Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Graddau Gweinyddol: Fframwaith Cymhwyster

Rhaid i'r holl staff gweinyddol yn yr Arolygiaeth - ar lefel sy'n briodol i'w gradd :-

Rhaid i staff ar raddfa uwch hefyd allu rheoli prosiectau.

Caiff y rhan fwyaf o staff eu recriwtio i raddau gweinyddol yr Arolygiaeth ar lefel AA/AO. Felly, rydyn ni wedi cynnwys ar y safle hwn ddangosyddion perfformiad ar gyfer y graddau hynny'n unig. Ond os hoffech gael gwybod rhagor am y cymwyster angenrheidiol ar gyfer staff ar raddfa uwch, anfonwch e-bost atom.

Cymwysterau a dangosyddion perfformiad AA/AO

Clwstwr cymhwyster: Rheoli gwaith

Cymhwyster: Gosod amcanion a'u cyrraedd

  1. Yn gofyn am flaenoriaethau a therfynau amser clir, a chytuno arnynt
  2. Yn dangos hyblygrwydd wrth wynebu blaenoriaethau sy'n newid mewn amgylchiadau newydd neu rai sy'n newid
  3. Yn dysgu'r diweddaraf am dasgau rheolaidd
  4. Yn deall sut mae ei waith ei hun yn cyfrannu at amcanion y Gangen a'r Adran
  5. Yn gofyn cwestiynau i egluro blaenoriaethau a phenderfynu'r amser a'r adnoddau sydd ar gael i gyflawni tasgau
  6. Yn canolbwyntio ar yr amcanion heb gael ei lethu gan fân anawsterau
  7. Yn dilyn tasg nes ei chwblhau'n iawn yn unol â'r amserlen sydd wedi ei chytuno
  8. Yn gwahaniaethu rhwng blaenoriaethau a thasgau nad ydynt yn hanfodol
  9. Yn defnyddio'i farn i gael y cydbwysedd iawn rhwng ansawdd a bod yn amserol
  10. Yn cymryd cyfrifoldeb dros ei waith ei hun

Clwstwr cymhwyster: Rheoli gwaith

Cymhwyster: Gofal cwmseriaid

  1. Yn gwybod pwy yw'r prif gwsmeriaid am y gwasanaeth, yn yr Arolygiaeth a'r tu allan
  2. Yn cymryd cyfrifoldeb dros broblem cwsmer, yn rhoi gwybod iddo/iddi am y cynnydd ac yn cymryd camau i ddatrys y broblem
  3. Yn gadarn ond yn ddoeth wrth gyfleu safbwynt yr Arolygydd ac yn gwybod sut i ddweud "na"
  4. Yn rhoi gwybodaeth a chyngor clir a chywir

