Rôl ArolygwrDaw'r dyfyniad canlynol o ymarfer recriwtio Arolygwyr Haf 2005:- Yn ddelfrydol, bydd gennych gefndir o unrhyw sector cynllunio neu ddatblygu, yn cynnwys pensaernïaeth, peirianneg sifil neu wasanaethau amgylcheddol ynghyd â'r gallu naturiol i weithio'n annibynnol yn y gweithle, ar y ffordd ac wrth weithio gartref. Mae gofynion y rôl hon yn golygu eich bod yn meddu ar yr hyder a'r sgiliau proffesiynol i wneud penderfyniadau clir, cynhyrchu adroddiadau o safon uchel a dangos arweiniad wrth ymwneud ag ymchwiliadau ac archwiliadau cyhoeddus a chynnal y tair egwyddor sylfaenol o fod yn agored, yn deg ac yn ddiduedd ar yr un pryd. Mewn cydnabyddiaeth, ac o fewn cyd-destun y rôl, cewch y lefel uchaf o hyfforddiant a datblygiad personél. Cewch hefyd gymorth gan gyfuniad o Arolygwyr eraill sy'n byw gerllaw. Rydym yn awyddus iawn i benodi Arolygwyr cyflogedig o bob cwr o Gymru a Lloegr. Gall y swyddi hyn fod yn llawn amser neu'n rhan amser. Felly, lle bynnag rydych yn byw, efallai bod gennym swydd a fydd yn addas ar gyfer eich sgiliau a'ch profiad.
|
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |