Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Gweithio yn Swyddfeydd yr Arolygiaeth

Mae gan ein staff gweinyddol yn y swyddfa amrywiaeth helaeth o swyddogaethau:

  • Bydd rhai'n delio'n uniongyrchol â'r cyhoedd, yn casglu ffeiliau achosion, yn cytuno ar ddyddiadau ar gyfer ymchwiliadau ac ymweliadau safle, neu'n cyhoeddi penderfyniadau Arolygwyr.
  • Bydd rhai'n darparu cefnogaeth uniongyrchol i Arolygwyr, yn enwedig mewn ymchwiliadau maith neu pan fydd angen ystyried nifer fawr o bynciau.
  • Bydd rhai'n gwneud penderfyniadau ffurfiol, er enghraifft, ar apelau hysbysebion neu geisiadau am gostau.
  • Bydd rhai'n darparu swyddogaethau cymorth hanfodol yn ein Canghennau Technoleg, Cyllid ac Adnoddau Dynol.

Mae gan ein staff gweinyddol amrywiaeth helaeth o fedrau:

  • Mae gan rai brofiad maith o weithio yn yr Arolygiaeth neu yn un o'n "prif" Adrannau (Adran yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a'r Rhanbarthau a Chynulliad Cenedlaethol Cymru) neu mewn mannau eraill yn y sectorau cyhoeddus neu breifat.
  • Mae gan rai gymwysterau proffesiynol - er enghraifft, mewn cynllunio gwlad a thref neu gyfrifo.
  • Mae gan rai gymwysterau mewn prynu a rheoli personél.

Mewn nifer o swyddi hefyd mae angen cymwysterau swyddogaethol penodol. Darllenwch y fframwaith cymwysterau craidd ar gyfer graddau gweinyddol i gael rhagor o wybodaeth.

Recriwtio i'r graddau gweinyddol

Caiff swyddi gwag eu llenwi naill ai drwy recriwtio agored neu drwy ddyrchafiad o radd is. Ni fyddwn yn defnyddio asiantaethau "chwilio" neu asiantaethau cyflogi i lenwi'n swyddi parhaol. I gael gwybodaeth am gyflogau, darllenwch y Ddogfen strwythur graddau a chyflogau. Caiff y rhan fwyaf o bobl eu recriwtio ar lefel Cynorthwy-ydd Gweinyddol (AA) neu Swyddog Gweinyddol (AO).

Pryd bynnag y bydd angen i ni lenwi swydd wag drwy recriwtio, byddwn yn rhoi hysbysebion yn y Canolfannau swyddi perthnasol a/neu'r papur lleol perthnasol. Fodd bynnag, os yw'n swydd arbenigol benodol - er enghraifft, mewn TG, Cyllid neu Gynllunio - byddwn yn hysbysebu yn y cylchgronau proffesiynol priodol. Ein gofyniad isaf fel rheol yw y dylech gael 2 bwnc TGAU (neu'r hyn sy'n cyfateb) i ddod i mewn ar y radd AA; i ddod i mewn ar y radd AO dylech gael 5 pwnc TGAU. Mae dod i mewn ar raddau uwch yn gofyn am o leiaf ddau bwnc lefel 'A' a/neu gymwysterau mwy penodol.

Ar y ddalen hon hefyd fe welwch amlinelliad o delerau ac amodau cyflogi staff yng ngraddau gweinyddol yr Arolygiaeth.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cael swydd yn yr Arolygaeth Gynllunio, peidiwch â chysylltu â ni i holi am swyddi gwag. Caiff ein swyddi gwag cyfredol eu hysbysebu hefyd ar y safle hon. Fodd bynnag, os bydd gennych unrhyw gwestiynau nad ydynt yn cael sylw rywle arall ar ein gwefan, cofiwch gysylltu â ni.


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English