Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2004/05Cefndir yr ArolygiaethMae'r Adroddiad Blynyddol hwn ar gyfer 2004/05 yn rhoi trosolwg o berfformiad yr Arolygiaeth Gynllunio ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2005. Bu'r Arolygiaeth yn Asiantaeth Weithredol ers 1992. Mae'n atebol i'r Prif Ysgrifennydd Gwladol yn Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog a Llywodraeth Cynulliad Cymru o dan delerau Dogfen Fframwaith. Mae'n gwasanaethu Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog a Llywodraeth Cynulliad Cymru drwy ymdrin â Fframweithiau Datblygu Lleol a gwaith achos arall o dan ddeddfwriaeth cynllunio, tai, yr amgylchedd a deddfwriaeth gysylltiedig. Mae hefyd yn gwneud gwaith tebyg i adrannau eraill o'r llywodraeth, yn enwedig Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) ar Fynediad, Hawliau Tramwy ac apeliadau Amgylcheddol a'r Adran Drafnidiaeth ar Orchmynion Priffyrdd a gwaith cysylltiedig arall. Mae'n cyflogi ychydig o dan 800 o staff y mae ychydig dros 300 ohonynt yn Arolygwyr. Yn ogystal â hynny mae'n cyflogi oddeutu 200 o Arolygwyr ymgynghorol y telir ffi iddynt. Mae ganddi swyddfeydd yn Temple Quay, Bryste ac ym Mharc Cathays, Caerdydd. Mae'r Arolygwyr hynny sy'n ymgymryd â gwaith achos yn gweithio gartref. Mae'r Adroddiad hwn, a gyhoeddir yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn cynnwys Cyfrifon Blynyddol yr Arolygiaeth. Cyhoeddir Adroddiad Ystadegol ar wahân ar y wefan, a fydd yn rhoi rhagor o fanylion am y gwaith achos a wnaed. Mae'r Prif Weithredwr yn bennaeth ar Fwrdd Rheoli Strategol yr Arolygiaeth sy'n cynnwys Cyfarwyddwr Polisi/Pennaeth Proffesiwn, tri Chyfarwyddwr Gweithredol a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol. Mae'r Bwrdd hefyd yn cynnwys dau Gyfarwyddwr Anweithredol sy'n cynorthwyo drwy roi gwybodaeth a chyngor annibynnol yn unol â'u meysydd unigol o arbenigedd yn seiliedig ar eu profiad ehangach mewn sefydliadau eraill. Dangosir Aelodau Bwrdd yr Arolygiaeth ac uwch reolwyr yn Atodiad A. Amcanion y Bwrdd Rheoli Strategol yw rhoi cyngor strategol i'r Prif Weithredwr. Yn arbennig, mae'n cynghori ar ddyrannu'r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni targedau'r Gweinidog, ar y ffordd y dylid cyfleu rôl, cyfeiriad a blaenoriaethau'r Arolygiaeth i'r staff a rhanddeiliad eraill, yn monitro perfformiad yr Arolygiaeth ac yn ceisio ei wella ac yn sicrhau bod y sefydliad yn ymateb i anghenion cwsmeriaid. Rhoddir i'r Bwrdd y dasg o gyflawni cenhadaeth, gwerthoedd ac amcanion yr Arolygiaeth (a amlinellir isod) sy'n cynnwys cyflawni targedau a bennir gan Weinidogion. |
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |