Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Gweithio Gartref - Y dewis iawn i chi?

Cyflwyniad

Yn wahanol i nifer o swyddi eraill, bydd Arolygydd Cynllunio yn treulio llawer iawn o'i amser yn gweithio gartref. Er y gall llawer o bobl ystyried bod hynny'n nodwedd deniadol iawn yn y gwaith, mae'n bwysig cydnabod bod yna anfanteision yn ogystal â buddiannau o weithio fel hyn. Cyn penderfynu gwneud cais, dylech holi'ch hun a yw gweithio gartref yn debygol o achosi unrhyw broblemau i chi, ac os felly, a ellir datrys y problemau hynny. Gall rhai o'r problemau fod yn gymwys i chi, ond nid i bobl eraill. Mae'r holiadur hwn wedi ei lunio i'ch helpu bwyso a mesur a yw gweithio gartref yn bosibilrwydd ymarferol i chi. Mae wedi ei fwriadu i'ch helpu i feddwl am y pynciau.

Sut i ddefnyddio'r holiadur hwn

  • Mae'r holiadur yn cynnwys disgrifiadau o rai o'r prif bynciau sy'n ymwneud â gweithio gartref, y buddiannau a'r anfanteision y mae nifer o bobl sy'n gweithio gartref (gan gynnwys Arolygwyr Cynllunio wrth eu gwaith) wedi eu codi.
  • Byddwch yn sylwi bod '( A/B/C )' yn dilyn nifer o'r gosodiadau.
  • Wrth i chi ddarllen drwy'r disgrifiadau, arhoswch gyda phob un o'r pwyntiau i feddwl a allai'r sefyllfa a ddisgrifir yn y datganiad cyn hynny achosi problem i chi.
  • Os oes gennych ddiddordeb, awgrymwn y dylech argraffu'r holiadur a rhoi cylch o gwmpas un o'r ymatebion fel hyn:

Rhowch gylch o gwmpas 'A' os credwch na fyddai'n achosi problem i chi.

Rhowch gylch o gwmpas 'B' os credwch y gall fod rhai problemau ond na fyddent yn broblemau mawr i chi.

Rhowch gylch o gwmpas 'C' os credwch y byddai'r broblem yn achosi gofid sylweddol i chi.


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English