Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

SWYDDOG CYNLLUNIO UWCH

(Cyf EB-05-09) Cyflog Cychwynnol £27, 928 yn codi at £31, 310

Am ehangu’ch profiad mewn cynllunio? Yn chwilio am her newydd?

Dyma’ch cyfle i fod ar flaen y gad gyda’r system gynllunio newydd wrth weithio i’r cyflogwr mwyaf ar gynllunwyr proffesiynol yn y wlad. Mae hwn yn gyfle unigryw i weithio gydag Arolygwyr Cynllunio ar amrywiaeth fawr o achosion, a gallu dysgu ganddynt.

Mae gan yr Arolygiaeth Gynllunio swydd wag ar gyfer Swyddog Cynllunio Uwch. Lleolir hi yn ein swyddfa yng Nghaerdydd a byddwch yn gyfrifol am amrywiaeth o achosion gan gynnwys archwilio cynlluniau datblygu lleol yng Nghymru. Bydd cyfle hefyd i gynorthwyo’r Arolygiaeth Gynllunio yn ei rôl wrth ddylanwadu ar ddatblygu polisi ar y lefel genedlaethol drwy baratoi cyngor ar ddogfennau polisi newydd a gyhoeddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r goblygiadau i waith yr Arolygiaeth.

Mae’r swydd yn galw am rywun sydd â phrofiad gwaith ymarferol mewn amgylchedd cynllunio, e.e. Awdurdod Lleol, Ymgynghoriaeth Breifat neu Academaidd.. Bydd rhaid bod gennych hefyd gymhwyster mewn cynllunio neu faes perthynol a bod yn aelod o gorff proffesiynol. Dylai bod gennych brofiad neu wybodaeth am y system gynllunio yng Nghymru, yn benodol y system Cynllun Datblygu Lleol neu’r system Fframwaith Datblygu yn Lloegr. Croesewir ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Ymunwch â ni a gallwn gynnig:

  • Penodiad parhaol - amser llawn neu ran amser;
  • cynllun pensiwn y Gwasanaeth Sifil;
  • 30 diwrnod o wyliau bob blwyddyn a gwyliau cyhoeddus a braint;
  • Oriau gweithio hyblyg;
  • Hyfforddiant mewn gwaith rheolaidd.

Mae’r swyddi canlynol ar gael yn ein swyddfa yng Nghaerdydd

Becyn Cais

Ffurflen Gais Word 210kb

Nodiadau Arweiniad i Ymgeiswyr word281 kb
Nodiadau Arweiniad i Ymgeiswyr PDF 183 kb

Holiadur Cyfle Cyfartal word 216 kb
Holiadur Cyfle Cyfartal PDF 54 kb

Safon Diogelwch Persnel Sylfaenol word 71 kb
Safon Diogelwch Persnel Sylfaenol PDF 31 kb

Diffiniadau o Anableddau fel y’u Diffinir o Dan Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 (Y Ddeddf) word 44 kb
Diffiniadau o Anableddau fel y'n Diffinir o Dan Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Adabledd 1995 (Y Ddeddf) PDF 30kb

Ffurflen Statws Cenedligrwydd a Mewnfudo Safon Diogelwch Personel Sylfaenol word 37 kb
Ffurflen Statws Cenedligrwydd a Mewnfudo Safon Diogelwch Personel Sylfaenol PDF 24 kb

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English