Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

IECHYD A DIOGELWCH GALWEDIGAETHOL

DATGANIAD POLISI

Hydref 2008

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi ymrwymo i ddiogelu iechyd, diogelwch a lles pob un o’n gweithwyr, ein cwsmeriaid, y cyhoedd a’r holl bobl sy’n gweithio o dan reolaeth y sefydliad. Mae sicrhau’r ymrwymiad hwn yn amcan rheoli pwysig sy’n cyfrannu at berfformiad ein busnes.

Mae’r Prif Weithredwr yn sicrhau y gwneir trefniadau digonol i gynnal system rheoli iechyd a diogelwch ysgrifenedig ac i ddarparu adnoddau ariannol a chorfforol priodol er mwyn ei gweithredu . Mae’r system hon yn nodi cyfrifoldeb pob rheolwr ac yn manylu ar y trefniadau ar gyfer rheoli peryglon a allai godi yn sgil gweithgareddau eu gweithrediadau ac ymgynghori a chyfathrebu ar faterion iechyd a diogelwch â gweithwyr. Mae’r system hon hefyd yn cynnwys trefniadau ar gyfer gosod amcanion; monitro ac adolygu perfformiad a rheolaeth iechyd a diogelwch, nid yn unig er mwyn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a gofynion eraill ond er mwyn sicrhau gwelliannau blaengar.

Mae’r Rheolwr Iechyd a Diogelwch yn darparu cyngor iechyd a diogelwch i’r Prif Weithredwr a’r Uwch Reolwyr. Mae’r Rheolwr Iechyd a Diogelwch yn gyfrifol am adolygu perfformiad iechyd a diogelwch yn rheolaidd ac adrodd y canlyniadau i’r Cyfarwyddwr Gweithrediadau a’r Uwch Dîm Rheoli.

Rydym yn atgoffa pob gweithiwr, a phob unigolyn sy’n gweithio o dan reolaeth  y sefydliad, bod ganddynt gyfrifoldeb personol dros eu hiechyd a diogelwch eu hunain ac iechyd a diogelwch pobl eraill sy’n cael eu heffeithio gan y gwaith a wneir ganddynt. Felly, mae’n rhaid iddynt lynu wrth yr arferion gweithio a nodir yn y Llawlyfr Staff, Llawlyfr yr Arolygydd a nodiadau perthnasol yr Arolygiaeth, a chydweithredu’n llawn gyda’u rheolwyr ar unrhyw fater yn ymwneud ag iechyd a diogelwch.

Caiff y polisi hwn ei adolygu’n flynyddol er mwyn sicrhau ei fod yn parhau’n berthnasol ac yn briodol.

Llofnodwyd

Katrine Sporle

Prif Weithredwr

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English