Yr Arolygiaeth Gynllunio - Graddau Arolygwyr, Cyflogau a Threfniadau PensiwnAmrediadau cyflog ar gyfer Arolygwyr Maes o 1 Mehefin 2005Mae tair gradd o Arolygydd Cynllunio : Arolygydd Tai a Chynllunio (HPI) , Uwch Arolygydd Tai a Chynllunio (SHPI) a Phrif Arolygydd Tai a Chynllunio (PHPI) . Mae cynnydd ar hyd amrediadau cyflog pob gradd yn dibynnu'n bennaf ar berfformiad, fel yr aseswyd gan y rheolwyr llinell. Mae cael dyrchafiad o HPI i SHPI yn dibynnu'n llwyr ar berfformiad: nid yw nifer y swyddi SHPI yn gyfyngedig ac nid oes elfen o gystadleuaeth. Yr oedran ymddeol arferol yw 60 oed. Mae Arolygwyr cyflogedig yn gymwys i ymuno â Phrif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS). Mae'r cynllun yn darparu pensiwn personol anghyfrannol - ar hyn o bryd 1/80 o'r cyflog terfynol fesul blwyddyn o wasanaeth a chyfandaliad o 3/80 o'r cyflog terfynol fesul blwyddyn o wasanaeth. Mae'r PCSPS yn cael ei adolygu ar hyn o bryd, a gallai'r Cynllun newydd ddarparu 1/60 o'r cyflog terfynol heb gyfandaliad. Wrth gwrs, mae'n bosibl trosglwyddo buddiannau pensiwn i mewn i'r PCSPS o'r mwyafrif o gynlluniau eraill ac i brynu blynyddoedd ychwanegol. Fodd bynnag, dylai darpar recriwtiaid newydd werthuso eu hopsiynau trosglwyddo pensiwn yn ofalus cyn ymuno. Arolygydd Tai a Chynllunio
Uwch Arolygydd Tai a Chynllunio
Prif Arolygydd Tai a Chynllunio
Arolygwyr Mynediad a Hawliau Tramwy
|
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |