
Mae'r cyfle i baratoi'r ffordd ar gyfer ymchwiliad cyflym ac effeithiol yn cael ei golli am fod datganiad ystyrlon o dir cyffredin yn cael ei gyflwyno'n hwyr neu am nad oes un yn cael ei gyflwyno o gwbl. Mae Atodiad 3(ii) i Gylchlythyr 05/00 yn egluro y dylai cynnwys deunydd y cytunwyd arno yn y Datganiad o Dir Cyffredin arwain at brofion byrrach o dystiolaeth ac ymchwiliadau byrrach gan y dylai hwyluso'r broses o gyfyngu'r materion sy'n destun anghydfod. Yn Rhifyn 3 o'r cylchlythyr hwn, anogodd Martin Edwards bob tyst arbenigol i ddefnyddio'r broses hon fel ffordd o nodi'r ffeithiau allweddol i'w cymhwyso i'r polisïau amrywiol ac ystyriaethau cynllunio eraill sy'n berthnasol i'r ymchwiliad yn eu profion o dystiolaeth. Fodd bynnag, mae dal i fod cryn le i wella ymarfer. Er enghraifft, caiff y Datganiad o Dir Cyffredin ei gyflwyno'n aml ar ddechrau'r ymchwiliad, ac nid yw'n gwneud llawer i gyfyngu'r materion rhwng y partïon, gan ganolbwyntio yn lle hynny ar ddisgrifiadau safle y cytunwyd arnynt neu restrau o bolisïau perthnasol. Yn ogystal, mae'r Datganiad o Dir Cyffredin wedi'i gyflwyno ar ffurf "drafft" gan yr apelydd heb unrhyw drafodaeth ymlaen llaw â'r awdurdod cynllunio lleol.
I lunio Datganiad o Dir Cyffredin sy'n cyflawni amcan y Cylchlythyr, dylai'r datganiad gael ei gyflwyno cyn profion y dystiolaeth neu ar yr un pryd â phrofion y dystiolaeth fan bellaf. Byddai hyn yn sicrhau bod y tystion wedi trafod materion cyn paratoi'u profion a bod yr Arolygydd yn cael ei hysbysu'n briodol ynghylch y materion nad ydynt yn destun anghydfod. O dan gynigion y Papur Gwyn Cynllunio, mae'n werth nodi mai'r bwriad fyddai i'r Datganiad o Dir Cyffredin gael ei lunio yn ystod y cam 6 wythnos fel ei fod yn cyfrannu at y gwaith o gynhyrchu'r dystiolaeth.
Er mwyn cynnig hyd yn oed fwy o werth i'r Arolygydd, byddai'r datganiad yn cynnwys y tir nad yw'n gyffredin rhwng y partïon. Ceir nifer o achosion lle mae'r partïon yn cyflwyno datganiadau maith o faterion y maent yn cytuno arnynt, ond mae dal i fod angen i'r Arolygydd ddarllen yr holl dystiolaeth yn fanwl i ddarganfod yr union feysydd sy'n peri anghytundeb. Bydd datganiad syml sy'n nodi'r materion hynny sy'n destun anghydfod rhwng y partïon yn helpu'r Arolygydd i ganolbwyntio ar y dystiolaeth sy'n allweddol i'r broses o benderfynu ar yr achos.
Ffyrdd eraill o ychwanegu at werth y Datganiad o Dir Cyffredin fyddai cynhyrchu swp cyffredin o ddogfennau a pholisïau perthnasol a rhestr y cytunwyd arni o amodau a awgrymir, neu lunio datganiadau ar wahân ar gyfer tystion ar bynciau penodol megis priffyrdd neu sŵn. Gall nodi'r prif wahaniaethau rhwng tystion mewn perthynas â thystiolaeth dechnegol leihau'r amser y mae angen ei neilltuo ar gyfer y dystiolaeth gyntaf a chroesholi yn ystod yr ymchwiliad.
Wendy Burden
Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwaith Achos Amgylcheddol ac Arbenigol