Clwstwr cymhwyster: Rheoli gwaith

Cymhwyster: Defnyddio a rheioli gwybodaeth

  1. Naill ai'n meddu ar fedrau cyfrifiadurol sylfaenol neu'n barod i'w dysgu
  2. Yn gyfarwydd â phecynnau meddalwedd perthnasol ac yn barod i'w defnyddio, neu'n fodlon dysgu sut i wneud hynny
  3. Yn gwybod pa wybodaeth sydd ar gael am system y swyddfa ac yn gwybod sut i fynd i mewn iddi
  4. Yn deall sut all Systemau Gwybodaeth helpu cyflawni'r amcanion hyn
  5. Yn dilyn canllawiau 'Arferion Da' wrth weithredu systemau swyddfa
  6. Yn gwybod pa gyfarpar swyddfa sydd ar gael ac yn ei ddefnyddio'n effeithiol
  7. Yn gweithredu system rheoli ffeiliau sy'n glir, yn gyson ac yn ddiogel, yn electronig ac ar bapur, gan gynnwys copiau wrth gefn
  8. Yn cadw copiau wrth gefn yn rheolaidd ar gyfer yr holl ddata pwysig
  9. Yn defnyddio cyfryngau electronig yn hytrach na phapur pryd bynnag y bydd yn bosibl
  10. Yn defnyddio peiriannau llungopio a ffacs yn llwyddiannus
  11. Yn fodlon dysgu a defnyddio systemau a meddalwedd newydd wrth iddyn nhw gael eu cyflwyno
  12. Yn ceisio datblygu ei fedrau SG ei hun
  13. Yn lleoli ac yn defnyddio cyfeirlyfrau safonol/defnydd cyfeirio/llawlyfrau/systemau ffeilio etc ar gyfer systemau electronig a rhai papur
  14. Yn dilyn y drefn/systemau priodol ar gyfer trefnu, cyrchu a dosbarthu gwybodaeth ar ffurf electronig ac ar bapur
  15. Yn cadw cofnodion cywir a'u diweddaru
  16. Yn cyrchu papurau a gwybodaeth yn brydlon
  17. Yn archwilio gwybodaeth o ran cywirdeb a chysondeb ac yn cymryd camau cywiro priodol
  18. Yn cofnodi negesau teleffon yn gywir ac yn trosglwyddo negesau'n brydlon
  19. Yn deall ac yn dilyn trefniadau diogelwch ar gyfer storio a dosbarthu defnydd cyfrinachol

Clwstwr cymhwyster: Rheoli gwaith

Cymhwyster: Defnyddio a rheoli adnoddau

  1. Yn defnyddio'i amser ei hun yn effeithiol
  2. Yn deall blaenoriaethau ac yn ymwybodol o effaith ei weithgareddau ei hun ar eraill
  3. Darbodus wrth ddefnyddio adnoddau'r Arolygiaeth
  4. Yn gwneud cyfrifiadau rhifol cywir
  5. Yn cadw cofnodion ariannol manwl, cywir a llawn gwybodaeth lle mae'n briodol
  6. Yn ymwybodol o effaith amgylcheddol defnyddio adnoddau
  7. Yn trefnu ei amser ei hun i ateb blaenoriaethau
  8. Yn nodi blaenoriaethau rheoli sy'n gwrthdaro, ac yn eu ceisio arweiniad

Clwstwr cymhwyster: Gweithio gyda phobl

Cymhwyster: Rheoli Prosiectau

  1. Yn cymryd rhan weithgar mewn grwpiau prosiect neu fel aelod o Dimau Sicrwydd Prosiectau neu grwpiau Defnyddwyr, lle mae'n briodol.

Clwstwr cymhwyster: Gweithio gyda phobl

Cymhwyster: Gweithio mewn timau a'u rheoli

  1. Yn agored, yn onest ac yn gwrtais wrth ddelio â chydweithwyr, ac yn barod i gynnig gwybodaeth a chymorth lle bydd angen
  2. Yn gwrando ar farn cydweithwyr
  3. Yn gwerthfawrogi nodau tîm, yn deall gwaith cydweithwyr uniongyrchol, yn gallu cymryd eu lle pan fydd angen, ac yn barod i wneud hynny
  4. Yn rhannu gwybodaeth a phrofiad gydag aelodau eraill o'r tîm
  5. Yn gwybod pryd mae angen cyfeirio materion gwaith neu faterion personol at y rheolwr llinell
  6. Yn rhoi gwybod i'r rheolwr llinell a'i rybuddio ef/hi a, unrhyw broblemau posibl
  7. Yn cymryd cyfrifoldeb dros ei gamgymeriadau hun ac yn barod i fynegi hynny os daw ar draws camgymeriadau/anghysondebau
  8. Yn datblygu ac yn cynnal perthynas weithio dda gydag adrannau eraill
  9. Yn amyneddgar ond yn gadarn gyda phobl anodd

Clwstwr cymhwyster: Gweithio gyda phobl

Cymhwyster: Yn rhoi gwerth ar amrywiaeth

  1. Yn trin cydweithwyr, cwsmeriaid a chysylltiadau'n gwrtais ac yn barchus
  2. Yn rhoi gwerth ar amrywiaeth mewn perthynas weithio
  3. Yn dangos ymwybyddiaeth o'r ymrwymiad i ddatganiad cydraddoleb yr Arolygiaeth wrth ddelio â chydweithwyr, cwsmeriaid a chysylltiadau o ddydd i ddydd.

