Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Graddau Gweinyddol: Telerau ac Amodau

Oriau gwaith a gwyliau blynyddol

Bydd staff yr Arolygiaeth fel rheol yn gweithio wythnos 5-diwrnod o 42 awr, gan gynnwys toriadau cinio. Mae cynlluniau hyblyg ar gael i staff gweinyddol.
Y lwfans gwyliau blynyddol ar hyn o bryd yw 30 diwrnod. Yn ogystal â gwyliau cyhoeddus, mae gan staff yr Arolygiaeth hawl i gael 2 1/ 2 ddiwrnod o wyliau braint.

Cyflogau

Dilynwch y cysylltiad hwn i weld ystod cyflogau'r graddau gweinyddol yn yr Arolygiaeth Gynllunio.

Pensiynau

Mae holl staff yr Arolygiaeth sy'n cael eu cyflogi ar sail barhaol yn gymwys i ymuno â Phrif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Mae'r cynllun yn darparu pensiwn personol heb gyfrannu.

Buddiannau eraill

Mae swyddfeydd yr Arolygiaeth ym Mryste ar hyn o bryd yn Tollgate House, gerllaw Broadmead, a chanolfan siopa Galleries, ac yn gyfleus i'r orsaf bysiau a gorsaf reilffordd Temple Meads. Mae yna nifer o barciau ceir gerllaw. Yn 2001 byddwn yn symud i swyddfeydd newydd yn Temple Quay, sydd wrth ymyl gorsaf reilffordd Temple Meads.

Mae swyddfa'r Arolygiaeth yng Nghaerdydd ym Mharc Cathays yn y Ganolfan Ddinesig hardd, wrth ymyl canolfannau siopa Heol y Frenhines a Chanolfan Dewi Sant. Mae gorsaf reilffordd Parc Cathays bum munud i ffwrdd, gyda chysylltiadau â'r brif reilffordd. Mae yna wasanaethau bws hefyd gerllaw, a nifer o barciau ceir wrth ymyl y swyddfa.

Rydyn ni hefyd yn cynnig amgylchedd weithio dda ddi-smygu , a benthyciadau di-log i brynu tocynnau bws/trên ar ôl cyfnod cymhwyso.

Gofynion cenedligrwydd

Yn gyffredinol, gallwn dderbyn ceisiadau am swyddi yn yr Arolygiaeth dim ond gan y canlynol:-

  • Dinasyddion Prydeinig
  • Dinasyddion y Gymanwlad
  • Pobl Brydeinig sy'n cael eu diogelu
  • Dinnsyddion Gweriniaeth Iwerddon
  • Dinasyddion y GE

Fodd bynnag, hyd yn oed os nad ydych yn un o'r categoriau uchod, gallem gynnig swydd i chi'r un fath. Byddai angen i chi gysylltu â ni i roi manylion llawn am eich cenedligrwydd.


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English