. Mae'r grŵp hwn yn cynnwys Swyddfeydd y Llywodraeth, Cynulliadau Rhanbarthol ac Asiantaethau Datblygu Rhanbarthol.
Mae cyfarfodydd â'r grwpiau hyn ychydig yn wahanol i gyfarfodydd â grwpiau eraill o randdeiliaid gan fod y sawl sy'n mynychu'n perthyn i gyrff amrywiol y Llywodraeth tra bod y grwpiau eraill o randdeiliaid yn dod o sefydliadau allanol yn bennaf.
Roedd yr hyn a drafodwyd yn ystod y cyfarfod yn cynnwys:
Y diweddaraf am Berfformiad yr Arolygiaeth
- Gwneud gwelliannau i brosesau mewnol
- Mwy o gyswllt â rhanddeiliaid ac Awdurdodau Cynllunio Lleol (ACLlau)
- Uchafswm yr apeliadau yr ymdriniwyd â hwy eleni ar adnoddau prin
- Uchafswm y penderfyniadau a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2008.
- Cyfansoddiad y gwaith achos wedi newid
- Rhoi cynnig ar fentrau newydd h.y. technoleg newydd, ffyrdd newydd o weithio gydag awdurdodau lleol, cynnwys partïon yn gynt
- Mae'n annhebygol y bydd rhai targedau'n cael eu cyflawni eleni o ganlyniad i'r llwyth gwaith ac anallu rhai partïon i fodloni ein targedau. Ceisio gosod targedau mwy realistig a newid ein targedau i wneud defnydd mwy effeithlon o adnoddau. Eisiau cyflwyno amserlenni pwrpasol h.y. pennu targed cyffredinol ar gyfer achos yn hytrach na thargedau ar gyfer pob cam fel y gallwn gynllunio gwaith yn fwy effeithlon.
Cynnydd y Fframwaith Datblygu Lleol a'r gwersi a ddysgwyd
- Mae'r gwaith ar y Dogfennau Cynlluniau Datblygu (DCD) yn parhau i fod yn heriol
- Ceir llif cyson o ddogfennau ond rydym ar ôl yr amserlenni disgwyliedig; mae'r sefyllfa ar ddyddiad y cyfarfod fel a ganlyn: rydym wedi cael 145 o DCDau, 61 adroddiad terfynol, mae 22 Strategaeth Graidd wedi bod yn gadarn, mae 8 Strategaeth Graidd heb fod yn gadarn, mae 25 o ddogfennau lefel is wedi bod yn gadarn ac mae 44 heb fod yn gadarn, mae 28 o DCDau wedi'u tynnu'n ôl gan ACLlau. Mae Swyddfeydd y Llywodraeth a'r Arolygiaeth wedi cydweithio'n agos i helpu ACLlau. Mae'r broses archwilio'n parhau i fod yn effeithlon ond bydd newidiadau'n cael eu gwneud h.y. PPS 12
Dull Gweithredu Cyflym ar gyfer Apeliadau gan Ddeiliaid Tai
- Mae 15 awdurdod yn cymryd rhan yn y gwaith o dreialu cynnig yn y Ddogfen Ymgynghori ar gyfer gwasanaeth apeliadau pwrpasol ar gyfer achosion yn cynnwys deiliaid tai, lle bydd penderfyniad yn cael ei gyhoeddi cyn pen 8 wythnos. Nifer fach o achosion sydd wedi dod i law hyd yn hyn ond mae'r nifer yn debygol o gynyddu. [Ers y cyfarfod, mae penderfyniadau wedi'u gwneud ynghylch nifer o'r apeliadau hyn ymhell o fewn amserlen 12 wythnos y cynllun peilot.]
Datblygu strwythur
- O ganlyniad i'r Mesur Cynllunio, mae'r Arolygiaeth yn newid ei strwythur o'r un oedd ganddi yn 2004, oedd wedi'i seilio ar y rhanbarthau, i strwythur mwy gweithredol. Bydd yn cynnwys grŵp pwrpasol o Arolygwyr ar DCDau.
Strategaethau Gofodol Rhanbarthol - y gwersi a ddysgwyd
- Mae Archwiliadau Cyhoeddus wedi'u cwblhau ar gyfer y rownd gyntaf o Adolygiadau o Strategaethau Gofodol Rhanbarthol (SGRhau) i gyd ar wahân i SGRh Gorllewin Canolbarth Lloegr. Mae'r Arolygiaeth yn paratoi adolygiad o'r broses SGRh i fwydo i mewn i adolygiadau "bach" terfynol y SGRh mewn perthynas â thai a'r prosesau archwilio cyhoeddus newydd. Hoffai'r Arolygiaeth gael adborth ar y wybodaeth ac arfer gorau ar ôl iddynt gael eu cyhoeddi.
Strategaethau Rhanbarthol Unigol
- Cefnogwyd y cynnig i gynnwys y panel yn gynnar yn y broses
- Dylai'r Archwiliad Cyhoeddus ystyried y strategaeth i gyd hefyd
- Gwerth mewn nodi perchnogaeth ac arweinyddiaeth glir
- Cymeradwywyd yr arfer o ddefnyddio technoleg i'r graddau hynny sy'n rhesymol
- Yr Arolygiaeth yn cyfrannu adnoddau arbenigol i adolygiadau
- Angen dull gweithredu safonedig ar yr hyn a gaiff ei ystyried gan y panel - dylai'r Arolygiaeth ddosbarthu nodyn cyngor
Fframweithiau Datblygu Gwastraff/Strategaethau Craidd
- Ni anogir unrhyw awdurdod cynllunio i gael mwy nag un Strategaeth Graidd - gellir cytuno â hynny lle bo mantais o gael mwy nag un. Rhaid i Strategaethau Craidd ar Fwynau a Gwastraff gael eu cysylltu ag opsiynau yn y brif Strategaeth Graidd.
- Canllawiau ar Strategaethau Craidd ar Wastraff yn nogfen PINS ar wersi a ddysgwyd
Cynnwys y Sector Gwirfoddol mewn Archwiliadau Cyhoeddus (SGRh a DCD)
- Edrych ar ffyrdd o annog y sector gwirfoddol i gymryd rhan h.y. cyfnewid gwybodaeth, cyllid ar gyfer paratoi
- Mae'n bwysig sicrhau bod gwirfoddolwyr yn dal i ganolbwyntio a pheidio â mynd i ormod o fanylder ynghylch materion sy'n benodol i safle
- Dim ond i ddelio â materion penodol y mae angen i gyrff rhanbarthol fynychu archwiliadau cyhoeddus
Sheila Rice
>> Dychwelwch i'r Cylchlythyr