Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2004/05

Materion yn ymwneud â chyflogeion

Caiff swyddi gwag yn yr Arolygiaeth eu llenwi drwy recriwtio o'r tu allan a throsglwyddo a dyrchafu staff yn fewnol. Gall staff ddatblygu eu gyrfaoedd ymhellach o fewn y Gwasanaeth Sifil ehangach drwy wneud cais am swyddi a hysbysebir yn adrannau eraill y Llywodraeth.

Mae'r ffigurau staffio, wedi'u mynegi yn ffigurau sy'n cyfateb ag amser llawn, yng Nghymru a Lloegr fel a ganlyn:

  1 Ebrill 2004 1 Ebrill 2005
Arolygwyr 285.2 283.9
Staff sy'n gweithio yn y Swyddfa 459.2 462.7
Cyfanswm 744.4 746.6

Caiff pob aelod o staff ei recriwtio i'r Arolygiaeth ar sail cystadleuaeth deg ac agored a dewisir ymgeiswyr yn ôl teilyngdod. Gellir gwneud eithriadau a ganiateir mewn rhai amgylchiadau. Ni fu unrhyw eithriadau a ganiateir yn ystod y flwyddyn. Hysbysir pob swydd wag sy'n agored i ymgeiswyr allanol ar y wefan, ar wefan y gwasanaeth sifil, yn y Ganolfan Byd Gwaith, ac mewn cylchgronau a phapurau newydd perthnasol. Mae systemau recriwtio'r Arolygiaeth yn cael eu harchwilio gan archwilwyr mewnol a chan Swyddfa Comisiynwyr y Gwasanaeth Sifil.  

Yn ogystal â'i staff cyflogedig mae'r Arolygiaeth yn defnyddio gwasanaeth Arolygwyr hunangyflogedig y telir ffi iddynt. Mae'r Arolygwyr hyn yn gweithio o dan wahanol gontractau am adegau gwahanol o'r flwyddyn.

  1 Ebrill 2004 1 Ebrill 2005
Arolygwyr y telir ffi iddynt (cyfanswm) 154 205

Er nad yw Arolygwyr y telir ffi iddynt yn weision sifil cyflogedig, cânt eu dewis a'u penodi drwy ddilyn yr un egwyddorion o gystadleuaeth deg ac agored ag a ddefnyddir ar gyfer penodi gweision sifil cyflogedig.

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English