Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2004/05

Materion Ariannol, risg a rheoli prosiect

Ariennir yr Arolygiaeth drwy Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog. Cytunir ar ddyraniadau tair blynedd dynodol cychwynnol fel rhan o ymarferion Adolygiad o Wariant Trysorlys EM bob dwy flynedd ac yna cânt eu mireinio'n flynyddol yn ôl yr angen drwy gylch cynllunio busnes Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog. Nod y newid i gytundebau tair blynedd, a gyflwynwyd yn sgîl yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant yn 1998, yw rhoi mwy o sicrwydd i sefydliadau wrth gynllunio rhaglenni gwariant. O 1 Ebrill 2005, ni fydd cyllid yr Arolygiaeth yn rhan o derfyn cost gweinyddol Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog ond daw o gyllideb rhaglenni'r Swyddfa.

Ceir y cyfrifon manwl ar gyfer y Flwyddyn Ariannol 2004/05 yn ail ran y cyhoeddiad hwn. Rhoddir crynodeb byr o berfformiad yr Arolygiaeth yn erbyn cyllidebau isod:

  Cyllideb - £m Alldro - £m
Costau staff a chostau cysylltiedig 28,190 31,932
Costau rhedeg nad ydynt yn ymwneud â chyflog 16,833 13,334
Costau nad ydynt yn ymwneud ag arian parod 2,189 2,331
Cyfanswm costau rhedeg 47,212 47,597
Gwariant cyfalaf 2,746 2,083
Derbyniadau (10,300) (12,863)

 

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English