Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2004/05

Rhagair gan y Gweinidog

Yvette Cooper

Mae'n bleser gennyf gyflwyno Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yr Arolygiaeth Gynllunio ar gyfer 2004/05

Mae'r Llywodraeth yn parhau'n gwbl ymrwymedig i ddarparu cyfundrefn gynllunio effeithiol sy'n arwain at ganlyniadau o safon ac yn creu cymunedau cynaliadwy. Gwn fod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad yn Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Rwyf yn ymwybodol iawn o'r problemau a wynebodd yr Arolygiaeth dros y flwyddyn ddiwethaf ac maent wedi'u dogfennu yn yr Adroddiad hwn. Ond, fe'm calonogwyd gan y ffordd yr aethpwyd i'r afael â'r problemau hynny a chymeradwyaf staff yr Arolygiaeth am barhau â'i lefelau o gynhyrchiant a rhagori arnynt. Croesawaf hefyd y camau a gymerwyd gan yr Arolygiaeth i roi ar waith ei gweledigaeth newydd ar gyfer y dyfodol ac rwyf yn hyderus y bydd y broses ailstrwythuro yn galluogi'r Arolygiaeth i ymdopi â llwyth gwaith cynyddol yn y dyfodol agos ac yn y tymor hwy.

Bydd angen i'r Arolygiaeth barhau i addasu a datblygu er mwyn bodloni disgwyliadau cynyddol cwsmeriaid a chyfrannu i flaenoriaethau polisi'r Llywodraeth a'u hadlewyrchu. Rwyf yn ffyddiog y bydd yn gwneud hynny.

 

Yvette Cooper

Y Gweinidog dros Dai a Chynllunio

1 Gorffennaf 2005

 

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English