Clwstwr cymhwyster: Gweithio gyda phobl

Cymhwyster: Cynrychioli'r tîm/y Gangen/yr Adran/yr Arolygiaeth

  1. Yn ceisio deall safbwynt eraill ac yn cydweithredu â rhannau eraill o'r Arolygiaeth i gyrraedd amcanion
  2. Yn creu ac yn cynnal cysylltiadau gyda chydweithwyr drwy'r Arolygiaeth i gyd a chyrff eraill y mae eu gwaith yn gysylltiedig â'i waith ei hun

Clwstwr cymhwyster: Effeithiolrwydd personol

Cymhwyster: Cyfathrebu'n effeithiol

  1. Yn cyfathrebu'n glir â'i holl gydweithwyr a'i gwsmeriaid
  2. Yn gwrando, yn gofyn cwestiynau ac yn egluro'n briodol
  3. Yn cyflwyno achos yn glir gan ddarparu awgrymiadau am y ffordd ymlaen
  4. Yn rhoi gwybod i'r rheolwr llinell ac yn awgrymu dewisiadau os na ellir cyrraedd terfynau amser
  5. Gwaith ysgrifenedig yn cydymffurfio â safonau a phatrymau'r Arolygiaeth ac yn cael ei gyflwyno'n glir ac yn dwt
  6. Yn defnyddio gramadeg, yn atalnodi ac yn sillafu'n gywir
  7. Yn defnyddio Saesneg clir

Clwstwr cymhwyster: Effeithiolrwydd personol

Cymhwyster: Delio â newid a'i reoli

  1. Yn fodlon rhoi cynngi ar ffyrdd newydd i weithio, a dysgu tasgau neu fedrau newydd, ac yn agored i syniadau newydd
  2. Yn symud yn briodol rhwng tasgau
  3. Yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am drefn a newidiadau eraill sy'n effeithio ar ei faes gwaith ei hun

Clwstwr cymhwyster: Effeithiolrwydd personol

Cymhwyster: Trafod a dylanwadu

  1. Yn delio'n hyderus a doeth â phobl o fewn y sefydliad a'r tu allan
  2. Yn ymwybodol o effaith eraill ac yn meithrin cydweithrediad gyda chydweithwyr
  3. Yn ddoeth ond yn ddygn wrth delio ag eraill
  4. Yn gwybod â phwy i ymgynghori a phryd
  5. Yn hunan-hyderus a chadarn, yn cyflwyno dadl resymegol, yn barod i sefyll ei dir pan fydd angen
  6. Yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd pan fydd yn briodol

Clwstwr cymhwyster: Effeithiolrwydd personol

Cymhwyster: Egni a phenderfyniad

  1. Yn delio â gwaith anodd neu ailadroddus heb oedi
  2. Yn bodloni terfynau amser neu'n dweud wrth y rheolwr os na ellir gwneud hynny
  3. Yn gweithio'n gyson ac yn gwneud ymdrech ychwanegol i ddelio â llwythi gwaith mawr
  4. Yn canolbwyntio ar y dasg dan sylw, heb gael ei rwystro gan fân anawsterau neu broblemau
  5. Yn gadarn ac yn barod i leisio barn
  6. Yn derbyn cyfrifoldeb dros ei waith ei hun ac yn dilyn pethau drwodd i'r diwedd
  7. Yn ddibynadwy a digyffro dan bwysau

