Yr Arolygiaeth Gynllunio yn ymgymryd ag apeliadau mewn perthynas â Gorchmynion Cadw Coed a Hysbysiadau Ailblannu CoedGorchymyn Cadw Coed yw gorchymyn a wneir gan awdurdod cynllunio lleol (ACLl) mewn perthynas â choed neu goetir. Prif effaith Gorchymyn Cadw Coed yw gwahardd torri, dadwreiddio, brigdorri, torchi neu ddifrodi neu ddinistrio coed yn fwriadol heb ganiatâd yr ACLl. Cyflwynir ceisiadau i ACLlau am ganiatâd i wneud gwaith ar goed a warchodir gan orchmynion cadw neu i gael gwared â choed o'r fath. Mae Adran 78 o'r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref yn rhoi hawl i bobl sy'n anhapus â phenderfyniad ACLl apelio i'r Ysgrifennydd Gwladol.
Mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi dirprwyo ei swyddogaethau apêl i'r Arolygiaeth Gynllunio ac ar 6 Ebrill, ymgymerodd PINS yn swyddogol â'r gwaith o weinyddu pob apêl newydd yn erbyn gorchmynion cadw coed a hysbysiadau ailblannu coed. Yn ogystal, etifeddodd Tîm yr Amgylchedd, y tîm sy'n gyfrifol am y gwaith achos hwn, tua 420 o apeliadau byw gan naw Swyddfa'r Llywodraeth ar gyfer y Rhanbarthau.
Mae'r 12 tyfwr coed a oedd yn ymweld â safleoedd ac yn adrodd i'r Ysgrifennydd Gwladol wedi cytuno i barhau i wneud y gwaith hwn ar ran PINS.
Os bydd apêl yn dod i law ar 6 Ebrill 2008 neu wedi hynny, bydd yr Arolygydd sy'n ymweld â'r safle neu'n cynnal y gwrandawiad neu'r ymchwiliad yn ysgrifennu penderfyniad yn hytrach nag adroddiad. Bydd hyn yn golygu llai o amser o'r cyfnod y caiff yr apêl ei chyflwyno hyd nes y caiff y penderfyniad terfynol ei gyhoeddi.
Bydd yr Arolygiaeth yn delio â'r gwaith o weinyddu'r apêl o'r dechrau i'r diwedd (gan gynnwys trefnu ymweliadau â'r safle a gwrandawiadau). Bydd hyn yn cyflymu'r broses.
Roedd yr un papur ymgynghori a oedd yn gofyn am farn ynghylch yr Arolygiaeth Gynllunio yn ymgymryd â Gorchmynion Cadw Coed yn gofyn hefyd am farn am ddull symlach o brosesu'r apeliadau. Cynigir y dylid seilio'r penderfyniadau'n bennaf ar ddeunydd a gesglir yn ystod y broses o wneud cais. Ewch i wefan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol am ragor o wybodaeth.
http://www.communities.gov.uk/publications/planningandbuilding/tposconsultation