Cymwysterau Craidd - Arolygydd Cynllunio
Nodiadau: Dangosir y cymwysterau mewn llythrennau bras.
Rhestrir isod y meini prawf perfformiad ar gyfer cyflawni pob cymhwyster
A. Effeithiolrwydd Personol
- Dangos cywirdeb, gonestrwydd, tegwch a natur agored
- Creu a chynnal proffil gweladwy a pharchus y gellir ymwneud ag ef
yn rhwydd
- Dangos awdurdod a hunanhyder priodol
- Meddu ar ymagwedd dawel, hyblyg gan ddelio’n effeithiol â digwyddiadau
sydyn ac annisgwyl
- Rheoli sefyllfa lle bo’n briodol
- Sefydlu a rheoli pobl yn briodol mewn ymchwiliadau, gwrandawiadau
ac ymweliadau â’r safle
- Trin pob cydweithiwr, cwsmer ac enw cyswllt â chwrteisi a pharch
- Dangos ymwybyddiaeth o ddatganiad cydraddoldeb yr Arolygiaeth ac ymrwymiad
iddo wrth ymwneud â phob cydweithiwr, cwsmer ac enw cyswllt o ddydd
i ddydd
B. Gwneud Penderfyniadau a Dyfarniadau
- Dangos prosesau meddwl dadansoddol a rhesymegol
- Dadansoddi gwybodaeth anghyson a gwneud penderfyniadau/argymhellion
pwyllog, rhesymegol ac amserol
- Rhagweld a datrys problemau
- Gwneud dyfarniadau doeth wrth wneud pob penderfyniad
- Casglu digon o wybodaeth briodol i lywio penderfyniada
- Gweithredu’n bendant, ar ôl asesu’r sefyllfa, y
cyd-destun a’r canlyniadau posibl
C. Arbenigedd a Chymwyseddau Proffesiynol
- Defnyddio gwybodaeth broffesiynol yn effeithiol ym mhob gweithgaredd
- Cyfeirio materion proffesiynol neu arbenigol at eraill pan fydd angen
gwneud hynny
- Cynnal cymwyseddau proffesiynol drwy ddilyn yr arweiniad, cyngor a’r
datblygiadau technegol a gyhoeddwyd
- Deall y polisi cenedlaethol a’r fframwaith deddfwriaethol sy’n
sail i’r gwaith achos
- Ymgymryd ag ymchwil i feysydd o wybodaeth arbenigol, yn ôl yr
angen.
- Gweithredu’n bendant, ar ôl asesu’r sefyllfa, y
cyd-destun a’r canlyniadau posibl
Ch. Cyfathrebu
- Y gallu i ganolbwyntio a gwrando’n weithredol am gyfnodau estynedig
- Gofyn cwestiynau a’u hegluro’n briodol
- Defnyddio gramadeg, atalnodi a sillafu’n gywir
- Defnyddio Cymraeg Clir a Plain English ac egluro materion technegol
mewn termau sy’n hawdd eu deall
- Y gallu i grynhoi gwybodaeth fanwl yn glir
- Arwain a chymryd rhan mewn trafodaethau
- Siarad ac ysgrifennu yn gryno, rhesymegol ac awdurdodol
- Ystyried barn eraill
D. Rheoli eich hun
- Dangos parodrwydd i ddysgu sgiliau newydd a ffyrdd newydd o weithio
- Ymateb yn gadarnhaol i adborth adeiladol gan groesawu’r cyfle
i ddatblygu Rhinweddau Personol
- Cydnabod ac ymdopi â straen
- Cymryd diddordeb byw yn ei briod ddatblygiad proffesiynol a phersonol
- Trrefnus gyda’r gallu i flaenoriaethu gwaith a rheoli amser yn
effeithlon
- Derbyn cyfrifoldeb dros benderfyniadau a chamau a gymerwyd
- Hunanddibynnol ac yn barod i weithio ar ei ben ei hun mewn amrywiaeth
o fannau gwaith lle y bydd ar ei ben ei hun yn aml
- Y gallu i ddelio â galwadau corfforol ymweliadau â’r
safle ac amgylchedd ymchwiliadau/gwrandawiadau
Dd. Perthynas â'r Sefydliad
- Dilyn y gweithdrefnau diweddaraf a newidiadau eraill sy’n effeithio
ar ei briod faes gwaith chi
- Deall diben targedau a’r cyfraniad y mae angen i Arolygwyr Maes
ei wneud tuag at gyflawniad eu gwaith
- Deall ei gyfraniad ei hun tuag at Weledigaeth ac Amcanion yr Arolygiaeth
- Deall y broses cynllunio busnes a chyfrannu ati lle bo’n briodol
- Ceisio cyfrannu at wella effeithlonrwydd a gwerth am arian
- Gweithredu system rheoli ffeiliau effeithlon a diogel
- Rhoi mewnbwn gweithredol ac adeiladol tuag at sefydliad y pencadlys
ac mewn cyfarfodydd/seminarau grwp ac is-grwp
|