Clwstwr cymhwyster: Effeithiolrwydd personol

Cymhwyster: Datrys problemau a gwneud penderfyniadau

  1. Yn dangos amynedd a phenderfyniad wrth fynd i wraidd problem a'i datrys
  2. Yn crynhoi'r ffeithiau perthnasol a/neu'r dogfennau sydd wrth law ac yn meddwl drwy'r mater yn rhesymegol
  3. Yn deall terfynau ei awdurdod ei hun ac yn gwybod pryd i ymgynghori ag eraill neu roi gwybod iddynt
  4. Yn awgrymu sut i gael canlyniadau yn hytrach nag aros i rywun ddweud wrtho, yn gwneud penderfyniadau'n unol â hynny, heb adael i bethau lusgo ymlaen
  5. Yn ystyried ac yn trafod barn cyn gweithredu
  6. Yng wybod ble i gael gwybodaeth a chyngor a sut i'w defnyddio
  7. Yn ceisio dod o hyd i atebion yn ogystal â nodi problemau

Clwstwr cymhwyster: Effeithiolrwydd personol

Cymhwyster: Yn rhoi gwerth ar ddysgu a syniadau newydd

  1. Yn deall swyddogaeth dysgu mewn bywyd gweithio bob dydd
  2. Yn dangos parodrwydd i ddysgu a derbyn syniadau newydd
  3. Yn rhannu gwybodaeth a medrau gyda chydweithwyr
  4. Yn dysgu o brofiad
  5. Yn cadw meddwl agored wrth wrando ar syniadau a barn eraill
  6. Yn gwybod beth yw terfynau ei wybodaeth a'i arbenigedd a ble i gael gwybodaeth bellach a chyngor
  7. Yn derbyn cyfarwyddiadau ac arweiniad rhesymol
  8. Yn barod i fynegi barn a chyflwyno syniadau
  9. Yn ceisio cymhwyso dysg newydd yn briodol mewn gweithgareddau gwaith
  10. Yn gofyn cwestiynau priodol

Clwstwr cymhwyster: Effeithiolrwydd personol

Cymhwyster: Arfarniad a datblygiad staff

  1. Yn barod i ddysgu medrau newydd ac yn ymgyfarwyddo'n gyflym â ffyrdd newydd o weithio
  2. Yn croesawu cyfle i ddatblygu cymhwyster
  3. Yn cadw Cynllun Datblygiad Personol wedi ei ddiweddaru, neu'r hyn sy'n cyfateb, ac yn ei arolygu'n rheolaidd gyda'r rheolwr llinell
  4. Yn ymateb yn gadarnhaol i ymateb adeiladol
  5. Yn cydnabod tyndra ac yn defnyddio strategaethau cadarnhaol ac adeiladol o dan bwysau
  6. Yn cymryd diddordeb byw yn ei ddatblygiad ei hun ac yn cytuno ar gamau gyda'r rheolwr llinell
  7. Yn cymryd rhan weithgar mewn gweithgareddau hyfforddiant a datblygiad

Clwstwr cymhwyster: Gwybodaeth am yr Arolygiaeth, Cynllunio Busnes a meddwl strategol

Cymhwyster: Deall swyddogaeth, strwythurau, amcanion a gweithdrefnau'r Arolygiaeth Gynllunio

  1. Yn deall swyddogaeth yr Arolygiaeth a sut mae ei swydd yn rhan ohoni
  2. Yn deall swyddogaeth a chyfraniad cydweithwyr yn y tîm, y Gangen a'r Adran
  3. Yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau neu ddatblygiadau yn yr Arolygiaeth sy'n effeithio ar ei faes busnes ei hun
  4. Yn gyfarwydd â threfn sylfaenol yr Arolygiaeth ac yn ei defnyddio, er enghraifft, o ran diogelwch, ac iechyd a diogelwch
  5. Yn deall ac yn defnyddio trefn ariannol yr Arolygiaeth lle bydd yn briodol

Clwstwr cymhwyster: Gwybodaeth am yr Arolygiaeth, Cynllunio Busnes a meddwl strategol
Cymhwyster: Cyfrannu at y broses Cynllunio Busnes

  1. Yn ymwybodol o'r broses cynllunio busnes a'i diben
  2. Yn sicrhau bod gweithrediadau o ddydd i ddydd yn cydymffurfio â'r Cynllun Busnes


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English