Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2004/05

Cyflwyniad y Prif Weithredwr:

Photo of Katrine Sporle

 

Croeso i Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yr Arolygiaeth Gynllunio ar gyfer 2004/05.

Bu hon yn flwyddyn anodd a'r brif nodwedd fu'r cynnydd o hyd yn ein llwyth gwaith ar apeliadau cynllunio (yn Lloegr). Ceir manylion llawn yn yr Adroddiad hwn, ond mae'n werth cofnodi yma dros y cyfnod 2001/02 i 2004/05, fod cynnydd o 37% yn nifer yr apeliadau a ddaeth i law. Un nodwedd benodol ar ein llwyth gwaith ychwanegol fu'r cynnydd yn nifer yr apeliadau a ddaeth i law rhwng Tachwedd 2003 a Mai 2004. Bu'r penderfyniad i leihau'r cyfnod apelio o 6 i 3 mis yn ffactor arwyddocaol mewn creu'r cynnydd sydyn hwn ac, o ganlyniad i'r cynnydd yn nifer yr apeliadau a ddaeth i law, cronnodd y gwaith. Mae newidiadau o ran polisi, gweithdrefnau a newidiadau eraill wedi arwain at gynnydd sylweddol i ymdrin â'r ôl-groniad: mae'r ôl-groniad mewn apeliadau wedi gostwng o fwy na 4,700 ym mis Tachwedd 2004 i lai na 1,800 ar ddiwedd mis Mai 2005.

Erbyn i'r Adroddiad hwn gael ei gyhoeddi byddwn wedi dileu'r ôl-groniad. Mae'n amlwg, fodd bynnag, bod heriau mawr yn ein hwynebu o ran cydbwyso'r llwyth gwaith â'r adnoddau ac o ran sicrhau bod y sefydliad yn addas at y diben.

Rydym wedi cwblhau'r broses o ailstrwythuro'r Arolygiaeth bellach er mwyn sicrhau y gall ddarparu gwasanaethau o safon wedi'u hanelu at y cwsmer yn effeithiol. Penodwyd tri Chyfarwyddwr newydd ac rwyf yn falch o groesawu Sandra Fryer sy'n ymuno â ni o Gyngor Dinas Bryste, Mark Parkinson o Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau a Leonora Rozee sydd wedi cael dyrchafiad o fewn yr Arolygiaeth. Rwyf yn ffyddiog y byddant, ynghyd â holl staff yr Arolygiaeth, yn helpu i wireddu manteision y broses ailstrwythuro, gan gynnwys galluogi'r busnes i ganolbwyntio'n fwy clir ar y prif faterion a fydd yn codi yn y dyfodol.

Ni allaf orbwysleisio pwysigrwydd staff yr Arolygiaeth a'r rhan y maent wedi'i chwarae, nid yn unig o ran yr hyn a gyflawnwyd ganddynt ond hefyd yn eu cyfraniad cadarnhaol tuag at ein cyflawniadau. Gall pawb sydd wedi cyfrannu - ein staff yn y swyddfa a'n Harolygwyr - ymfalchïo'n deg yn y ffaith ein bod yn parhau i wneud cynnydd a hoffwn ddiolch iddynt am eu hymrwymiad a'u gwaith caled.

Mae'r cyflawniadau a nodir yn yr adroddiad hwn yn sylfaen gadarn ar gyfer symud yn ein blaenau i sicrhau y gallwn ymateb yn effeithiol ac yn effeithlon i'r heriau sydd o'n blaenau. Rydym yn ymrwymedig i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid a'u disgwyliadau cynyddol ac rydym yn gweithio'n galed i sicrhau ein bod yn darparu'r gwasanaeth o safon ardderchog a ddisgwylir oddi wrthym. Fel rhan o'r broses hon, byddwn hefyd yn ymdrechu i fodloni dyheadau ein rhanddeiliaid sy'n cynrychioli'r sefydliadau yr ydym yn cysylltu â hwy fwyaf.

 

 

Katrine Sporle
Prif Weithredwr
Mehefin 2005



Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English